Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Deall Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Pensiwn a weinyddir gan y llywodraeth yw Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Mae wedi'i seilio ar nifer y blynyddoedd cymwys sydd gennych drwy'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) yr ydych wedi'u talu, yr ydych yn cael eich trin fel petaech wedi'u talu neu yr ydych wedi'ch credydu â hwy yn ystod eich oes gweithio.

Ydych chi'n gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth?

Os oes gennych hawl, mi gewch Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth pan gyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Yr oed hwn yw 65 i ddynion ferched a aned ar neu cyn 5 Ebrill 1950 a 60 i ferched a aned ar neu cyn 5 Ebrill 1950. Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer merched a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950 ond cyn 6 Ebrill 1955 yn codi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. Oed Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer merched a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1955 ond cyn 6 Ebrill 1959 yw 65. Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu i ddynion a merched o 65 i 68 oed rhwng 2024 a 2046.

Rydych yn dod yn gymwys os oes gennych ddigon o 'flynyddoedd cymwys' wedi'u cronni cyn oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Beth yw blynyddoedd cymwys?

Blwyddyn gymwys yw blwyddyn dreth lle mae gennych incwm digonol i dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (neu'n cael eich trin fel petaech wedi talu cyfraniadau, neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau YG).

Yn 2008 -2009, bydd angen ichi gael £4,680 neu fwy o'r cyfryw enillion fel gweithiwr, neu £4,825 neu fwy os ydych yn hunangyflogedig.

Sawl blwyddyn gymwys sydd ei hangen arnoch?

Ar hyn o bryd mae dynion angen 44, a merched angen 39 of flynyddoedd cymhwysol i gael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol llawn.

Er hynny, os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, bydd angen 30 o flynyddoedd cymhwysol ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol llawn.

I gael gwybod mwy am Bensiwn y Wladwriaeth, gallwch lawrlwytho’r ffurflen ‘State pensions – your guide’ o wefan Gwasanaeth Pensiwn.

Os ydych wedi bod yn rhiant neu'n ofalwr

Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau YG oherwydd ichi fod yn gofalu am blant neu wedi gofalu am rywun yn yr hirdymor, mae’n bosib byddwch yn gymwys ar gyfer Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref. Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010, gall Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref gostwng nifer y blynyddoedd cymwys y bydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol.

Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei ailosod gyda chredydau Yswiriant Gwladol. Bydd blynyddoedd o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref adeiledig cyn 6 Ebrill 2010 yn cyfri fel blynyddoedd cymhwysol o gredydau Yswiriant Gwladol.

Os ydych wedi bod yn hawlio budd-dal

Os ydych wedi bod yn derbyn rhai budd-daliadau penodol, megis Lwfans Gofalwr, Lwfans Ceisio Gwaith neu Fudd-dal Analluogrwydd, byddwch wedi derbyn credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig am yr wythnosau yr ydych wedi bod yn eu hawlio.

I gael gwybod mwy, cysylltwch â'r Swyddfa Cyfraniadau YG.

Faint ydy Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth?

Yn 2008-2009, pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth fydd £90.70 yr wythnos i berson sengl a £145.05 yr wythnos i gyplau, ond fe all eich amgylchiadau unigol effeithio ar faint gewch chi.

Gallwch ofyn am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth i gael gwybod beth yw gwerth cyfredol eich Pensiwn gan y Wladwriaeth a faint y gallech ei dderbyn ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os nad ydych yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn

Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth yn llawn, ond bod gennych 25 y cant neu fwy o flynyddoedd cymwys, byddwch yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth wythnosol rhwng yr isafswm (£22.68 yn 2008-2009) a'r uchafswm (£90.70 yn 2008-2009).

Os oes gennych lai na 25 y cant o flynyddoedd cymwys, nid oes gennych fel arfer hawl i unrhyw Bensiwn sylfaenol gan y Llywodraeth. Ond fe allwch gael pensiwn 'anghyfrannol' neu 'Bensiwn dros 80 oed' os ydych yn 80 oed neu fwy ac yn bodloni'r amodau preswylio. Mae hwn yn £54.35 yr wythnos ar gyfer 2008-2009.

Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010

Os nad ydych yn gymwys am Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol llawn, ond mae gennych rhai blynyddoedd cymhwysol, byddwch yn derbyn un rhan o dri deg o’r cyfanswm llawn ar gyfer pob blwyddyn gymhwysol.

Cewch ragor o wybodaeth gan eich canolfan bensiynau leol.

Credyd Pensiwn

Os ydych yn 60 oed neu'n hŷn ac yn byw ym Mhrydain Fawr, gallai'r Credyd Pensiwn ychwanegu at eich incwm wythnosol i isafswm sicr o :

  • £124.05 os ydych yn sengl
  • £189.35 os ydych yn gwpl

O 2010, bydd yr oed cael Credyd Pensiwn yn codi'n raddol.

Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Dylai'r Gwasanaeth Pensiwn anfon ffurflen hawlio atoch yn awtomatig bedwar mis cyn ichi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Os na fyddwch wedi derbyn y ffurflen hon dri mis cyn eich pen-blwydd, gallwch:

  • llwytho'r ffurflen hawlio oddi ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn, ei hargraffu a'i llenwi ac yna'i hanfon i'ch canolfan bensiynau leol
  • Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael ar gyfer pobl ag anawsterau gyda'u clyw neu ar eu lleferydd ar 0845 60 60 285 neu type talk ar 18001 0845 60 60 265
  • ar gyfer cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg sy'n byw yng Nghymru y rhif ffôn yw 0845 60 60 275 (rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) a'r rhif ffôn testun yw 0845 60 60 295 neu type talk ar 18001 0845 60 60 275

Sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei dalu

Telir Pensiwn y Wladwriaeth yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn taliad Debyd Uniongyrchol.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i rywun arall sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, gellir anfon siec atoch i'w chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.

Gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am y tro

Does dim rhaid i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth cyn gynted ag y cyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch ohirio gwneud cais amdano os dymunwch a chael mwy o swm bob wythnos yn ddiweddarach, neu ddewis cael taliad unswm trethadwy yn ei le.

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Dylech ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn:

  • os byddwch yn mynd i'r ysbyty neu'n gadael yr ysbyty
  • yn mynd i fyw dramor neu ar ymweliad hir
  • os byddwch chi'n mynd i gartref gofal

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU