Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth i'w wneud os na fydd cynllun pensiwn eich cwmni'n gallu talu'ch pensiwn

Os bydd cynllun pensiwn eich cwmni'n mynd yn brin o arian, a'r cwmni ei hun yn mynd yn ansolfent, gallai eich pensiwn fod mewn perygl. Ond mae cynlluniau ar gael sy'n rhoi cymorth ariannol os ydych ar eich colled gyda'ch pensiwn (yn dibynnu ar ffactorau megis y math o bensiwn ydyw a phryd y cafodd y pensiwn ei ddirwyn i ben).

All pensiwn cwmni fynd yn brin o arian?

Mae'n bosib i gynllun gael ei hun yn brin o arian os yw'n gynllun 'cyflog terfynol'. Nid yw hyn yn bosib gyda chynllun 'pwrcasu arian'.

Cynllun pwrcasu arian

Bydd eich cyfraniadau chi (a chyfraniadau'ch cyflogwr) yn cael eu buddsoddi gan gwmni yswiriant neu reolwr proffesiynol ar eich rhan. Ni fydd yn bosib i chi gael gwybod faint o bensiwn a gewch yn y pen draw gan ei fod yn dibynnu ar ba mor dda mae'r buddsoddiad wedi perfformio. Yn yr ystyr hwnnw, dim ond achos o dwyll neu ddwyn a all arwain at ddiffyg yn y cynllun. Mewn amgylchiadau o’r fath, efallai y bydd yn bosib adfer rhywfaint o’r arian drwy’r Gronfa Diogelu Pensiynau.

Mae gan bob aelod o gynllun pwrcasu arian bot pensiwn ar wahân sy’n darparu eu buddion.

Cynllun cyflog terfynol (neu gynllun 'buddion diffiniedig')

Mae'r swm a gewch yn seiliedig ar eich cyflog a nifer y blynyddoedd yr ydych wedi bod yn rhan o’r cynllun. Rhoddir yr holl arian mewn un pot pensiwn a bydd hwnnw’n darparu buddion i'w holl aelodau sydd wedi ymddeol.

Gall eich cynllun ganfod ei hun yn brin o arian os yw'r swm y mae'n gorfod ei dalu allan heddiw – neu'r swm y mae wedi addo ei dalu yn y dyfodol – yn fwy na chyfanswm gwerth ei fuddsoddiadau (sy'n cynnwys holl gyfraniadau'r aelodau hyd yma).

Yn y rhan fwyaf o achosion, os yw cynllun yn rhedeg allan o arian, mae cefnogaeth ar gael i ddigolledu aelodau.

Beth sy'n digwydd os bydd eich cwmni'n mynd yn ansolfent?

Os aiff eich cwmni’n ansolfent, ni ellir defnyddio ei gronfa bensiwn i dalu dyledion y cwmni, felly mae'r gronfa wedi'i diogelu.

Fodd bynnag, efallai y bydd arian yn ddyledus i'r gronfa bensiwn gan y cwmni. Fel arfer, bydd y gronfa bensiwn yn gredydwr ansicredig ond efallai y bydd wedi sicrhau statws uwch a mwy ffafriol â’r cyflogwr mewn rhai achosion. Mae credydwyr eraill yn dod dan gredydwyr ansicredig.

Oherwydd darpariaeth bresennol mewn deddfwriaeth, pan fydd diffyg mewn cynllun pensiwn galwedigaethol cyflog terfynol sy’n cael ei ddirwyn i ben, y cyflogwr fydd yn ysgwyddo’r ddyled. Mae hyn wedi’i gynllunio i wella’r warchodaeth a gynigir i aelodau’r cynllun pan fydd hyn yn digwydd. Mae’n darparu mecanwaith i'r ymddiriedolwyr gymryd camau i fynd ar drywydd y diffyg sy'n ddyledus i'r cynllun gan y cyflogwr.

Gallai diffyg yn y gronfa olygu y byddwch yn cael pensiwn llai. Ond efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol gan y Gronfa Diogelu Pensiynau neu'r Cynllun Cymorth Ariannol.

Y Gronfa Diogelu Pensiynau

Diogelir aelodau cynlluniau pensiwn galwedigaethol buddion diffiniedig drwy'r Gronfa Diogelu Pensiynau, a fydd yn talu iawndal rheolaidd, yn seiliedig ar faint eich pensiwn, os aiff y cwmni'n ansolfent a'r cynllun pensiwn heb ddigon o arian i dalu'ch pensiwn. Mae'r Gronfa'n berthnasol i'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn galwedigaethol buddion diffiniedig lle daw'r cyflogwyr yn ansolfent ar ôl 6 Ebrill 2005.

Os yw cynllun pensiwn eich cwmni'n bodloni amodau'r Gronfa Diogelu Pensiynau, bydd y Gronfa'n talu iawndal rheolaidd ichi. Os ydych eisoes wedi cyrraedd oed ymddeol arferol eich cynllun, bydd gennych hawl i iawndal sy'n cyfateb i 100 y cant o'ch pensiwn. Os nad ydych eto wedi cyrraedd oed ymddeol arferol eich cynllun, byddwch yn derbyn iawndal sy'n cyfateb i 90 y cant o'ch hawl pensiwn, yn amodol ar reolau'r Gronfa a hyd at uchafswm o £26,935.70 y flwyddyn, pan fyddwch yn ymddeol.

Os yw cynllun pensiwn eich cwmni wedi dioddef colled yn ei asedau o ganlyniad i weithredu – neu fethiant i weithredu – sy'n gyfystyr â thwyll, gellir gwneud cais i'r Gronfa Iawndal yn achos Twyll a reolir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb hwn o’r Bwrdd Iawndal Pensiynau i'r Gronfa Diogelu Pensiynau ar 1 Medi 2005. Yn wahanol i agweddau eraill y Gronfa Diogelu Pensiynau, mae'r ddarpariaeth hon yn berthnasol i'r rhan fwyaf o gynlluniau cyfraniadau diffiniedig a buddion diffiniedig.

Y Cynllun Cymorth Ariannol

Os ydych yn aelod o gynllun unigol ac ar eich colled gyda'ch pensiwn o ganlyniad i’ch cynllun yn cael ei ddirwyn i ben ar ôl 1 Ionawr 1997 ac ar ôl cyflwyno’r Gronfa Diogelu Pensiynau, efallai y bydd modd i chi gael cymorth gan y Cynllun Cymorth Ariannol:

  • os na thalwyd digon i’ch cynllun buddion diffiniedig a
  • bod eich cyflogwr yn ansolfent, ddim yn bodoli mwyach neu wedi cytuno ar gytundeb cyfaddawd dilys ag ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn i osgoi ansolfedd, neu
  • mewn rhai amgylchiadau, cafodd eich pensiwn cyflog terfynol ei ddirwyn i ben oherwydd ni fydd yn gallu talu budd-daliadau aelodau hyd yn oed os mae’r cyflogwr yn parhau i fasnachu

Os ydych yn bodloni rhai amodau penodol eraill bydd y Cynllun Cymorth Ariannol yn rhoi cymorth ariannol hyd at 90 y cant o’r pensiwn yr ydych wedi’i gronni o’ch oed ymddeol cyffredin neu o 14 Mai 2004 ymlaen, pa un bynnag yw'r hwyraf. Yr oed ymddeol cyffredin yw'r oed y byddwch yn ymddeol, fel y nodir yn eich rheolau cynllun pensiwn.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cymorth Ariannol, pa gynlluniau sy'n gymwys a pha amodau y bydd yn rhaid ichi eu bodloni ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Yn achos twyll neu ddwyn

Os bu diffyg yng nghronfa bensiwn eich cwmni oherwydd twyll neu ddwyn, mae'n bosib y gellir adfer rhywfaint o'r arian drwy'r Gronfa Diogelu Pensiynau (darllenwch y 'Gronfa Diogelu Pensiynau' uchod) sy’n gweithredu’r Cynllun Iawndal yn achos Twyll.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y gronfa ar 08456 002 541 (rhwng 8.00 am a 5.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Cau cynllun cyflog terfynol

Os ydych yn perthyn i gynllun pensiwn cyflog terfynol, ei ymddiriedolwyr sy'n gyfrifol am sicrhau nad yw'r cynllun yn canfod ei hun yn brin o arian. Er mwyn cyfyngu ar y costau yn y dyfodol, gall y cyflogwr neu’r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:

  • ‘cau’ y cynllun i aelodau newydd – sy'n golygu y gall aelodau presennol barhau i gyfrannu a derbyn pensiwn wrth ymddeol
  • ‘rhewi’ y cynllun – sy’n golygu bod y cynllun ar gau i bawb a bod buddion yr aelodau presennol yn peidio â chronni

Gall cyflogwr (neu'r ymddiriedolwyr) hefyd benderfynu dirwyn cynllun pensiwn i ben unrhyw bryd. Mae hyn yn golygu cau'r cynllun i bawb a defnyddio’i asedau er budd yr aelodau. Os bydd y cwmni’n parhau mewn busnes, efallai y bydd yn rhaid iddo o leiaf ddarparu mynediad at gynllun cyfranddeiliaid (cynllun nad oes rhaid iddynt gyfrannu ato) yn lle’r llall.

Lle i gael cymorth

Ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn

Gall ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn roi cyngor i chi am eich cynllun pensiwn.

Gweinyddwr eich cynllun pensiwn

Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn ateb cwestiynau penodol am eich pensiwn.

Y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau

Mae'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n rhoi cyngor annibynnol am reolau a rheoliadau cyffredinol pensiynau. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch eu llinell gymorth ar 0845 601 2923 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.)

Y Gronfa Diogelu Pensiynau

Mae'r Gronfa Diogelu Pensiynau'n darparu iawndal i aelodau'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn cyflog terfynol/buddion diffiniedig os yw'r cyflogwr yn mynd yn ansolfent ar ôl 6 Ebrill 2005. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cynlluniau sydd wedi cael colledion oherwydd twyll.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0845 600 2541 (rhwng 8.00 am a 5.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Y Cynllun Cymorth Ariannol

Mae’r Cynllun Cymorth Ariannol yn rhoi cymorth i aelodau cynlluniau buddion a ddiffinnir fel rhai galwedigaethol, sy’n dirwyn i ben rhwng 1 Ionawr 1997 a 5 Ebrill 2005.

Y Rheoleiddiwr Pensiynau

Mae gan y Rheoleiddiwr Pensiynau bwerau i reoleiddio'r ffordd y mae cynlluniau pensiynau cwmni'n cael eu rhedeg ac i ymchwilio i dwyll pensiynau a chynlluniau sy'n cael eu rheoli'n wael.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ffonio 0870 241 1144 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Yr Ombwdsmon Pensiynau

Mae'r Ombwdsmon Pensiynau'n ymchwilio i gwynion am sut y defnyddir rheolau cynlluniau pensiwn. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 020 7834 9144 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU