Mae'n beth call holi faint o bensiwn gewch chi wrth ymddeol, er mwyn i chi gymryd camau nawr os tybiwch chi na fydd gennych ddigon i fyw arno ar ôl ymddeol. Gallwch wneud hyn drwy ofyn am ragolwg o faint fydd eich Pensiwn gan y Wladwriaeth neu bensiynau eraill yn eu talu i chi.
Gallwch ofyn i ddarparwr eich pensiwn am ragolwg o beth fydd eich pensiwn yn ei dalu pan fyddwch yn ymddeol. Efallai mai eich cyflogwr yw darparwr eich pensiwn os ydych yn cyfrannu at gynllun pensiwn cwmni (galwedigaethol), neu ddarparwr eich pensiwn personol.
Bydd darparwr eich pensiwn yn anfon gwybodaeth benodol atoch yn rheolaidd - e.e. datganiad blynyddol o werth eich cronfa bensiwn. Dylai hwn gynnwys rhagolwg o incwm eich pensiwn adeg ymddeol.
Cofiwch mai dim ond amcangyfrif yw'r rhagolwg, sy'n seiliedig ar nifer o dybiaethau, gan gynnwys:
Gallai'r holl ffactorau hyn newid unrhyw bryd, a'r amser hynny efallai y bydd angen rhagolwg newydd arnoch.
Bydd rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthoch gwerth cyfredol eich pensiwn gan y wladwriaeth a pha incwm y gallwch ei ddisgwyl ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth wedi'i seilio ar eich cofnod Yswiriant Gwladol hyd yn hyn a rhagdybiaethau wedi'u wneud o amgylch unrhyw gyfraniadau byddwch efallai yn gwneud yn y dyfodol cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Yn aml mae'n ddefnyddiol cael syniad o'r holl incwm y gallwch ei ddisgwyl wrth ymddeol.
Mae Rhagolwg Cyfunol o’ch Pensiwn yn rhoi amcangyfrif o’ch incwm cyfan mewn ymddeoliad wrth gyfuno manylion o’ch pensiwn personol neu alwedigaethol gyda’ch rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae Rhagolwg Cyfunol o’ch Pensiwn yn darparu ar sail wirfoddol gan cyflogwyr a darparwyr pensiwn mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Pensiwn. Bydd rhaid i chi edrych i weld os yw eich cynllun neu gyflogwr yn cymryd rhan yn y gwasanaeth.
Os ydych wedi colli trywydd cynllun pensiwn personol neu gwmni ac yn ansicr o'r manylion, fel arfer gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau helpu i'w olrhain a hynny am ddim.
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau ar 0845 6002 537 (rhwng 9 am a 6 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener), ar +44 191 218 2466 o du allan y DU drwy ffôn testun ar 0845 3000 169; neu drwy lenwi ffurflen gais ar-lein ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn.
Os ydych yn poeni nad ydych efallai yn talu digon i'ch pensiwn, gall cyfrifiannell pensiwn ddangos beth fyddai'n digwydd petaech yn talu mwy.
Os penderfynwch gyfrannu mwy, siaradwch â'ch cyflogwr (os oes gennych bensiwn cwmni) neu ddarparwr eich pensiwn personol ynghylch cynyddu'ch taliadau.
Os cewch broblemau'n cael rhagolwg gan ddarparwr eich pensiwn, neu os ydych yn bryderus fod eich cronfa'n cael ei rheoli'n wael, gallwch gysylltu â nifer o gyrff.