Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth i'w wneud os bydd cynllun pensiwn eich cwmni'n cael ei gau, ei rhewi neu ei ddirwyn i ben

Os yw eich cwmni'n cael problemau gyda'i gynllun pensiwn cyflog terfynol, efallai y bydd y cwmni neu ymddiriedolwyr y cynllun yn penderfynu cau'r cynllun i aelodau newydd, rhewi (gau i bawb) neu ei ddirwyn i ben (cau yn gyfan gwbl).  Gellir enwi ‘cynllun pensiwn cyflog terfynol’  fel ‘cynllun pensiwn cyflog-perthnasol’ neu ‘gynllun pensiwn budd-dal diffiniedig’.

Pam fod cynlluniau cyflog terfynol (buddion diffiniedig) yn cael eu cau neu eu rhewi

Gyda chynllun cyflog terfynol, mae'r pensiwn a gewch wrth ymddeol yn seiliedig ar eich cyflog a nifer y blynyddoedd yr ydych wedi bod yn y cynllun. Rhoddir yr holl arian mewn un pot a hwnnw sy'n darparu buddion i'w holl aelodau sydd wedi ymddeol.

Gall eich cynllun ganfod ei hun yn brin o arian os yw'r swm y mae'n gorfod ei dalu allan heddiw - neu'r swm y mae wedi addo ei dalu yn y dyfodol - yn fwy na chyfanswm gwerth ei fuddsoddiadau (sy'n cynnwys holl gyfraniadau'r aelodau hyd yma).

Ymddiriedolwyr eich cynllun sy'n gyfrifol am sicrhau nad yw'r cynllun yn canfod ei hun yn brin o arian. Er mwyn cyfyngu ar y gost yn y dyfodol, gallant un ai:

  • ‘cau’ y cynllun i aelodau newydd - sy'n golygu y gall aelodau cyfredol barhau i gyfrannu a derbyn pensiwn
  • ‘rhewi’ y cynllun - sy'n golygu y bydd buddion yr aelodau cyfredol yn stopio cronni pan gaeir y cynllun
     

Beth sy'n digwydd os yw eich cynllun cyflog terfynol yn cael ei gau i aelodau newydd?

Os yw eich cynllun wedi cau i aelodau newydd, bydd effaith hyn arnoch chi yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Os ydych eisoes yn aelod o'r cynllun, ni ddylai effeithio arnoch, oherwydd byddai’r cynllun yn parhau i redeg yn normal ym mhob agwedd arall.

Os ydych yn weithiwr newydd, gallwch ofyn i'ch cyflogwr a ydynt yn cynnig mynediad i fath arall o gynllun pensiwn, megis:

  • cynllun pensiwn galwedigaethol pwrcasu arian (neu gynllun 'cyfraniadau diffiniedig')
  • cynllun pensiwn personol grŵp
  • pensiwn cyfranddeiliaid

Os ydych yn ymuno â chynllun pensiwn cyfranddeiliaid neu bensiwn personol grŵp, does dim rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu at yr un o'r ddau, ac rydych yn debygol o dderbyn llai o fuddion na gweithwyr sy'n aelodau o gynllun cwmni cyflog terfynol. Mae cyflogwyr yn cyfrannu at y rhan fwyaf o bensiynau personol grŵp, ond does dim rhaid iddynt wneud hynny dan y gyfraith.

Beth sy'n digwydd os yw eich cynllun cyflog terfynol yn cael ei rhewi?

Ble mae cynllun wedi ei rhewi, ni gesglir rhagor o gyfraniadau wrth aelodau presennol. Os ydych yn aelod o'r cynllun, bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn dweud wrthych faint o fuddion sydd gennych. Bydd rhaid i'ch cyflogwr ddarparu mynediad i fath gwahanol o gynllun yn yr un ffordd ag ar gyfer gweithwyr newydd.

Pam fod cynlluniau cyflog terfynol yn cael eu dirwyn i ben

Mae ‘dirwyn i ben’ yn broses o gau cynllun pensiwn galwadigaethol. Gallwi hyn ddigwydd am nifer o wahanol rhesymau yn dibynnu ar rheolau’r cynllun. Mae rhain yn cynnwys:

  • os mae’r cwmni wedi mynd allan o fusnes
  • os mae'r cwmni wedi uno gyda busnes arall neu wedi ei brynu gan fusnes arall
  • os nid yw’r cyflogwr yn cyfrannu i’r cynllun rhagor
  • os mae’r Rheolydd Pensiwn wedi gorchymyn cynllun i ddirwyn i ben
  • os mae ymddiriedolwyr y cynllun wedi penderfynu i ddirwyn y cynllyn i ben

Yn ddifater beth wnaeth i’r cynllun ddirwyn i ben, , mae angen i’r ymddireidolwyr rhoi wybod i’r aelodau bod y cynllun wedi dirwyn i ben a darparu rhesymau o fewn un mis o wneud hyn. Mae’n rhaid iddynt hefyd darparu enw a chyfeiriad y cyswllt ar gyfer rhagor o ymholiadau ynghylch y cynllun. Mae’n rhaid iddyn hefyd hefyd darparu gwybodaeth i aelodau ar sail gyson yn ystod y broses dirwyn i ben.

Os mae eich cynllun yn dirwyn i ben, gallwch gael cyngor ynghylch opsiynau wrth y’r ymddiriedolwyr. Gallwch hefyd gael cyngor gan y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau, neu gynghorwr ariannol annibynnol.

Beth sy'n digwydd os yw eich cynllun cyflog terfynol yn cael ei ddirwyn i ben?

Bydd yr hyn sy'n digwydd i'ch cynllun cyflog terfynol yn dibynnu ar y rheswm pam ei fod yn cael ei ddirwyn i ben.

Os yw eich cyflogwr yn dal i fasnachu, ond heb allu fforddio parhau i ariannu eich cynllun

Mae asedau'r cynllun yn cael eu prisio i sicrhau bod y cynllun yn dal mewn credyd, fel ei fod yn gallu talu'r buddion mae’r aelodau cynllun yn disgwyl. Os nad yw'n gallu, dylai’r cyflogwr dalu'r diffyg.

Ar ddiwedd y broses ‘dirwyn i ben’ efallai bydd nifer o opsiynau ar agor i chi. Yr opsiynau pennaf ydy:

  • gellir defnyddio asedau'r cynllun i brynu 'blwydd-daliadau' - sy'n sicrhau incwm yn y dyfodol
  • gellid trosglwyddo'ch buddion i gynllun pensiwn arall (ar gyfer di-bensiynwyr yn unig)

Os yw eich cyflogwr yn uno gyda chwmni arall neu'n cael ei brynu gan gwmni arall

Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu mynediad i drefniadau pensiwn eraill, a bydd yn rhoi manylion ichi.

Os yw eich cyflogwr yn rhoi'r gorau i fasnachu

O fis Ebrill 2005, os yw eich cyflogwr yn dod yn ansolfent a'ch cynllun yn methu â thalu'r buddion yr oeddech yn disgwyl, efallai y gallwch gael iawndal am rywfaint neu'r cyfan o'ch pensiwn gan y Gronfa Diogelu Pensiynau.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â'r Gronfa ar 0845 600 2541 (rhwng 8.00 am a 5.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.)

Os daw eich cyflogwr yn ansolfent a'ch cynllun yn gallu fforddio talu buddion uwchlaw lefel iawndal y Gronfa Diogelu Pensiynau, bydd yn cynllun yn dirwyn i ben yn annibynnol o’r Gronfa Diogelu Pensiynau.

Os dechreuodd eich cynllun i ddirwyn i ben heb gyllid digonol, rhwng 1 Ionawr 1997 a 5 Ebrill 2005 ac mae’r cyflogwr yn ddyledus neu ddim yn bodoli rhagor, efallai byddwch yn gymwys ar gyfer cymorth wrth y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS).

Os ydych eisoes wedi gadael y cwmni

Efallai y gallwch drosglwyddo'ch buddion i gynllun pensiwn eich cyflogwr newydd neu i gynllun pensiwn personol.

Os ydych wedi talu i gynllun eich cwmni am lai na dwy flynedd

Efallai byddwch yn gymwys i dderbyn ad-daliad am eich  cyfraniadau.  Dylech ofyn eich gweinyddwr cynllun pensiwn.

Mae'n bwysig cael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol neu gan y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am brynu blwydd-daliadau neu drosglwyddo'ch pensiwn.

Ble i gael cyngor

Ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn

Gall ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn rhoi cyngor am eich cynllun pensiwn.

Gweinyddwr eich cynllun pensiwn

Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn ateb cwestiynau penodol am eich pensiwn.

Y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau

Mae'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n rhoi cyngor annibynnol am reolau a rheoliadau cyffredinol pensiynau.

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol sy'n rheoleiddio gwerthiant cynnyrch pensiynau. Ceir gwybodaeth am bensiynau ar ei wefan.

Y Rheolydd Pensiynau

Mae gan y Rheolydd Pensiynau bwerau i reoleiddio'r ffordd y mae cynlluniau pensiynau cwmni'n cael eu rhedeg ac i ymchwilio i dwyll pensiynau a chynlluniau sy'n cael eu rheoli'n wael.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ffonio 0870 241 1144 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU