Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfansau a all ostwng eich treth ar ôl ymddeol

Wrth i chi heneiddio mae rhai lwfansau ar sail oed sy'n gallu gostwng eich treth. Mae rhai o'r rhain yn symiau o incwm nad oes rhaid i chi dalu treth arnynt - eraill yn symiau sy'n gostwng eich bil treth.

Lwfans personol uwch ar ôl 65

Mae pawb yn cael 'lwfans personol' sy'n gadael iddynt gael rhywfaint o incwm yn ddi-dreth bob blwyddyn. Gall y lwfans gynyddu pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed, yn dibynnu ar eich incwm. Ond cofiwch na fydd Cyllid a Thollau EM yn gwybod eich oedran onid ydych wedi dweud wrthynt neu wedi dangos eich dyddiad geni ar ffurflen dreth neu ffurflen hawlio treth.

Lefelau'r lwfans personol Swm di-dreth - 2008-2009 Terfyn incwm (gweler isod)
Lwfans sylfaenol - hyd at 64 oed

£5,435

dim
65 i 74 oed

£9,030

£21,800

75 oed neu'n hwn

£9,180

£21,800

Os cewch eich pen-blwydd yn 65 neu'n 75 oed yn ystod y flwyddyn dreth, byddwch yn cael y lwfans ar gyfer y grup oedran hwnnw.

Terfyn incwm ar gyfer lwfansau uwch

Os yw eich incwm dros £21,800 mae eich lwfans 'ar sail oed' uwch yn lleihau o hanner y swm sydd gennych dros y terfyn hwnnw (gostyngiad o £1 am bob £2 o incwm dros y terfyn). Ond chewch chi fyth lai na'r lwfans sylfaenol o £5,435.

Felly, os ydych chi'n 66 oed a'ch incwm yn £22,300 (£500 dros y terfyn incwm) bydd eich lwfans o £9,030 yn disgyn £250 i £8,780.

Lwfans person dall

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu’n methu â gwneud unrhyw waith y mae’r gallu i weld yn hanfodol ar ei gyfer, gallwch hawlio'r lwfans person dall. Fel eich lwfans personol, dyma swm o arian y gallwch ei gael heb dalu treth. Y lwfans ar gyfer 2008-2009 yw £1,800.

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a heb fod yn talu digon o dreth i ddefnyddio'r holl lwfans, gallwch drosglwyddo unrhyw lwfans nad ydych wedi'i ddefnyddio i'ch gŵr, gwraig neu bartner sifil, os ydynt yn talu treth.

Lwfans Pâr Priod (yn cynnwys partneriaethau sifil

Swm yw'r lwfans hwn a dynnir oddi ar eich bil treth - felly dim ond os ydych yn talu treth y gallwch ei hawlio.

Os oeddech yn briod cyn 5 Rhagfyr 2005

Os ydych yn briod ac yn byw gyda'ch gilydd a bod o leiaf un partner wedi'i eni cyn 6 Ebrill 1935, gall y gŵ r hawlio'r lwfans pâr priod.

Tynnir 10 cant o'r Lwfans Pâr Priod y mae gennych hawl iddo o'ch bil treth. Mae'r swm hwn yn dibynnu ar incwm y gŵr ac oed y partner hynaf.

Os bydd un ohonoch yn marw, neu os byddwch yn gwahanu neu'n ysgaru, byddwch yn cael y Lwfans Pâr Priod am y flwyddyn honno'n llawn.

Os ydych wedi priodi ar 5 Rhagfyr 2005 neu ar ôl hynny, neu mewn partneriaeth sifil

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda'ch gilydd a bod o leiaf un partner priod neu sifil wedi'i eni cyn 6 Ebrill 1935, gall y sawl sy'n ennill fwyaf hawlio'r Lwfans Pâr Priod.

Tynnir 10 y cant o'r lwfans y mae ganddo ef neu hi hawl iddo oddi ar fil treth yr un sy'n hawlio. Mae'r swm hwn yn dibynnu ar oed y partner priod neu bartner sifil hynaf.

Pryd mae'r Lwfans Pâr Priod yn dod i rym?

Yn y flwyddyn y byddwch chi'n priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil, bydd eich hawl i'r Lwfans Pâr Priod yn lleihau fesul un rhan o ddeuddeg o bob mis treth llawn cyn dyddiad eich priodas neu bartneriaeth sifil. Er enghraifft, os ydych chi'n priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil ar 24 Mawrth 2009, byddech chi ond yn derbyn un rhan o ddeuddeg (neu werth un mis) o'r lwfans yn y flwyddyn dreth 2008/2009.

Os bydd un ohonoch yn marw, os bydd y briodas neu'r bartneriaeth sifil yn chwalu, neu os byddwch yn gwahanu, byddwch yn cael y Lwfans Pâr Priod am y flwyddyn honno'n llawn.

Cyfraddau'r lwfans pâr priod - blwyddyn dreth 2008-2009

Oed y partner priod neu bartner sifil hynaf

(ganed cyn 6 Ebrill 1935)

Min MCA Max MCA Claimant's income limit (see note below)
Dan 75 £2,540 £6,535 £21,800
75 neu'n hŷn £2,540 £6,525 £21,800

Oherwydd mai'r gyfradd 10 y cant a ddefnyddir ar gyfer y Lwfans Pâr Priod, mae eich arbedion treth yn £254 o leiaf a hyd at £653.50 os ydych dan 75, a hyd at £662.50 os ydych yn 75 neu'n fwy. Mae'r union swm yn dibynnu ar incwm yr hawlydd.

Effaith incwm yr hawlydd ar y Lwfans Pâr Priod

Os yw incwm yr hawlydd dros £21,800, gall y Lwfans Pâr Priod leihau. Dyma sut y cyfrifir y gostyngiad:

  • mae hanner incwm yr hawlydd dros y terfyn (£1 am bob £2) yn cael ei ddidynnu o'u lwfans personol ar sail oed, nes cyrhaeddir cyfradd sylfaenol y  lwfans personol
  • mae unrhyw beth sy'n weddill yn cael ei dynnu o'r Lwfans Pâr Priod, nes i chi gyrraedd isafswm y Lwfans Pâr Priod (byddwch bob amser yn cael isafswm y lwfans – 10 y cant o £2,540)
  • os nad yw incwm yr hawlydd yn gostwng y lwfans personol ar sail oed i'r lefel sylfaenol, nid yw'r Lwfans Pâr Priod yn cael ei leihau

Enghraifft

Mae'r hawlydd yn 76 oed gydag incwm o £30,000, sydd £8,200 dros y terfyn. Bydd hanner hwn – £4,100 – yn cael ei dynnu oddi ar y lwfans, fel hyn:

  • i ddechrau mae'r lwfans personol ar-sail-oed uwch o £9,180 yn disgyn £3,745 i £5,435 (isafswm y lwfans personol sylfaenol)
  • wedyn mae'r hyn sy'n weddill o'r £4,100 – £355 – yn cael ei dynnu o'r Lwfans Pâr Priod y mae ganddo/ganddi hawl iddo, gan ei ostwng o £6,625 i £6,270 (a chymryd £627 oddi ar ei fil/bil treth)

Sut mae hawlio'r Lwfans Pâr Priod

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw ffonio'ch Swyddfa Dreth neu ysgrifennu atynt yn rhoi manylion eich seremoni priodas/partneriaeth sifil a'ch partner priod/sifil (gan gynnwys dyddiad geni). Os ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesiad, gofynnir i chi gynnwys manylion eich cais am y Lwfans Pâr Priod.

Trosglwyddo'r Lwfans Pâr Priod i'ch partner priod neu bartner sifil

Os nad yw eich bil treth yn ddigon uchel i ddefnyddio'r cyfan o'ch Lwfans Pâr Priod, gallwch ddefnyddio ffurflen 575 ar ôl diwedd y flwyddyn dreth i drosglwyddo unrhyw lwfans nas defnyddiwyd i'ch partner priod neu bartner sifil.

Gofynnwch i'ch Swyddfa Dreth anfon un atoch. (Os ydych yn gwneud cais am ad-daliad treth ar ffurflen R40, gallwch ofyn am ffurflen 575 hefyd drwy dicio'r blwch priodol.)

Gallwch hefyd benderfynu rhannu'r isafswm Lwfans Pâr Priod rhyngoch chi neu, os yw'r ddau ohonoch yn cytuno, gallwch ddewis trosglwyddo'r cyfan o'r isafswm Lwfans Pâr Priod i'ch partner priod neu bartner sifil. Yn yr achos hwn, bydd angen ichi lenwi ffurflen 18 'Trosglwyddo'r lwfans pâr priod' cyn dechrau'r flwyddyn dreth. Gallwch lwytho'r ffurflen hon oddi ar y dudalen hon neu mae hi ar gael yn eich Swyddfa Dreth.

Gostyngiad taliadau cynhaliaeth

Gallwch gael lwfans i leihau eich bil treth ar gyfer taliadau cynhaliaeth yr ydych yn eu gwneud i'ch cyn bartner priod neu gyn bartner sifil:

  • os ganed chi neu eich priod neu bartner sifil cyn 6 Ebrill 1935
  • os ydych wedi gwahanu neu wedi ysgaru neu eich partneriaeth sifil wedi chwalu a chithau'n gwneud y taliadau dan Orchymyn Llys
  • os yw'r taliadau ar gyfer cynnal eich cyn bartner priod neu gyn bartner sifil (ar yr amod nad ydynt wedi ailbriodi neu mewn partneriaeth sifil newydd) neu ar gyfer eich plant o dan 21

Gallwch leihau eich bil treth gan ba un bynnag yw'r lleiaf:

  • 10 y cant o £2,540 (uchafswm £254)
  • 10 y cant o'r swm yr ydych wedi'i dalu

I hawlio gostyngiad ar daliadau cynhaliaeth, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth a gofyn am ffurflen 41.

Rhoddion i elusennau

  • Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch, gallwch hawlio lwfans treth o 20 y cant ar gyfer rhoddion a wnewch i elusennau trwy Gymorth Rhodd. (Mae’r elusen yn hawlio yn ôl y gyfradd sylfaenol treth yr ydych yn talu.)

Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol neu uwch, byddwch yn derbyn gostyngiadau treth ar eich cyfradd treth incwm uchaf yn awtomatig os ydych yn gwneud rhoddion i elusennau yn uniongyrchol o’ch pecyn cyflog neu bensiwn gan ddefnyddio cynllun o’r enw ‘Cymorth Rhodd’. Bydd angen i’ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn cynnig y cynllun er mwyn i chi allu gwneud hyn.

Gallwch hefyd gael lwfansau treth ar gyfer rhoddion o dir, adeiladau, cyfranddaliadau a gwarantau a roddir yn uniongyrchol i elusen.

Hawlio treth yn ôl os byddwch wedi talu gormod

Efallai y gallwch hawlio treth sydd wedi'i thynnu o log eich cynilion yn ôl ac o unrhyw incwm o flwydd-dal ymddeol yr ydych yn ei dderbyn:

  • os yw eich incwm sydd ddim yn gynilion (pensiynau, budd-daliadau nawdd cymdeithasol trethadwy, cyflog, elw masnachu neu incwm o eiddo) ar ôl didynnu lwfansau personol, ddim yn fwy na’r gyfradd cychwyn am gyfyngiadau cynilo (£2,320 ar gyfer 2008/2009)
  • os yw eich lwfansau di-dreth personol yn fwy na'ch incwm trethadwy cyffredinol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU