Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynlluniau pensiwn personol drwy eich cyflogwr

Os oes pump neu fwy o weithwyr yn eich gwaith, rhaid i'ch cyflogwr fel arfer roi cyfle ichi ymuno â chynllun pensiwn. Rhaid iddynt roi mynediad ichi at bensiwn cyfranddeiliaid onid ydynt yn cynnig naill ai gynllun pensiwn galwedigaethol neu gynllun pensiwn personol addas.

Hawliau gweithwyr i gael pensiwn cyfranddeiliaid

Os ydych yn ennill mwy na therfyn enillion isaf Yswiriant Gwladol (£87 yr wythnos ym mlwyddyn dreth 2007-2008) ac os oes bump neu ragor o weithwyr yn eich gweithle, rhaid i'ch cyflogwr fel arfer gynnig mynediad ichi at bensiwn cyfranddeiliaid onid ydynt:

  • yn cynnig cynllun pensiwn cwmni (galwedigaethol) ichi
  • eu bod yn cynnig cynllun pensiwn personol gyda chyfraniadau gan y cyflogwr sy'n cyfateb i dri y cant o leiaf o'ch cyflog

Math o bensiwn personol yw pensiwn cyfranddeiliaid sy'n bodloni safonau a osodir gan y llywodraeth.

Er enghraifft, rhaid i bensiynau cyfranddeiliaid gynnig:

  • taliadau sydd wedi'u capio - mae faint y gall darparwr y pensiwn ei godi mewn ffioedd rheoli wedi'i gyfyngu
  • isafswm taliadau isel - gyda phensiwn cyfranddeiliaid gallwch gyfrannu cyn lleied ag £20
  • hyblygrwydd - gallwch dalu i'r cynllun ar adegau sy'n addas i chi

Os oes rhaid i'ch cyflogwr gynnig mynediad ichi at bensiwn Cyfranddeiliaid, rhaid ichi allu talu i'r pensiwn yn syth o'ch cyflog drwy system gyflogau'r cwmni.

Does dim rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu unrhyw beth at eich pensiwn cyfranddeiliaid na thalu unrhyw gostau gweinyddu a godir gan ddarparwr eich pensiwn cyfranddeiliaid.

Mae dyletswyddau cwmnïau i ddarparu mynediad at bensiynau cyfranddeiliaid yn cael eu rheoli gan y Rheolydd Pensiynau a gallwch gael mwy o wybodaeth ar y gwefan neu drwy ffonio y llinell gymorth ar 0870 6063636 (rhwng 9.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Dewisiadau eraill y gellir eu cynnig i chi

Os yw'ch cyflogwr yn cynnig pensiwn personol amgen i chi yn hytrach na phensiwn cyfranddeiliaid, rhaid i'w delerau fod o leiaf mor dda a'r safonau isaf a gosodir gan y llywodraeth.

Rhaid i'ch cyflogwr hefyd gyfrannu swm sy'n cyfateb i o leiaf dri y cant o'ch cyflog os ydynt yn ei gynnig yn lle pensiwn cyfranddeiliaid. Ond nid oes rhaid iddynt dalu costau gweinyddu'ch cynllun pensiwn.

Os byddwch yn gadael eich cyflogwr, neu'n trosglwyddo'ch arian o'r cynllun pensiwn i gynllun arall, dydych chi ddim yn colli'r arian y maent wedi'i gyfrannu.

Pensiynau personol grŵp

Efallai y bydd eich cyflogwr yn trefnu i ddarparwr pensiwn sefydlu trefniant pensiwn personol trwy'r gweithle. Gelwir pensiynau personol a drefnir yn y ffordd hon yn 'Cynllun Pensiynau Personol Grŵp'.

Dyma fath o bensiwn personol lle mae'ch cyflogwr yn dewis y darparwr ariannol ar eich rhan.

Efallai bod rhai manteision i gyfrannu at bensiwn personol grŵp a drefnir gan eich cyflogwr:

  • bydd eich cyflogwr fel arfer yn cyfrannu at eich pensiwn - ac os yw'r Pensiwn Personol Grŵp a gynigir wedi'i ddarparu yn lle pensiwn cyfranddeiliaid, rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu swm sy'n cyfateb i o leiaf dri y cant o'ch cyflog sylfaenol
  • os yw eich cyflogwr wedi cyfrannu at eich pensiwn a chithau'n gadael eich swydd, dydych chi ddim yn colli'r arian y maent wedi'i gyfrannu
  • bydd eich cyflogwr fel arfer yn didynnu'ch cyfraniadau o'ch cyflog ac yn eu hanfon at ddarparwr eich pensiwn
  • mae Pensiwn Personol Grŵp yn cael ei negodi gyda darparwr y pensiwn ar ran grŵp o bobl ac efallai y gall eich cyflogwr negodi gwell telerau nag y byddech yn eu cael fel unigolyn - er enghraifft, efallai y gallant negodi costau gweinyddu is
  • mae’n bosib y gallwch barhau i wneud cyfraniadau i’ch pensiwn os newidiwch eich cyflogwr

Rydych yn debygol o golli rhai o'r buddion hyn os gadewch eich cyflogwr. Er enghraifft, nid ydynt yn debygol o gyfrannu mwy at eich pensiwn ac efallai y bydd yn rhaid ichi dalu costau gweinyddu uwch i ddarparwr y pensiwn.

Gallwch ofyn i'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau am wybodaeth a chyngor am gynlluniau pensiwn cwmni a phensiwn personol.

Llinellau cymorth ar gael ar 08453 6012923 (o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9.00 am hyd at 5.00 pm)

Llinellau cymorth ar gael ar 08453 6012923 (o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9.00 am hyd at 5.00 pm)

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU