Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Newidiadau i bensiynau

Mae newidiadau'n cael eu gwneud i Bensiwn y Wladwriaeth a sut y byddwch yn gymwys amdano. Bydd y newidiadau hyn yn dechrau dod i rym ym mis Ebrill 2010.

Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ar hyn o bryd

Os ydych chi eisoes yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, neu os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010, ni chaiff y newidiadau hyn lawer o effaith arnoch. Un newid a fydd yn effeithio arnoch chi yw y bydd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu'n unol ag enillion o 2012 ymlaen, ar y cynharaf. Bydd hyn yn golygu y dylai godi'n gyflymach bob blwyddyn nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd.

Newidiadau i Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth

Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yw'r incwm ymddeoliad y cewch ei hawlio wedi i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, os ydych chi wedi talu neu gael eich credydu â digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod eich bywyd gwaith.

Dyma'r newidiadau allweddol i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ar gyfer pobl sy'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny:

  • lleihau nifer y blynyddoedd cymhwyso y mae eu hangen i dderbyn Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth i 30
  • bydd unrhyw nifer o flynyddoedd cymhwyso'n rhoi hawl i gael o leiaf rywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, a gellir cyflawni hyn drwy gyfraniadau Yswiriant Gwladol a delir neu a 'gredydir'

Rhieni a gofalwyr

Efallai y gall pobl sy'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny gael hawl i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth drwy'r credydau cyfraniadau Yswiriant Gwladol newydd. Dyma pwy fydd yn gymwys ar gyfer hyn:

  • rhieni a chanddynt blentyn dibynnol o dan 12 mlwydd oed
  • gofalwyr maeth cymeradwy
  • pobl sy'n gofalu am bobl ddifrifol anabl am o leiaf 20 awr yr wythnos

Caiff unrhyw ddyfarniadau Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (DCC) yn y gorffennol eu trosi'n flynyddoedd o gredydau.

Newidiadau oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw’r oedran cynharaf y gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.

Ar hyn o bryd, oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw 65 i ddynion a 60 i ferched a aned cyn 6 Ebrill 1950. Fodd bynnag, bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer merched a aned ar 6 Ebrill 1950 neu ar ôl hynny yn codi'n raddol o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020.

Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a merched yn cynyddu ymhellach o 65 i 68 mlwydd oed rhwng 2024 a 2046. Bydd hyn yn effeithio ar unrhyw un a aned ar 6 Ebrill 1959 neu ar ôl hynny.

Newidiadau i Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Telir Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar ben Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Fe'i gelwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth ac fe'i cyflwynwyd er mwyn diwygio Cynllun Pensiwn ar sail Enillion y Wladwriaeth (SERPS). Mae eich hawl i'w dderbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Bydd newidiadau allweddol i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn cynnwys:

  • caniatáu i bobl gyfuno cyfraniadau o'u henillion gyda chredydau Yswiriant Gwladol am ofalu er mwyn ennill blynyddoedd cymhwyso ar gyfer Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth o 2010 ymlaen
  • caniatáu i bobl sy'n gofalu am blant hyd at 12 oed, gofalwyr maeth cymeradwy a'r rhai hynny sy'n treulio o leiaf 20 awr yr wythnos yn gofalu am bobl ddifrifol anabl gronni hawl o 2010 ymlaen
  • newid y dull cronni - yn y dyfodol, ychwanegir taliad syml wythnosol ar gyfradd safonol at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth; caiff yr elfen gyfredol sy'n ymwneud ag enillion ei thynnu fel y bydd pobl yn cronni hawl ar sail cyfradd safonol erbyn oddeutu 2030 neu'n fuan wedi hynny

Mae'n bosibl contractio allan neu ddewis cael eich eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os ydych chi mewn cynllun pensiwn preifat sy'n bodloni rhai amodau penodol. O 2012 ar y cynharaf, ni chaniateir contractio allan i gynllun pensiwn preifat ar sail cyfraniad diffiniedig.

Newidiadau ychwanegiad oedolion dibynnol

O 6 Ebrill 2010, ni fydd yn bosib rhagor i hawlio cynnydd o’ch Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer oedolyn arall. Mae hyn yn ‘ychwanegiad oedolion dibynnol’. Mae hyn yn ychwanegiad yn eich Pensiwn y Wladwriaeth am wraig, gŵr neu rywun sy’n edrych ar ôl eich plant, os mae ef neu hi’n cael eu hystyried i fod yn ddibynnol yn ariannol arnoch.

Os ydych eisoes yn gymwys i’r ychwanegiad ar 5 Ebrill 2010, byddwch yn gallu ei gadw hyd nes nad ydych yn cyrraedd y cyflyrau am yr ychwanegiad neu i fyny at 5 Ebrill 2020, pa un bynnag sydd gyntaf.

Os ydych yn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, ni fyddwch yn gallu hawlio ychwanegiad ar gyfer oedolyn sy’n dibynnu arnoch chi’n ariannol pan yr ydych yn hawlio eich Pensiwn yn Wladwriaeth yn y diwedd.

Newidiadau Credyd Pensiwn

Os ydych chi'n 60 neu drosodd ac yn byw ym Mhrydain Fawr, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn Credyd Pensiwn. Mae'n sicrhau y caiff pobl 60 oed neu hŷn y lefel isaf o incwm. Mae hefyd yn gwobrwyo'r rhai hynny sydd wedi cynilo ychydig tuag at eu hymddeoliad.

O 2008 ymlaen, bydd y sicrwydd isaf safonol mewn Credyd Pensiwn yn parhau i godi'n unol ag enillion.

Allweddumynediad llywodraeth y DU