Mae Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVCs) yn ffordd gost-effeithiol o gynyddu eich cronfa bensiwn os oes gennych gynllun pensiwn cwmni. Ond, ers mis Ebrill 2006 bydd gennych fwy o ffyrdd o dalu mwy i'ch pensiwn.
Mae cyfraniadau i gynllun pensiwn cwmni ('galwedigaethol') fel arfer yn cynnwys:
Fodd bynnag, efallai eich bod am gynyddu gwerth eich cronfa bensiwn er mwyn darparu buddion ychwanegol i chi neu eich teulu, neu oherwydd ichi ddechrau cynilo ar gyfer pensiwn yn hwyrach yn eich bywyd.
Un opsiwn yw gwneud taliadau ychwanegol o'ch cyflog, er mwyn ichi dderbyn pensiwn mwy wrth ymddeol. Gelwir y taliadau hyn yn Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVCs) ac maent yn cael eu cynnig gan bob cynllun pensiwn cwmni hyd at fis Ebrill 2006.
Gallwch fanteisio ar:
Mae'n bosib na fydd rhai cwmnïau'n cynnig AVCs ar ôl mis Ebrill 2006 gan fod mwy o ddewis ar gael bellach ar gyfer ychwanegu at eich pensiwn drwy ddulliau eraill.
Bydd y buddion a gewch o'ch CGY yn dibynnu ar y math o gynllun cwmni yr ydych yn rhan ohono a rheolau'r cynllun.
Gyda chynllun pwrcasu arian, mae'ch cyfraniadau (a chyfraniadau'ch cyflogwr) yn cael eu buddsoddi gan gwmni yswiriant neu reolwr proffesiynol. Mae maint eich pensiwn yn dibynnu ar faint yr ydych wedi'i gyfrannu a pha mor dda y mae'r buddsoddiadau wedi perfformio.
Pan fyddwch yn ymddeol, defnyddir y gronfa gyfan - gan gynnwys eich Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol - i brynu pensiwn ichi.
Gyda chynllun cyflog terfynol, mae'r swm a gewch yn seiliedig ar eich cyflog a nifer y blynyddoedd yr ydych wedi bod yn y cynllun. Weithiau mae Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn cynyddu nifer y blynyddoedd y seilir eich buddion arnynt; weithiau maent yn cronni cronfa ar wahân er mwyn prynu buddion ychwanegol.
Bydd angen ichi siarad â gweinyddwr eich cynllun pensiwn i gael gwybod am reolau'ch cynllun.
Os byddwch yn marw, fel arfer, fe ad-delir eich AVCs - ynghyd ag unrhyw log sydd wedi cronni arnynt. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar reolau eich cynllun, ac felly bydd rhaid ichi holi gweinyddwr eich cynllun pensiwn chi.
Mae'r rhain yn wahanol i Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol oherwydd:
Dyma fanteision Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Annibynnol:
Ond bydd y costau gweinyddu fel arfer yn uwch.
Hyd at fis Ebrill 2006 oherwydd y cyfyngiadau ar faint y gallech ei dalu i bensiwn cwmni a phensiwn personol ar y run pryd, weithiau, yr unig ddewis ar gyfer ychwanegu at eich pensiwn oedd talu AVCs.
Ers Ebrill 2006 ymlaen, gallwch gynilo faint a fynnoch mewn unrhyw nifer o bensiynau (pensiwn cwmni a phensiwn personol - gan gynnwys pensiwn cyfranddeiliaid), gan gynnwys drwy gyfrwng AVCs a FSAVCs. Cewch ostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion bob blwyddyn, yn amodol ar 'lwfans blynyddol' uchaf. (Bydd cynilion uwchben y lwfans blynyddol a 'lwfans oes' ar wahân o gyfanswm cynilion pensiwn yn cael eu trethu.)
Mae nifer i sefydliadau'n cynnig gwybodaeth am ddim ynghylch y gwahanol ffyrdd o gynilo ar gyfer eich pensiwn ond allan nhw ddim rhoi cyngor ariannol personol i chi. I ddeall yr opsiynau gorau i chi, mae'n syniad da cael cyngor ariannol.