Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pensiynau cyfranddeiliaid

Math o bensiwn personol yw pensiwn cyfranddeiliaid. Rhaid iddynt fodloni safonau penodol a bennir gan y llywodraeth i sicrhau bod y gost yn isel a'u bod yn hyblyg. Mae'r isafswm taliadau'n isel hefyd a gallwch roi'r gorau i wneud taliadau ac ailgychwyn unrhyw bryd.

Sut mae pensiynau cyfranddeiliaid yn gweithio

Maent yn gweithio yn yr un ffordd bron â phensiynau preifat eraill. Rydych yn talu arian i'ch pensiwn i gronni eich cronfa bensiwn.

Mae rheolwyr y cynllun pensiwn cyfranddeiliaid yn buddsoddi'r gronfa bensiwn ar eich rhan. Bydd gwerth eich cronfa bensiwn yn seiliedig ar faint yr ydych wedi'i gyfrannu a pha mor dda y mae buddsoddiadau'r gronfa wedi perfformio.

Pan fyddwch yn ymddeol, rydych yn defnyddio'r gronfa yr ydych wedi'i chasglu i brynu blwydd-dal (incwm rheolaidd sy'n daladwy am oes) gan gwmni yswiriant bywyd o'ch dewis.

Sut mae pensiynau cyfranddeiliaid yn wahanol i gynlluniau personol eraill

Dan y gyfraith, rhaid i bensiynau cyfranddeiliaid fodloni nifer o safonau sylfaenol i sicrhau eu bod yn cynnig gwerth am arian, hyblygrwydd a diogelwch. Mae'r safonau'n cynnwys:

Cyfyngiad ar daliadau reoli blynyddol :

  • gall rheolwyr godi ffioedd o hyd at un a hanner y cant o'ch cronfa bensiwn bob blwyddyn am y 10 mlynedd cyntaf ac un y cant ar ôl hynny

Hyblygrwydd:

  • gallwch symud at ddarparwr pensiwn gwahanol heb i'r darparwr yr ydych yn ei adael godi tâl arnoch
  • gallwch ddechrau cyfrannu gyda chyn lleied ag £20, a thalu'n wythnosol, yn fisol neu'n llai rheolaidd
  • gallwch stopio, ailgychwyn neu newid eich taliadau unrhyw bryd - does dim taliadau cosb

Diogelwch:

  • rhaid i'r cynllun gael ei redeg gan ymddiriedolwyr neu gan reolwr pensiynau cyfranddeiliaid awdurdodedig, a'i gyfrifoldeb fydd sicrhau bod y cynllun yn bodloni'r amrywiol ofynion cyfreithiol

Lefelau cyfraniadau a gostyngiadau treth

Gallwch nawr gynilo faint a fynnoch mewn unrhyw nifer a mathau o bensiynau, gan gynnwys pensiynau cyfranddeiliaid. Cewch ostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion bob blwyddyn, yn amodol ar 'lwfans blynyddol' uchaf (£225,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2007-2008).

Yn ymarferol, golyga hyn am bob £78 yr ydych yn ei dalu i mewn i'ch pensiwn, yr ydych yn cael £100 yn eich cronfa bensiwn. Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch cewch hawlio'r dreth ychwanegol yn ôl. Budd rhaid talu treth ar gynilion dros y lwfans blynyddol.

Os nad ydych chi'n talu treth, gallwch ddal i gael gostyngiad treth ar eich cyfraniadau chi (neu ar gyfraniadau rhywun arall) hyd at derfyn penodol.

Ai pensiwn cyfranddeiliaid yw'r peth iawn i chi?

Gallai pensiwn cyfranddeiliaid fod yn ddewis da:

  • os ydych yn hunangyflogedig
  • os nad ydych yn gweithio ond yn gallu fforddio talu am bensiwn
  • os nad yw eich cyflogwyr yn cynnig cynllun pensiwn cwmni
  • os nad ydych yn talu i bensiwn cwmni
  • os ydych ar incwm canolig ac am ychwanegu at yr arian y byddech yn ei gael o bensiwn cwmni

Os ydych yn weithiwr, gallwch ddewis eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a rhoi'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol a fyddai wedi mynd tuag ato mewn pensiwn personol gan gynnwys pensiwn cyfranddeiliaid.

Cael cyngor ariannol

Os nad ydych yn sicr a yw pensiwn cyfranddeiliaid yn iawn i chi, mynnwch gyngor arbenigol gan ymgynghorydd ariannol cyn gwneud penderfyniad. Efallai y bydd rhaid i chi dalu am y cyngor. Rhaid i'r ymgynghorwyr ddweud wrthych a ydynt yn argymell cynnyrch un cwmni yn unig, cynnyrch ystod cyfyngedig o ddarparwr neu a ydynt yn dewis o'r farchnad gyfan.

Pwy sy'n darparu pensiwn cyfranddeiliaid

Cewch bensiwn cyfranddeiliaid gan gwmnïau gwasanaethau ariannol megis cwmnïau yswiriant, banciau, cwmnïau buddsoddi a chymdeithasau adeiladu. Gall sefydliadau eraill megis undebau llafur hefyd gynnig pensiynau cyfranddeiliaid i'w haelodau.

Os oes gan eich gweithlu bump neu fwy o weithwyr, ond dim cynllun pensiwn cwmni, dylai eich cyflogwr gynnig mynediad ichi at gynllun pensiwn cyfranddeiliaid drwy'r gwaith. Os nad ydych wedi cael cynnig mynediad at gynllun ond bod gennych ddiddordeb, gofynnwch i'ch cyflogwr.

Os ydych yn gyflogwr, cewch wybod mwy am eich dyletswyddau cyfreithiol o ran pensiynau cyfranddeiliaid ar wefan Business Link.

Llinell gymorth y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau

Mae llinell gymorth y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n delio gydag ymholiadau cyffredinol am bensiynau personol, yn cynnwys pensiynau cyfranddeiliaid a phensiynau galwedigaethol. Mae'r llinell ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm ar 0845 601 2923.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU