Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynilo ar gyfer ymddeol

Cynilo ar gyfer ymddeol yw un o'r cynlluniau ariannol pwysicaf wnewch chi. Cewch ddewis cynilo mewn cynllun pensiwn a/neu gynllun cynilo, ond beth bynnag y penderfynwch chi, byddwch am i'ch cronfeydd dyfu a bod yn werth cymaint ag y bo modd yn y tymor hir.

Mathau o gynlluniau pensiwn

Ffordd o gynilo ar gyfer ymddeoliad yw cynlluniau pensiwn. Mae sawl gwahanol fath o gynllun.

Pensiwn y Wladwriaeth

Seilir Pensiwn y Wladwriaeth ar nifer y blynyddoedd cymwys sydd gennych, wedi'u cyfrifo ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi'u talu, yr ydych yn cael eich trin fel petaech wedi'u talu neu'r cyfraniadau sydd wedi'u credydu ichi.

Gallwch ei hawlio adeg oed Pensiwn y Wladwriaeth, sydd yn 65 i ddynion a 60 i ferched a anwyd ar neu cyn 5 Ebrill 1950 (mae oed Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020 - neu gallwch ddewis gohirio'i hawlio.

Pensiwn cwmni

Sefydlir pensiynau cwmni gan gyflogwyr er mwyn darparu pensiynau i'w gweithwyr pan fyddant yn ymddeol. Os gallwch ymuno â chynllun o'r fath, mae'n werth ei ystyried gan y bydd y rhan fwyaf o bobl yn well eu byd ar ôl ymddeol na phetaent heb ymuno.

Pensiwn personol

Mae pensiynau personol ar gael gan fanciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant bywyd. Gyda rhai cynlluniau, gallwch ddechrau cael eich pensiwn yn 50 oed (yn codi i 55 erbyn 2010) a chymryd rhan o'ch cronfa bensiwn fel taliad unswm di-dreth.

Bydd pensiynau cyfranddeiliaid, math hyblyg o bensiwn personol, yn caniatáu i chi ddechrau cyfrannu a rhoi'r gorau i gyfrannu pa bryd bynnag y dymunwch chi.

Gostyngiad treth ar bensiynau

Mae gostyngiad treth ar gael ar gyfraniadau i'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn. Er enghraifft, am bob £80 sy'n mynd i bensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid person sy'n talu treth ar y gyfradd sylfaenol, mae'r llywodraeth yn rhoi £20 arall. Gall pobl sy'n talu treth ar y gyfradd uwch hawlio'r dreth ychwanegol yn ôl.

Cynilion a buddsoddiadau treth-effeithlon

Mae sawl ffordd treth-effeithlon arall o gynilo a buddsoddi arian ar gyfer ymddeol.

Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)

Gydag ISA, fyddwch chi ddim yn cael gostyngiad treth ar y cyfraniadau a wnewch chi ond fyddwch chi ddim yn talu treth ar y llog nac ar y rhan fwyaf o'r incwm difidend a enillwch chi, nac ar 'enillion cyfalaf' os byddwch chi'n gwerthu'r buddsoddiad am elw yn ddiweddarach

Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)

Mae NS&I yn cynnig un o'r ffyrdd mwyaf diogel o gynilo a buddsoddi arian oherwydd mae'n cael ei gefnogi gan y llywodraeth. Mae rhai cynlluniau'n talu llog sy'n drethadwy, tra bo eraill yn ddi-dreth.

Mae llawer o gynlluniau NS&I yn fuddsoddiadau hirdymor, a all fod yn addas i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad

Buddsoddi eich arian

Os ydych yn cynilo eich arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, dylai eich cronfeydd arian dyfu - er mwyn aros ar y blaen i chwyddiant o leiaf.

Os ydych am weld eich cronfeydd yn tyfu'n gynt, gallech ystyried eu buddsoddi. Cofiwch fod y risg gyda'r rhan fwyaf o fuddsoddiadau - gall eich arian gynyddu neu ostwng yn ei werth. Mae budd-daliadau'n cynnwys, er enghraifft, stociau a chyfranddaliadau, bondiau a buddsoddiadau ar y cyd ac eiddo. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Mae'n well siopa o gwmpas a chael cyngor proffesiynol cyn penderfynu ble i fuddsoddi eich arian.

Cael cyngor am gynilo ar gyfer ymddeol

Gallwch edrych o gwmpas a chymharu cynnyrch eich hun, ond mae'n syniad da cael cyngor proffesiynol hefyd. Os prynwch ar sail 'gwybodaeth' yn unig, bydd gennych lai o warchodaeth na phetaech yn prynu ar ôl cael cyngor.

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)

Mae gan yr FSA wybodaeth ddefnyddiol am gynilion, buddsoddiadau a phensiynau. Mae hefyd yn cynhyrchu taflenni ar gynllunio ar gyfer ymddeol.

Y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau

Mae'n cynnig cyngor di-dâl am bensiynau cwmni a phensiynau personol.

Y Gwasanaeth Pensiwn

Mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn darparu gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU