Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Talu treth neu beidio ar ôl ymddeol?

Ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol rhagor, ond ni fyddwch o anghenraid yn cael peidio â thalu Treth Incwm. Os yw eich incwm trethadwy - gan gynnwys eich pensiwn - yn fwy na'ch lwfansau di-dreth, byddwch chi'n dal i orfod talu treth

Sut wyf yn gwybod a ddylwn i fod yn talu treth?

I ganfod a ydych yn drethdalwr, dilynwch y tri cham hyn:

  • adio'ch holl incwm trethadwy
  • cyfrifo'ch lwfansau di-dreth
  • tynnu'ch lwfansau di-dreth o'ch incwm trethadwy

Os yw eich incwm trethadwy yn fwy na'ch lwfansau di-dreth, rydych yn drethdalwr a rhaid ichi gysylltu â Chyllid a Thollau EM. Os yw eich lwfansau di-dreth yr un fath neu'n fwy na'ch incwm trethadwy, does dim rhaid ichi wneud dim. Os ydych yn credu na ddylech fod yn talu treth ond eich bod yn gwneud, gallwch hawlio arian yn ôl.

Cam un - adio'ch incwm trethadwy

Mae rhai mathau o incwm yn drethadwy ac ni threthir mathau eraill byth. Dim ond cymharu eich incwm trethadwy gyda'ch lwfansau di-dreth mewn blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) yr ydych i weld a ydych yn drethdalwr.

Incwm trethadwy

Mae eich incwm trethadwy'n cynnwys:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • pensiynau preifat, yn cynnwys pensiynau gan gyn gyflogwyr a phensiynau personol
  • incwm o gyflogaeth/hunangyflogaeth os ydych yn parhau i weithio
  • llog gan fanciau a chymdeithasau adeiladu (y swm 'gros' cyn y didynnir treth)
  • difidendau (incwm o gyfranddaliadau)
  • incwm o eiddo
  • incwm o dramor
  • rhai budd-daliadau, yn cynnwys Lwfans Gofalwr ac, mewn rhai achosion, Budd-dal Analluogrwydd

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn cael incwm o gynilion, buddsoddiadau neu eiddo a ddelir yn enwau'r ddau ohonoch, rydych fel arfer yn cael eich trin fel petaech yn cael hanner yr incwm yr un. Felly dim ond ar eich hanner chi y mae'n rhaid talu treth. Os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, rydych ond yn cyfrif eich cyfran chi o'r incwm ar y cyd.

Incwm anhrethadwy

Mae'r incwm nad yw byth yn cael ei drethu'n cynnwys:

  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant
  • incwm neu log o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA), Cynllun Ecwiti Personol (PEP), neu Gyfrif Cynilion arbennig sy'n Rhydd o Dreth (TESSA)
  • llog o Dystysgrifau Cynilion Cenedlaethol
  • llog a bonysau o gynllun Cynilo Wrth Ennill (SAYE)
  • enillion Bondiau Premiwm a'r Loteri Genedlaethol
  • rhai budd-daliadau, yn cynnwys Taliadau Tywydd Oer, Lwfans Gweini, Cymhorthdal Incwm a Lwfans Byw i'r Anabl

Mae gan wefan Cyllid a Thollau EM restr lawnach o incwm trethadwy ac anhrethadwy.

Cam dau - adio'ch lwfansau di-dreth

Eich lwfansau di-dreth yw'r incwm a gewch heb orfod talu treth arno. Maent yn cynnwys y lwfans personol a'r lwfans person dall.

Lwfans personol

Mae pawb yn cael y lwfans personol sylfaenol, ond os ydych yn 65 neu'n hwn a'ch incwm o dan lefelau penodol, mae'r gyfradd yn codi.

Cyfraddau'r lwfans personol 2008-2009 Terfyn incwm (gweler y nodyn)
Cyfradd sylfaenol ar gyfer rhywun dan 65 £5,435 dim
65 i 74 oed £9,030 £21,800
75 oed neu'n hwn £9,018 £21,800

Nodyn: Os yw'ch incwm dros y 'terfyn incwm', mae'r lwfans ar sail oed yn lleihau o hanner y swm (£1 am bob £2) sydd gennych dros y terfyn hwnnw, hyd nes y cyrhaeddir y lwfans cyfradd sylfaenol. (Cewch y lwfans sylfaenol bob tro, beth bynnag yw lefel eich incwm.)

Felly, er enghraifft, os ydych yn 66 oed a chydag incwm o £22,300 (£500 dros y terfyn), byddai eich lwfans ar sail oed o £9,030 yn gostwng £250 i £8,780

Lwfans person dall

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu yn methu â gwneud unrhyw waith y mae gallu gweld yn hanfodol ar ei gyfer, gallwch hawlio'r lwfans person dall. Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a heb allu defnyddio'r cyfan o'ch lwfans, gallwch roi y rhan heb ei ddefnyddio i'ch cymar neu bartner sifil.

Y lwfans person dall ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009 yw £1,800.

Cam tri - cyfrifo a ydych yn drethdalwr

Tynnwch eich lwfansau di-dreth o'ch incwm trethadwy, ac os oes unrhyw beth ar ôl bydd angen ichi dalu treth a rhaid ichi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. (Hyd yn oed os ydych yn cyfrif fel trethdalwr, cofiwch y gallwch fod yn gymwys i gael lwfansau eraill a all leihau eich bil treth, neu mewn rhai achosion, olygu nad oes gennych ddim i'w dalu - dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.)

Os ydych yn cael pensiwn preifat neu bensiwn cwmni neu'n gwneud gwaith rhan-amser, efallai y gall eich Swyddfa Dreth gasglu'r dreth ychwanegol sydd arnoch chi y ffordd honno (gan gynnwys ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth). Fel arall byddant yn gofyn ichi lenwi ffurflen P810 neu dalu trwy Hunanasesiad.

Sut i gysylltu â'ch Swyddfa Dreth

Fel arfer bydd rhif ffôn a chyfeiriad eich Swyddfa Dreth ar unrhyw lythyrau neu ffurflenni yr ydych wedi'u derbyn gan Gyllid a Thollau EM. Neu, os gwyddoch enw eich Swyddfa Dreth, gallwch chwilio am y manylion cysylltu ar-lein. Gallwch hefyd ofyn mewn Canolfan Ymholiadau lleol Cyllid a Thollau EM.

Os ydych yn teimlo eich bod yn talu gormod o dreth

Os ydych yn teimlo eich bod yn talu gormod o dreth neu na ddylech fod yn talu unrhyw dreth o gwbl, mae camau y gallwch eu cymryd i hawlio ad-daliad.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU