Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mathau o bensiynau

Mae tri phrif fath o gynllun pensiwn: Pensiwn y Wladwriaeth; pensiwn personol; a phensiwn cwmni (galwedigaethol).

Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth

Gallwch hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth o oed Pensiwn y Wladwriaeth: ar hyn o bryd 65 i ddynion, 60 i ferched a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950. Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu i ddynion a merched o 65 i 68 oed rhwng 2024 a 2046.

Gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth os oes gennych ddigon o 'flynyddoedd cymwyso' wedi'u cronni. Blwyddyn gymwyso yw blwyddyn dreth lle rydych wedi talu digon o gyfraniadau YG ar eich enillion, neu yr ydych yn cael eich trin fel petaech wedi talu digon, neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG.

Does dim rhaid i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth cyn gynted ag y cyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Fe gewch ei hawlio'n nes ymlaen a chael mwy o swm bob wythnos, neu ddewis cael taliad unswm trethadwy.

Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Efallai y bydd gennych hawl i gael Pensiwn ychwanegol gan y Wladwriaeth, er enghraifft, os ydych yn gweithio'n amser llawn ac yn gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol dosbarth 1.

Pan fyddwch yn ymddeol ac yn hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, bydd unrhyw Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth sy'n ddyledus yn cael ei ychwanegu.

Os ydych wedi bod yn aelod o gynllun pensiwn cwmni, efallai eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd lai sy'n golygu mai dim ond Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael. Os ydych yn gwneud hyn, bydd y rhan fwyaf, neu'r cyfan o'ch ail bensiwn, yn dod o'ch pensiwn cwmni yn hytrach nag o ail Bensiwn y Wladwriaeth.

Pensiynau personol

Mae pensiynau personol i'w cael gan fanciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant bywyd, sy'n buddsoddi'ch cynilion ar eich rhan.
Gallwch ddechrau cael incwm o bensiwn personol yn 50 oed (cynyddu i 55 erbyn 2010).

Does dim terfyn ar y nifer o gynlluniau pensiwn personol y gallwch eu sefydlu, ac ni fydd unrhyw gyfraniadau a wneir gennych yn effeithio ar eich hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

O fis Ebrill 2006 byddwch yn gallu cynilo gymaint ag y dymunwch mewn cynllun pensiwn. Bob blwyddyn, byddwch yn gallu cael gostyngiad treth ar eich cyfraniadau pensiwn hyd at 100 y cant o'ch enillion (cyflog ac incwm arall a enillir) hyd at 'lwfans blynyddol' ac uwchben y swm hwn bydd treth yn cael ei chodi. O safbwynt ymarferol, mae hyn yn golygu am bob punt y byddwch chi'n ei rhoi yn eich pensiwn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu at eich pot pensiwn, gan ddefnyddio arian y byddai fel arall wedi'i dynnu oddi arnoch ar ffurf treth. Gweler yr erthygl gysylltiedig 'Rheolau pensiwn o fis Ebrill 2006' i weld y manylion.

Pensiynau cyfranddeiliaid

Math o bensiwn personol yw pensiwn cyfranddeiliaid. Rhaid iddynt fodloni safonau penodol a bennir gan y llywodraeth i sicrhau bod y gost yn isel a'u bod yn hyblyg.


Gall unrhyw un gael pensiwn cyfranddeiliaid ac mae'n werth eu hystyried os ydych yn hunangyflogedig neu os nad yw eich cyflogwr yn cynnig pensiwn cwmni. Gallwch gyfrannu cyn lleied ag £20 y mis. Does dim rhaid ichi fod yn gweithio i gyfrannu at bensiwn cyfranddeiliaid a does dim rhaid ichi gyfrannu bob mis os nad ydych yn gallu gwneud hynny.

Gyda phensiynau cyfranddeiliaid, gallwch dderbyn o leiaf rhan o'ch taliadau pensiwn yn 50 oed (yn codi i 55 erbyn 2010). Fe gewch ostyngiad treth ar gyfraniadau pensiwn cyfranddeiliaid - hyd at y lwfans blynyddol a ddisgrifiwyd uchod.

Pensiynau cwmni (galwedigaethol)

Sefydlir pensiynau cwmni (galwedigaethol) gan gyflogwyr ar gyfer eu gweithwyr.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich cyflogwr yn gwneud cyfraniadau i'r cynllun ar eich rhan a bydd disgwyl i ichi wneud taliadau rheolaidd o'ch cyflog.

Gall pensiwn cwmni hefyd gynnig budd-dal marwolaeth, a delir i'ch partner os byddwch yn marw o'u blaen. Mae'n bosibl hefyd y bydd eich cyflogwr yn darparu pensiwn ichi os bydd angen ichi ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd.

Fodd bynnag, os byddwch yn gadael, ni fydd eich cyflogwr yn gallu parhau i wneud taliadau i'r cynllun pensiwn.

Fe gewch ostyngiad treth ar gyfraniadau at bensiwn cwmni - hyd at y 'lwfans blynyddol' cyffredinol a ddisgrifiwyd uchod. Efallai bydd  rhai cynlluniau gynnig cyfle i chi barhau i weithio wrth godi'ch pensiwn cwmni.

Pensiynau personol i grwpiau eraill drwy eich cyflogwr

Mae rhai cyflogwyr yn trefnu i'w gweithwyr gael mynediad at gynllun pensiwn personol. Efallai hefyd y byddant wedi negodi costau gweinyddu is gyda'r darparwyr pensiwn ac yn gwneud cyfraniadau i'ch pensiwn eu hunain.

Bydd eich cyflogwr fel arfer yn dewis darparwr pensiwn (e.e. banc neu gwmni yswiriant bywyd) ac yn dewis cynllun pensiwn a fydd, yn eu barn hwy, yn addas i'w gweithwyr. Gelwir trefniant o'r fath yn 'bensiwn personol Grŵp'.

Mae Pensiwn Personol Grŵp yn bensiwn personol ac ni ddylid ei ddrysu gyda chynllun pensiwn galwedigaethol. Byddwch yn cael gostyngiad treth ar eich cyfraniadau, fel a ddisgrifiwyd uchod.

Os penderfynwch adael eich cyflogwr byddwch yn gallu parhau i wneud taliadau i'ch pensiwn, ond efallai y bydd yn rhaid ichi dalu costau gweinyddu uwch.

Pensiynau ar gyfer yr hunangyflogedig

Os ydych yn hunangyflogedig, rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol dosbarth 2. Trwy dalu'r rhain, bydd gennych hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ond nid i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Os hoffech dderbyn mwy na Phensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ar ôl ymddeol, efallai yr hoffech ystyried dechrau cynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn cyfranddeiliaid. Byddwch wedyn yn gallu gwneud taliadau rheolaidd er mwyn cronni cynilion ar gyfer eich ymddeoliad.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU