Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut mae gwneud iawn am bethau os nad oes gennych lawer o bensiwn neu ddim un o gwbl

Os nad ydych wedi hel pensiwn neu ond wedi hel ychydig bach, mae'n bosib y byddwch chi'n awyddus i ystyried cychwyn pensiwn personol yn ogystal ag edrych ar unrhyw opsiynau ar gyfer cynilo tuag at bensiwn drwy'ch gwaith. Lle da i ddechrau fyddai cael gwybod faint o bensiwn y Wladwriaeth y bydd gennych yr hawl iddo.

Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y bydd gennych yr hawl iddo?

Er mwyn derbyn Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, bydd angen ichi gronni digon o 'flynyddoedd cymwys' cyn ichi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Blwyddyn gymwys yw blwyddyn dreth lle rydych wedi talu digon o gyfraniadau YG ar eich enillion, neu yr ydych yn cael eich trin fel petaech wedi talu digon, neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG).

Yn 2009-20010 bydd angen ichi gael £4,940 neu fwy o'r cyfryw enillion fel gweithiwr, neu £5,075 neu fwy os ydych yn hunangyflogedig.

Gan ddibynnu ar faint o flynyddoedd cymwys sydd gennych, byddwch yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth wythnosol rhwng yr isafswm a'r uchafswm. £23.81 a £95.25 yw’r rhain ar gyfer y flwyddyn dreth 2009-2010. Os nad oes gennych ddigon o flynyddoedd cymwys wrth ymddeol, byddwch yn cael llai o Bensiwn y Wladwriaeth neu ddim o gwbl hyd yn oed.

Cael rhagolwg o'r Pensiwn gewch chi gan y Wladwriaeth

I gael amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth gewch chi ar ôl ymddeol, gallwch ofyn am ragolwg. Bydd hwn yn rhoi manylion faint o Bensiwn y Wladwriaeth yr ydych wedi'i ennill eisoes a beth y gallwch ei ddisgwyl ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Mae Rhagolygon o’r Pensiwn gewch chi gan y Wladwriaeth ond ar gael i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu cyn 5 Ebrill 2010.

 Ychwanegu at Bensiwn y Wladwriaeth

Os oes gennych flynyddoedd treth nad ydynt yn cyfrif fel blynyddoedd cymwys, mae'n werth cael gwybod a allwch gynyddu Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth trwy dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer y blynyddoedd hynny. Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn ôl i 1996.

Os nad ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol oherwydd ichi fod yn gofalu am blentyn neu berson gwael neu anabl, dylech gael eich credydu'n awtomatig gyda chyfraniadau am y blynyddoedd hynny.

Gallwch gael gwybod mwy gan y Gwasanaeth Pensiwn drwy ffonio 0845 3000 168 (ffôn testun 0845 3000 169). Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Trefnu pensiwn personol

Ffordd arall o sicrhau darpariaeth ychwanegol ar gyfer eich ymddeoliad yw sefydlu pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid. Math o bensiwn personol yw pensiwn cyfranddeiliaid sy'n gorfod bodloni safonau sylfaenol y llywodraeth. Er enghraifft, gallwch wneud taliadau hyblyg ac mae'r costau rheoli blynyddol wedi'u ffrwyno.

Un o brif fanteision pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid yw bod y llywodraeth yn rhoi gostyngiad treth ar eich cyfraniadau i'ch cronfa bensiwn. Ar gyfer trethdalwyr ar y gyfradd sylfaenol, mae hyn yn golygu bod y llywodraeth, am bob £80 sy'n cael ei dalu i'ch cronfa, yn talu £20 arall.

Ymuno â chynllun pensiwn cwmni (galwedigaethol)

Os ydych yn gweithio i gyflogwr sy'n trefnu cynllun pensiwn cwmni ac os ydych yn gallu ymuno â'r cynllun hwnnw, dylech weld a yw gwneud hynny er eich lles gorau chi.

Gofynnwch i weinyddwyr y cynllun esbonio'r buddion a ddarperir gan y cynllun a faint fyddwch yn gorfod ei gyfrannu o'ch cyflog.

Os byddwch yn newid eich gwaith, mae'n debyg na fyddwch yn gallu parhau i dalu i mewn i'r cynllun. Ond bydd gennych hawl i unrhyw bensiwn sydd wedi'i gronni eisoes gennych wrth ymddeol neu gallwch ei drosglwyddo i gynllun pensiwn arall.

Faint o bensiynau alla'i eu cael?

Cewch godi cymaint o bensiynau ag y dymunwch chi, ond bydd taliadau gweinyddu'n berthnasol i bob cynllun unigol. Fe all fod yn werth ceisio cyngor gan ymgynghorydd annibynnol cyn cychwyn mwy nag un cynllun.

Alla' i dalu gymaint ag y dymunaf i'm pensiynau?

Ers mis Ebrill 2006 gallwch gyfrannu faint fynnwch chi i faint bynnag o gynlluniau pensiwn fynnwch chi. Bob blwyddyn, byddwch yn derbyn gostyngiad treth ar eich cyfraniadau pensiwn hyd at 100 y cant o'ch enillion (cyflog ac incwm arall a enillir) hyd at 'lwfans blynyddol' ac uwchben y swm hwn bydd treth yn cael ei chodi. Darllenwch y manylion yn ein herthygl gysylltiedig.

Cyngor ariannol

Os hoffech gael cyngor ariannol ynghylch ychwanegu at eich darpariaeth pensiwn, mae sawl ffynhonnell o wybodaeth ddi-dâl ar gael. Mae'r rhain yn cynnwys y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau a'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Neu gallwch ofyn am help gan ymgynghorydd ariannol annibynnol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU