Buddsoddiadau yn y tymor hir yw pensiynau i'ch helpu i sicrhau bod gennych ddigon o incwm ar ôl ymddeol. Mae'r llywodraeth yn eich annog i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad trwy roi 'gostyngiad treth' ichi ar gyfraniadau pensiwn.
Am bob punt yr ydych yn ei chyfrannu i'ch cynllun, mae'r darparwr pensiwn yn hawlio treth yn ôl gan y llywodraeth ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant. Yn ymarferol, golyga hyn am bob £80 yr ydych yn ei dalu i mewn i'ch pensiwn, yr ydych yn cael £100 yn eich cronfa bensiwn.
Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch o 40 y cant, byddwch yn dal i gael gostyngiad treth o 40 cant ar unrhyw arian yr ydych yn ei roi yn eich pensiwn. Ond mae'r ffordd y rhoddir yr arian yn ôl ichi'n wahanol:
Os nad ydych yn talu treth, allwch chi ddim talu mwy na £2,880 gyda gostyngiad treth i mewn y flwyddyn. Ond byddwch yn dal i gael gostyngiad treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant). Mewn geiriau eraill, bydd y llywodraeth yn ychwanegu at eich cyfraniad i'w wneud yn £3,600.
Gallwch gynilo faint a fynnoch mewn unrhyw nifer o bensiynau a chael gostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion bob blwyddyn, yn amodol ar ‘lwfans blynyddol' uchaf.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009 bydd hyn yn £235,000. (Bydd rhaid talu treth ar gynilion dros y lwfans blynyddol a 'lwfans oes' ar wahân.) I gael gwybod mwy, darllenwch am reolau pensiwn newydd o fis Ebrill 2006.
Mae mwy o fanteision treth i gael cynllun pensiwn:
Bydd eich cronfa bensiwn yn buddsoddi'r arian yr ydych yn ei gynilo (gan gynnwys swm y gostyngiad treth) yn eich pensiwn. Efallai y bydd twf eich cronfa bensiwn yn ddi-dreth.
Gelwir unrhyw gynnydd yng ngwerth asedau'r cynllun rhwng yr hyn a roddwch i mewn a beth fydd eu gwerth ar y diwedd yn enillion cyfalaf ac maent yn ddi-dreth.
Pan ddechreuwch gymryd eich buddion efallai y gallwch dynnu hyd at chwarter gwerth eich cronfa bensiwn personol neu gyfranddeiliaid fel taliad unswm di-dreth. Gall darparwr eich pensiwn ddweud wrthych a fyddwch yn gallu gwneud hyn neu beidio.
Gallwch roi arian ym mhensiwn personol rhywun arall - er enghraifft, eich gŵr, gwraig, partner sifil, plant neu eich wyrion. Ychwanegir gostyngiad treth ato yn ôl y gyfradd sylfaenol, ond ni fydd hyn yn effeithio ar eich bil treth chi. Os nad oes ganddynt incwm, gallwch dalu hyd at £2,880 y flwyddyn (sy'n tyfu i £3,600 gyda'r gostyngiad treth).
Er enghraifft, petaech yn rhoi £80 yng nghynllun pensiwn partner priod neu bartner sifil, byddai'r llywodraeth yn rhoi £20, ac felly byddai'r pot pensiwn yn codi i £100. Byddai eich treth chi yn aros yr un fath.