Mae incwm blwydd-daliadau ymddeol a llog ar gynilion yn cael eu trethu fel arfer cyn ichi eu derbyn. Os byddwch ar incwm isel ar ôl ymddeol, efallai y gallwch dderbyn y mathau hyn o incwm yn ddi-dreth. Efallai hefyd y gallwch hawlio treth yn ôl os ydych wedi talu gormod o dreth arnynt yn y gorffennol.
Os ydych yn cael llog ar eich cynilion, mae treth wedi'i thynnu o'r taliadau y byddwch yn eu cael, ar gyfradd o 20 y cant.
Gallwch wneud cais i'ch banc neu gymdeithas adeiladu i gael y llog yn ddi-dreth os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:
Mae pawb yn cael y lwfans personol. Ar ôl cyrraedd 65, mae'r lwfans yn codi. Oherwydd hyn, byddwch yn cael mwy o arian bob blwyddyn cyn dechrau talu treth.
| Oed |
Lwfans personol uchaf 2008-2009 |
|---|---|
| Hyd at 64 (lwfans sylfaenol) |
£5,435 |
| 65 i 74 |
£9,030 |
|
75 neu'n hŷn |
£9,180 |
Os yw eich incwm yn fwy na £21,800, bydd eich lwfans personol ar-sail-oed uwch yn lleihau'n raddol ond chewch chi byth lai na'r lwfans sylfaenol o £5,435.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac o leiaf un partner wedi'i eni cyn 6 Ebrill 1935, a chithau fel arfer yn talu treth, gallwch hawlio'r lwfans pâr priod.
I wneud cais i gael y llog ar eich cynilion yn ddi-dreth, bydd angen ichi lenwi ffurflen R85 a’i chymryd neu'i hanfon i'ch banc neu gymdeithas adeiladu. Gellir cael y ffurflen gan eich Swyddfa Dreth neu gallwch ei llwytho oddi ar y we.
Os ydych yn meddwl eich bod wedi talu treth ar y llog o'ch cynilion pan nad oedd angen ichi wneud hynny neu wedi talu gormod gallwch wneud cais i'w gael yn ôl. Mae’n bosib eich bod wedi talu mwy oherwydd nid oeddech yn drethdalwr neu oherwydd nid yw eich incwm sydd ddim yn gynilion (pensiynau, budd-daliadau nawdd cymdeithasol trethadwy, cyflog, elw masnachu neu incwm o eiddo) ar ôl didynnu lwfansau personol, ddim yn fwy na’r gyfradd cychwyn am gyfyngiadau cynilo (£2,320 ar gyfer 2008/2009). Mae gennych bum mlynedd o 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth berthnasol i hawlio.
Rydych yn hawlio'r dreth yn ôl ar ffurflen R40. Gallwch lwytho hon isod, defnyddio gwasanaeth archebu ffurflenni ar-lein Cyllid a Thollau EM neu gallwch ofyn i'ch Swyddfa Dreth neu’r Swyddfa Cyllid a Thollau EM sy’n delio gyda hawliau ad-daliadau yn eich ardal. Dylech fel arfer gael eich ad-daliad o fewn 15 diwrnod ond gall hwn gymryd fwy o amser pan mae’r swyddfeydd ad-daliadau yn brysur.
Os oes rhywun wedi'ch penodi chi i reoli eu materion ariannol, neu os ydych yn bartner priod/partner sifil neu'n berthynas i rywun sy'n cael anhawster gwneud hawliad, efallai y gallwch hawlio treth yn ôl ar eu rhan. Cysylltwch â'u Swyddfa Dreth arferol hwy neu'r swyddfa Cyllid a Thollau EM sy'n delio gyda hawliadau am ad-daliadau ar gyfer eu hardal.
Os ydych yn cael incwm o gyfranddaliadau'r DU ('difidendau') allwch chi ddim hawlio'r credyd treth o 10 y cant a ddangosir ar y difidend yn ôl, hyd yn oed os nad ydych yn talu treth. Y rheswm am hyn yw nad oes Treth Incwm wedi'i didynnu o'r difidend a dalwyd ichi - yr unig beth yr ydych wedi'i gael yw 'credyd' o 10 y cant i'w osod yn erbyn unrhyw Dreth Incwm sy'n ddyledus.
Os oes gennych flwydd-dal ymddeol (cynllun pensiwn a sefydlwyd cyn Gorffennaf 1988), mae treth wedi'i thynnu o'r taliadau yr ydych yn eu cael, ar gyfradd o 22 y cant.
Os nad ydych yn talu treth, gallwch wneud cais i daliadau'r blwydd-dal ymddeol gael eu talu ichi heb i dreth gael ei thynnu ohonynt. Cysylltwch â darparwr eich pensiwn a gofyn am ffurflen R89. Os ydych yn berchen ar y blwydd-daliadau gyda rhywun arall, bydd angen ffurflen R86 arnoch.
Ar ôl cyrraedd oed ymddeol, ni fydd yn rhaid ichi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) mwyach - hyd yn oed os byddwch yn parhau i weithio. Os ydych wedi talu cyfraniadau YG drwy gamgymeriad, gallwch hawlio'r arian yn ôl.
Os ydych yn gyflogedig, neu os ydych yn cael eich pensiwn neu eich blwydd-dal drwy'r drefn Talu Wrth Ennill (TWE - PAYE), gallwch edrych ar eich hysbysiad cod TWE diweddaraf i weld pa lwfansau yr ydych yn eu cael. Anfonir hwn atoch ar ddechrau'r flwyddyn dreth ac fe roddir un arall ichi os bydd unrhyw beth yn newid.
Os nad ydych ar TWE, bydd eich Cyfrifiad Treth ar gyfer Hunanasesiad yn cadarnhau eich lwfansau. Mae hefyd yn rhoi manylion i chi o sut y mae eich holl wahanol fathau o incwm yn cael eu trethu.
Os ydych dal yn ansicr, holwch eich Swyddfa Dreth. Byddant yn gofyn ichi am eich rhif Yswiriant Gwladol a bydd angen iddynt gadarnhau eich dyddiad geni.
Os gwelwch eich bod wedi talu gormod o dreth, gallwch gael yr arian yn ôl dim ond ichi hawlio o fewn pum mlynedd i 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth berthnasol.