Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-daliadau a lwfansau treth ar ôl ymddeol

Pan fyddwch chi'n ymddeol, fel arfer bydd gennych lai o incwm. Er mwyn eich helpu i ymdopi, efallai y cewch rai budd-daliadau a chymorth ariannol ar ben eich Pensiwn gan y Wladwriaeth. Mae rhai budd-daliadau'n seiliedig sail oedran, mae eraill yn dibynnu ar eich incwm. Mae lwfansau treth hefyd yn fwy hael ar ôl i chi gyrraedd 65 oed os yw eich incwm o dan ryw lefel benodol.

Eich hawl

Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy. I ddychwelyd i'r dudalen hon, defnyddiwch y botwm 'yn ôl'. Mae'n bosib hefyd y byddai'n fuddiol printio'r dudalen hon.

Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth

Yr oed ymddeol ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth ar hyn o bryd yw 65 i ddynion a 60 i ferched a anwyd ar neu cyn 5 Ebrill 1950 (bydd hyn yn cynyddu o 60 i 65 i ferched a anwyd ar ôl 5 Ebrill 1950 rhwng 2010 a 2020) a ac mae eich cymhwysedd yn dibynnu ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG). Gallwch ddewis hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth cyn gynted ag y cyrhaeddwch yr oed cymhwyso, neu gallwch ohirio hawlio a chael mwy'n ddiweddarach.

Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Mae Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn cael ei alw yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth hefyd (yn flaenorol Cynllun Pensiwn ar sail Enillion y Wladwriaeth (SERPS)). Mae cymhwysedd yn seiliedig ar gyfuniad o'ch enillion o'ch gwaith a Chyfraniadau YG yr ydych wedi'u gwneud neu sydd wedi'u credydu ichi. Efallai y byddwch yn gymwys drwy ffactorau eraill, megis anabledd neu oherwydd eich bod wedi treulio amser yn gofalu am rywun. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn awtomatig pan fyddwch yn hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Pensiwn i Rai Dros 80

Os ydych yn 80 neu'n hwn a heb unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth neu un bach, efallai y gallwch hawlio'r Pensiwn i rai dros 80.

Credyd Pensiwn

Os ydych yn 60 oed neu'n hŷn, gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn er mwyn dod â'ch incwm i isafswm wythnosol.

Taliad Tanwydd Gaeaf

Efallai y gallwch hawlio taliad i helpu gyda biliau tanwydd os ydych yn 60 neu fwy. Mae yna hefyd £100 ychwanegol ar gael i gartrefi cymwys sy'n cynnwys rhywun dros 80 oed.

Taliad Tywydd Oer

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Taliad Tywydd Oer i'ch helpu gyda chostau gwresogi ychwanegol pan fydd y tywydd yn oer iawn. Gwneir y taliadau'n awtomatig - does dim angen i chi hawlio.

Grant Ffrynt Cynnes

Os ydych ar incwm isel efallai y gallwch hawlio hyd at £2,700 neu mewn rhai achosion £4000ar gyfer gwneud gwelliannau i systemau gwresogi eich cartref.

Lwfans Gweini

Gallwch gael y Lwfans Gweini os ydych yn 65 neu'n hwn ac angen cymorth gyda gofal personol oherwydd salwch neu anabledd.

Lwfans Gofalwr

Os ydych yn gofalu am berson anabl iawn, efallai y gallwch hawlio Lwfans Gofalwr. Os ydych yn anabl iawn, efallai y gall rhywun sy'n gofalu amdanoch hawlio Lwfans Gofalwr.

Bonws Nadolig

Os ydych yn cael budd-daliadau arbennig, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn cael £10 yn ychwanegol adeg y Nadolig.

Taliad Angladd

Gall Taliad Angladd helpu gyda chost angladd syml ar gyfer rhywun a oedd yn agos atoch os mai chi sy'n gyfrifol am drefnu'r angladd.

Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Cyllidebu

Gall Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Cyllidebu helpu gyda chost treuliau untro gan gynnwys eitemau ar gyfer y cartref, dillad ac esgidiau a rhai costau teithio.

Benthyciadau Argyfwng

Gellir talu Benthyciadau Argyfwng mewn argyfwng neu drychineb i helpu gyda chostau byw beunyddiol neu eitemau hanfodol. Maent ar gael os oes perygl difrifol i chi neu eich teulu ac yn methu â chael cymorth o unrhyw le arall.

Budd-dal Tai

Os ydych ar incwm isel ac yn talu rhent, efallai y gallwch hawlio Budd-dal Tai.

Budd-dal Treth Gyngor

Efallai hefyd y gallwch hawlio Budd-dal Treth Gyngor os ydych ar incwm isel.

.

Tocynnau mantais i deithio ar fws

O 60 oed ymlaen, rydych yn gymwys i gael tocyn bws am ddim gan eich awdurdod lleol.

Presgripsiynau a phrofion llygaid am ddim a chymorth gyda chostau iechyd eraill

Os ydych yn 60 oed neu'n hwn, efallai fod gennych hawl i gael cymorth gyda chostau iechyd amrywiol, yn cynnwys presgripsiynau, profion llygaid a gofal deintyddol.

Gostyngiad yn ffi'r drwydded deledu

Gallwch gael trwydded deledu am ddim os ydych yn 75 neu'n hwn - a thalu llai o ffi wrth adnewyddu rhwng 74 a 75 oed.

Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw

Gallwch hawlio pensiwn di-dreth os bu farw eich gur gwraig, neu bartner sifil oherwydd iddynt wasanaethu mewn rhyfel neu os oeddynt yn derbyn Pensiwn Rhyfel neu lwfans cysylltiedig

Lwfansau treth ar sail oed

Lwfans personol di-dreth

Mae pawb yn cael lwfans personol di-dreth - swm o incwm y gallwch ei gael cyn bod angen talu treth. Os yw eich incwm yn llai na £21,800 ar gyfer y flwyddyn dreth 2008-2009 (£22,900 ar gyfer y flwyddyn dreth 2009-2010) mae'r lwfans personol yn codi pan fyddwch yn 65 oed ac eto pan fyddwch yn 75 oed.

Lwfans pâr priod

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn talu treth, a chi neu'ch partner wedi'ch geni cyn 6 Ebrill 1935, gallwch hawlio'r lwfans pâr priod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU