Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Oes angen i chi ychwanegu at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol?

Os ceir bwlch yng nghofnod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG), mae'n bosib y bydd hyn yn effeithio ar eich hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau profedigaeth. Mae'n bosib yr hoffech chi ystyried llenwi'r bylchau drwy dalu Cyfraniadau YG gwirfoddol. Bydd a yw'n gwneud synnwyr i chi wneud hynny ai peidio yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys faint o gyfraniadau yr ydych wedi'u gwneud yn barod a phryd y byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Cyfraniadau YG a Phensiwn y Wladwriaeth

Mae faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth (a rhai budd-daliadau eraill y wladwriaeth) y mae gennych hawl iddo yn seiliedig ar gofnod eich Cyfraniadau YG yn ystod eich bywyd gwaith o'r adeg pan oeddech yn 16 oed nes byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r cofnod hwn yn cynnwys manylion y Cyfraniadau YG sydd wedi'u talu neu wedi'u credydu i chi ym mhob blwyddyn dreth. Mae angen cael lleiafswm o gyfraniadau er mwyn i flwyddyn gyfrif fel 'blwyddyn gymwys' at gofnod eich cyfraniadau.

Sut y gall bylchau ymddangos yng nghofnod eich Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Efallai fod bylchau yng nghofnod eich Cyfraniadau YG am amrywiol resymau. Er enghraifft, efallai i chi fod:

  • yn gyflogedig a'ch enillion yn isel (yn is na'r terfyn enillion is o £95 yr wythnos (cyfraddau 2009-10)
  • yn ddi-waith a ddim yn hawlio budd-daliadau
  • yn hunangyflogedig ac wedi'ch eithrio rhag talu cyfraniadau Dosbarth 2 oherwydd eich bod wedi gwneud cais am Dystysgrif Eithrio ac wedi cael un
  • yn byw dramor

Faint o flynyddoedd cymwys y mae eu hangen arnoch i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn?

Mae hyn yn dibynnu ar pryd y byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Os byddwch yn cyrraedd yr oed ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny bydd angen llai o flynyddoedd cymwys arnoch na'r hyn y mae ei angen ar hyn o bryd. Hefyd, o'r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd nifer y blynyddoedd cymwys y mae eu hangen i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn yr un fath i ddynion ac i fenywod - maent yn wahanol ar hyn o bryd. Gweler y tabl isod.

Cofiwch y gallech gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn gyda llai o flynyddoedd cymwys os byddwch yn cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref am y blynyddoedd nad oeddech yn gweithio neu pan oedd eich enillion yn rhy isel i gael blwyddyn gymwys a chithau â chyfrifoldebau gofalu.

Y blynyddoedd cymwys y mae eu hangen i allu hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn
Nifer y blynyddoedd cymwys Dynion Menywod
Os byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010 44 fel arfer 39 fel arfer
Os byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny 30 30


Yr effaith ar Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os nad yw'r nifer lawn o flynyddoedd cymwys gennych

Os nad yw'r nifer lawn o flynyddoedd cymwys gennych pan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y swm a gewch yn dibynnu ar y dyddiad y gwnaethoch gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ac ar nifer y blynyddoedd cymwys yr ydych wedi'u cronni.

 

Yr effaith ar Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os nad oes gennych ddigon o flynyddoedd cymwys a'ch bod yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Nifer y blynyddoedd cymwys Faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth gewch chi (cyfraddau 2008-09)

Dynion: 11-44

Menywod: 10-39

Rhwng yr isafswm o £23.81 yr wythnos a'r uchafswm o £95.25 yr wythnos

Dynion: 0-10

Menywod: 0-9

Chewch chi ddim Pensiwn gan y Wladwriaeth ar sail cofnod eich Cyfraniadau YG chi (efallai y cewch rywfaint ar sail cofnod eich partner priod neu bartner sifil os ydynt hwy wedi talu digon o Gyfraniadau YG)

Yr effaith ar Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os nad oes gennych ddigon o flynyddoedd cymwys a'ch bod yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny

O 6 Ebrill 2010 ymlaen bydd nifer y blynyddoedd cymwys y mae eu hangen yr un fath i ddynion ac i fenywod.

Cewch 1/30 o'r swm uchaf posibl y gellir ei gael o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ar gyfer pob blwyddyn gymwys sydd gennych. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd unrhyw nifer o flynyddoedd cymwys yn rhoi hawl i chi gael rhywfaint o leiaf o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Felly, petai gennych, er enghraifft, 10 o flynyddoedd cymwys byddai gennych hawl i 10/30 o swm llawn Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Sut y gwyddoch os nad oes gennych ddigon o Gyfraniadau YG?

Mae nifer o ffyrdd o ganfod a oes gennych ddigon o Gyfraniadau YG ai peidio:

Llythyr yn nodi nad oes gennych ddigon o Gyfraniadau YG

Os oes gennych unrhyw fylchau yn eich cofnod, efallai y cewch lythyr gan Gyllid a Thollau EM rhwng mis Medi a mis Ionawr bob blwyddyn. Nid gorchymyn yw'r llythyr - ond fe fydd yn dweud wrthych faint y gallwch ei dalu os oes arnoch eisiau llenwi'r bylchau a sut y gallwch dalu os penderfynwch wneud hynny.

Cael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Gallwch weld a yw'n debygol y bydd gennych ddiffyg cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy ofyn am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth gan y Gwasanaeth Pensiwn.

Llinell Ymholiadau am Yswiriant Gwladol

Gallwch hefyd holi Llinell Ymholiadau am Yswiriant Gwladol Cyllid a Thollau EM ar 0845 915 5996 i weld cofnod eich Cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Byddant yn dweud wrthych faint yw'r diffyg, os oes diffyg o gwbl, ac yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch ychwanegu at y cyfraniadau er mwyn lleihau'r diffyg.

Os ydych yn byw dramor neu wedi byw dramor

Os ydych chi wedi byw dramor ewch i'r adran 'Talu cyfraniadau gwirfoddol am gyfnodau a dreuliwyd dramor' yn nes ymlaen ar ôl darllen gweddill yr erthygl hon.

Penderfynu a ydych am ychwanegu at eich Cyfraniadau YG os nad oes gennych ddigon ohonynt

Chi sydd i benderfynu a ydych am ychwanegu at unrhyw ddiffyg. Dylech gofio, fodd bynnag, bydd nifer y blynyddoedd cymwys y bydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn yn lleihau i 30 ar gyfer pobl sy'n cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, felly mae angen i chi feddwl yn ofalus a oes angen i chi ychwanegu at eich cyfraniadau ai peidio. Ar yr un pryd, bydd angen i chi gofio am yr effaith a gaiff peidio ag ychwanegu at eich cyfraniadau ar rai budd-daliadau profedigaeth - gweler yr adran nesaf ar hyn am fwy o wybodaeth.

Os nad ydych yn siŵr, efallai y gall Cyngor Ar Bopeth neu nifer o gyrff eraill sy'n cynnig eu gwasanaeth am ddim eich helpu - neu fe allech gysylltu ag ymgynghorydd ariannol (ond dylech gofio y gall y rhain godi tâl).

Budd-daliadau profedigaeth a blynyddoedd cymwys

Os byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, mae'n bwysig cofio y bydd eich hawl i fudd-daliadau profedigaeth (sy'n cael eu talu i briod neu i bartner sifil y sawl sydd wedi marw os yw dan oed Pensiwn y Wladwriaeth, ac yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ymadawedig) yn aros yr un fath, sef hyd at 39 o flynyddoedd cymwys i fenywod a hyd at 44 o flynyddoedd cymwys i ddynion. Efallai y byddwch am gofio hyn wrth ystyried a ydych am ychwanegu at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol ai peidio.

Dyddiadau cau ar gyfer ychwanegu at eich Cyfraniadau YG os nad oes gennych ddigon ohonynt

Fel arfer, os nad oes gennych ddigon o Gyfraniadau YG rhaid i chi ychwanegu atynt o fewn chwe blynedd i ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn cael eu talu ar ei chyfer - a gallwch wneud hyn hyd yn oed os ydych eisoes wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Er enghraifft, rhaid talu Cyfraniadau YG Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer blwyddyn 2008-09 erbyn 5 Ebrill 2015. Ond efallai y bydd y gyfradd yn cynyddu os byddwch yn talu fwy na dwy flynedd ar ôl i'r flwyddyn dreth berthnasol ddod i ben.

Fodd bynnag, ceir rhai eithriadau, fel y disgrifir isod.

Cyfraniadau YG gwirfoddol Dosbarth 3 ar gyfer blynyddoedd treth 1996-97 a 2001-02

Ar gyfer blynyddoedd 1996-97 a 2001-02, ceir terfynau estynedig arbennig sy’n golygu y gallwch barhau i dalu Cyfraniadau YG Dosbarth 3 ar gyfer yr holl flynyddoedd hynny - a hynny ar y gyfradd wreiddiol a oedd yn berthnasol i'r flwyddyn honno - cyn belled â'ch bod yn talu:

  • erbyn 5 Ebrill 2009 os cyrhaeddoch oed Pensiwn y Wladwriaeth ar 24 Hydref 2004 neu ar ôl hynny
  • erbyn 5 Ebrill 2010 os cyrhaeddoch oed Pensiwn y Wladwriaeth cyn 24 Hydref 2004

Cyfraniadau YG Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer blwyddyn dreth 2005-06

Os byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny a'ch bod yn dymuno talu Cyfraniadau YG Dosbarth 2 neu Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer blwyddyn dreth 2006-07, gallwch wneud hynny ar y cyfraddau gwreiddiol hyd at a chan gynnwys y dyddiad olaf ar gyfer talu, sef 5 Ebrill 2013.

Cadw'ch taliadau i fynd yn y dyfodol

Os nad ydych yn gweithio nac yn cael credydau Cyfraniadau YG gallwch benderfynu gwneud cyfraniadau gwirfoddol rheolaidd er mwyn sicrhau y cewch well Pensiwn y Wladwriaeth neu Bensiwn y Wladwriaeth yn llawn pan fyddwch yn ymddeol.

Mae dwy brif ffordd o dalu Cyfraniadau YG Dosbarth 3, y ddwy ar sail ôl-ddyled:

  • yn fisol gyda debyd uniongyrchol
  • yn chwarterol drwy gael bil bob 13 wythnos (os ydych yn byw yn y DU) – gallwch dalu'r bil hwn yn y banc, yn Swyddfa'r Post neu drwy Girobanc

Gallwch lwytho'r ffurflenni priodol i lawr isod.

Talu cyfraniadau gwirfoddol am gyfnodau a dreuliwyd dramor

Os ydych chi'n byw dramor ac yn dymuno talu Cyfraniadau YG gwirfoddol neu'n dymuno talu cyfraniadau YG am gyfnod yn y gorffennol pan oeddech chi dramor, ceir rheolau arbennig.

Allweddumynediad llywodraeth y DU