Mae gwahanol fathau o gynlluniau pensiwn cwmni ('galwedigaethol'), ac mae'r rheolau'n amrywio o gwmni i gwmni. Mae'r hyn sy'n digwydd i'ch pensiwn pan fyddwch yn marw yn dibynnu ar y math o gynllun sydd gennych, ei reolau ac a ydych eisoes wedi ymddeol.
Mae'r swm a gewch yn seiliedig ar eich cyflog a nifer y blynyddoedd yr ydych wedi bod yn y cynllun.
Mae'r swm a gewch yn seiliedig ar faint yr ydych chi a'ch cyflogwr wedi'i gyfrannu a'r llog, neu'r twf, sydd wedi'i ennill.
Adeg ymddeol, defnyddir yr arian yr ydych wedi'i gronni yn eich cronfa i ddarparu'ch pensiwn, yn aml trwy brynu blwydd-dal (buddsoddiad gan gwmni yswiriant sy'n gwarantu talu incwm rheolaidd ichi am oes).
Mae'r hyn sy'n digwydd i'ch cronfa bensiwn yn dibynnu ar y canlynol:
Yn dibynnu ar reolau'ch cynllun, mae'n bosibl bod nifer o fuddion yn daladwy, yn cynnwys:
Dyma'r buddion mwyaf y gallech eu cael, ac mae llawer o gynlluniau'n talu symiau llai, felly mae'n syniad da cael gwybod gan weinyddwr eich cynllun beth yn union mae'ch cynllun yn ei ddarparu. Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau'n darparu buddion i'ch partner priod neu bartner sifil, ond os oes gennych bartner a heb fod yn briod nac mewn partneriaeth sifil dan y gyfraith, efallai na fydd eich cynllun yn eu cydnabod.
Os ydych yn aelod gohiriedig, yn aml mae gan eich dibynyddion lai o hawliau i fuddion na phetaech yn aelod gweithredol, ond eto mae hyn yn dibynnu ar reolau'ch cynllun.
Weithiau bydd eich dibynyddion ond yn cael yn ôl y cyfraniadau yr ydych wedi'u talu, heb log. Ond os yw'r cynllun yn darparu buddion yn lle Ail Bensiwn y Wladwriaeth a chithau'n briod neu mewn partneriaeth sifil, rhaid iddo ddarparu incwm i'ch partner priod neu bartner sifil.
Mae rhai cynlluniau'n fwy hael ac yn talu hyd at ddwy ran o dair o'ch pensiwn i'ch partner priod neu bartner sifil.
Gyda chynlluniau pwrcasu arian, mae'r rheolau fel arfer yr un fath pa un a ydych yn aelod gweithredol neu'n aelod gohiriedig.
Bydd eich cronfa bensiwn yn cael ei had-dalu i'r buddiolwr yr ydych wedi'i ddewis neu i'ch ystad. Os yw'r cynllun wedi'i gontractio allan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth, fel arfer bydd rhywfaint o'r budd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu incwm i'ch partner priod neu bartner sifil.
Yn aml darperir budd ar ffurf taliad unswm hefyd drwy yswiriant, ond mae'r cynlluniau'n amrywio'n fawr ac mae'n syniad da holi gweinyddwr eich cynllun i ganfod beth yn unig y mae'ch cynllun chi'n ei ddarparu.
Pan fyddwch yn ymuno â chynllun cwmni, mae'n debyg y gofynnir ichi lenwi ffurflen 'mynegi dymuniad'. Mae'r ffurflen hon yn nodi i bwy yr hoffech i unrhyw fuddion taliad unswm gael eu talu.
Ymddiriedolwyr eich cynllun fel arfer fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch pwy sy'n derbyn eich buddion taliad unswm. Byddant fel arfer yn gwneud yr hyn yr ydych wedi'i nodi ar eich ffurflen, ac felly mae'n bwysig ei diwygio os bydd eich amgylchiadau'n newid.
Mae gan y rhan fwyaf o bensiynau gyfnod gwarant o bum (neu, yn llai cyffredin, ddeg) mlynedd. Os byddwch yn marw o fewn y cyfnod hwnnw, telir balans y cyfnod gwarant, weithiau fel taliad unswm, i'r person yr ydych wedi'i enwebu neu i'ch ystad.
Efallai y bydd pensiwn yn daladwy i'ch partner priod neu bartner sifil, fel arfer am weddill eu hoes. Mae rhai cynlluniau'n darparu pensiynau i bartneriaid nad ydynt yn briod neu heb fod mewn partneriaeth sifil, ond nid yw pob un yn gwneud hynny, ac felly mae'n bwysig canfod beth y mae'ch cynllun yn ei ddarparu.
Bydd rheolau'ch cynllun yn dweud wrthych a oes pensiwn ar gyfer eich partner ac os oes, faint. Yn y rhan fwyaf achosion, oddeutu hanner yw'r swm, ond gall fod gymaint â dwy ran o dair.
Os defnyddir eich cronfa i brynu blwydd-dal, gallwch fel arfer ddewis faint o bensiwn fydd yn daladwy i'ch partner os byddwch yn marw - hyd at uchafswm o ddwy ran o dair o uchafswm y pensiwn y byddai'r cynllun wedi gallu'i ddarparu i chi.
Mae gan ymddiriedolwyr eich cynllun ddyletswydd i ofalu am fuddiannau'r aelodau neu, os bydd aelod yn marw, buddiannau'u dibynyddion, felly dylent hwy, neu weinyddwr y cynllun, allu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Gallech siarad ag ymgynghorydd ariannol annibynnol i gael cyngor annibynnol. Efallai y bydd yn rhaid talu ffi, felly mae'n werth holi ymlaen llaw.
Os nad ydych yn fodlon gyda chyngor yr ymddiriedolwyr, neu os oes gennych guyn, gall y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau ddarparu arweiniad annibynnol.
Gall yr Ombwdsmon Pensiynau ymchwilio i gwynion am y ffordd y rheolir cynlluniau pensiwn, neu i anghydfodau am benderfyniadau ymddiriedolwyr.
Os ydych yn poeni ynghylch y ffordd mae cynllun pensiwn eich cwmni'n cael ei reoli, gallwch gysylltu â'r Rheolydd Pensiynau.
.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0870 6063636 (llinellau cymorth ar agor rhwng 9.00 am a 5.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).