Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Deall Credyd Pensiwn

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn mae'n bosib bod gennych hawl i Gredyd Pensiwn - arian ychwanegol bob wythnos. Mae dwy ran i'r pensiwn - yr elfen 'Credyd Gwarantedig' a'r elfen 'Credyd Cynilion' (a all fod ar gael pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed).

Pwy sy'n gymwys?

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, a chithau'n byw yng ngwledydd Prydain, fe allai fod gennych hawl i'r elfen 'Credyd Gwarantedig' (sy'n gwarantu lleiafswm incwm i chi os ydych chi ar incwm isel) os yw un o'r rheolau canlynol yn berthnasol i chi:

  • os ydych chi'n sengl a bod eich incwm wythnosol o dan £130
  • os oes gennych bartner a bod eich incwm wythnosol ar y cyd o dan £198.45

Yr ydym yn defnyddio ‘partner’ i gyfeirio at eich gŵr, gwraig neu bartner sifil, neu’r person yr ydych yn byw gyda fel pe bai yn ŵr, gwraig neu bartner sifil.

Ond os oes gennych gyfrifoldebau gofalu, eich bod yn ddifrifol anabl neu fod gennych gostau eraill sy'n ymwneud â'ch cartref, fe allech gael mwy o Gredyd Pensiwn.

Os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn

Os ydych chi neu’ch partner yn 65 oed neu'n hŷn, fe allech fod yn gymwys i gael yr elfen 'Credyd Cynilion' os yw un o'r pethau canlynol yn berthnasol i chi:

  • os ydych chi'n sengl a bod cyfanswm eich incwm wythnosol arian sydd gennych yn dod mewn fel pensiynau, cynilion, enillion a buddsoddiadau rhwng £96 a £181 yr wythnos
  • bod gennych bartner a bod cyfanswm eich incwm wythnosol o arian sydd gennych yn dod mewn fel pensiynau, cynilion, enillion a buddsoddiadau ar y cyd rhwng £153.40 a £266 yr wythnos

I gael cyngor cyffredinol, gallwch ffonio'r llinell gymorth Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ffôn testun 0800 169 0133, ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Beth sy'n cyfri fel incwm?

Dyma'r incwm sy'n cyfri:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • pensiynau galwadigaethol a phreifat
  • rhan fwyaf o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol fel Lwfans Gofalwr
  • 'incwm tybiedig' o £1 yr wythnos am bob £500 (neu ran o £500) o 'gyfalaf' sydd gennych dros £6,000 neu dros £10,000 os ydych chi'n byw'n barhaol mewn cartref gofal (mae cyfalaf yn cynnwys cynilion a buddsoddiadau, polisïau yswiriant bywyd, ac eiddo nad yw'n brif gartref i chi)
  • enillion ar ôl treth a chostau a geir drwy weithio i rywun arall neu i chi'ch hun, llai hanner unrhyw gyfraniad pensiwn galwedigaethol neu bersonol a wnewch chi
  • Credyd Treth Gwaith

Dyma'r incwm sy'n cael ei anwybyddu:

  • Lwfans Gweini
  • Bonws Nadolig
  • Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol
  • Pensiwn Atodol Rhyfel i Wraig Weddw

I gael rhestri llawn, gallwch ffonio'r llinell gymorth Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ffôn testun 0800 169 0133.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Yn 60 oed neu’n hŷn – yr elfen Credyd Gwarantedig

Os ydych chi'n sengl, fe gewch y gwahaniaeth rhwng £130 a chyfanswm eich incwm wythnosol os yw'n llai na hyn.

Os ydych chi'n byw gyda phartner, fe gewch y gwahaniaeth rhwng £198.45 a chyfanswm eich incwm wythnosol chi'ch dau os yw'n llai na hyn.

Ond os oes gennych gyfrifoldebau gofalu, eich bod yn ddifrifol anabl neu fod gennych gostau eraill penodol sy'n ymwneud â'ch cartref, fe allech gael mwy o Gredyd Pensiwn.

Yn 65 oed neu'n hŷn - yr elfen Credyd Cynilion

Os ydych chi neu’ch partner yn 65 oed neu'n hŷn, mae'n bosib bod gennych hawl i gael credyd gwarant, credyd cynilion neu'r ddau.

Swm mwyaf y credyd cynilion yw:

  • £20.40 yr wythnos os ydych chi'n sengl
  • £27.03 yr wythnos os oes gennych bartner

I weld faint o Gredyd Pensiwn Gewch chi - defnyddiwch y cyfrifiannell Credyd Pensiwn.

Sut mae'n cael ei dalu

Telir y Pensiwn Credyd yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Os ydych chi'n cael Credyd Pensiwn, mae'n bosibl eich bod hefyd yn gymwys i gael:

  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor
  • Taliad Tywydd Oer
  • Taliadau Angladd
  • Grant Gofal yn y Gymuned
  • Benthyciadau Cyllidebu
  • Benthyciadau Argyfwng
  • Taliadau Tanwydd Gaeaf
  • Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
  • prydau ysgol am ddim

Os ydych chi'n cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor mae'n bosibl y cewch chi lai ohonynt os byddwch chi'n derbyn Credyd Pensiwn. Ond dylech chi ddal i fod ar eich elw'n hawlio Credyd Pensiwn.

Sut i wneud cais

Dros y ffôn

Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ffôn testun 0800 169 0133 (llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd ymgynghorydd ar gael i'ch helpu i wneud cais am Gredyd pensiwn a rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf.

Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor

Gall y Gwasanaeth Pensiwn eich helpu chi hefyd os byddwch chi'n gwneud cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor yr un pryd ag y byddwch chi'n gwneud cais am Gredyd Pensiwn.

Llwytho ffurflen oddi ar y we a'i hargraffu

Gallwch lwytho ffurflen oddi ar y we, ei hargraffu a'i llenwi ac yna'i phostio am ddim i'ch canolfan bensiynau.

Llwytho ffurflen oddi ar y we a'i llenwi ar y sgrîn

Neu llenwch ffurflen gais ar-lein ac yna'i phostio am ddim i'ch canolfan bensiynau.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Soniwch wrth eich canolfan bensiynau os bydd eich amgylchiadau'n newid, er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y swm iawn yn eich Credyd Pensiwn.

Sut i apelio

Os gwrthodwyd Credyd Pensiwn i chi neu os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn y swm anghywir, gallwch ofyn i'r swyddfa a fu'n delio gyda'ch hawliad ailystyried eu penderfyniad. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl Unedig annibynnol.

Mae mwy o wybodaeth am y broses apelio yn llyfryn yr Adran Gwaith a Phensiynau 'Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir'.

Allweddumynediad llywodraeth y DU