Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth sy'n digwydd i Bensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch chi'n marw?

Pan fyddwch yn marw, mae eich hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn dod i ben. Ond, os oeddech wedi gohirio gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd gan eich partner neu eich teulu hawl i rai o fuddion eich Pensiwn gan y Wladwriaeth.

Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth

Dim ond i chi y mae Pensiwn sylfaenol y Llywodraeth yn cael ei dalu, ac nid yw'n cael ei drosglwyddo i rywun arall pan fyddwch yn marw. Ond, os  ydych yn dewis ohirio gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd gan eich gweddw neu eich partner sifil hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol.

Efallai hefyd y gall eich gur, gwraig neu bartner sifil cyfreithiol sydd wedi goroesi hawlio'r Taliad Profedigaeth untro - neu fudd-daliadau profedigaeth ('Lwfans Profedigaeth') am flwyddyn - yn dibynnu ar faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi'u talu neu wedi'ch trin fel petaech wedi'u talu.

Os ydynt hwy yn dal i fod yn oed gweithio, efallai y gallant hawlio credydau treth hefyd.

Efallai eich bod wedi cyfrannu at Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth - a elwir hefyd yn Gynllun Pensiwn ar sail Enillion (SERPS) ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth.

Os byddwch yn marw, gall eich cymar neu bartner sifil etifeddu rhywfaint o'r pensiwn ychwanegol hwn. Mae'r swm a gânt yn dibynnu ar pryd y cawsoch eich geni:


Os ydych... % o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth sy'n daladwy
...yn ddyn a aned ar neu ar ôl 6 Hydref 1945 50%
...yn ddyn a aned ar neu cyn 5 Hydref 1937 100%
...yn ddyn a aned rhwng 6 Hydref 1937 a 5 Hydref 1945 60% i 90%*
...yn ferch a aned ar neu ar ôl 6 Gorffennaf 1950 50%
...yn ferch a aned ar neu cyn 5 Hydref 1942 100%
...yn ferch a aned rhwng 6 Hydref 1942 a 5 Gorffennaf 1950 60% i 90%*

*mae'r canran yn dibynnu ar eich union ddyddiad geni

Gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Pan gyrhaeddwch oed Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddewis peidio â chymryd y pensiwn yn syth. Ar hyn o bryd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw 65 ar gyfer dynion a 60 ar gyfer merched a anwyd ar neu ar ôl 5 Ebrill 1950; bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu i ddynion a merched o 65 i 68 oed rhwng 2024 a 2046.

Os ydych yn gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth fel hyn, gallwch ddewis cael naill ai:

  • rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn dechrau ei hawlio (oddeutu 10.4 y cant yn ychwanegol am bob blwyddyn yr ydych yn gohirio hawlio amdano) neu
  • taliad unswm (yn seiliedig ar y swm yr ydych wedi gohirio gwneud cais amdano, ynghyd â llog ar ddau y cant yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr)

Os byddwch yn marw cyn dechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yr ydych wedi gohirio gwneud cais amdano

Efallai y bydd Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol hwn yn cael ei ychwanegu at bensiwn eich partner priod neu bartner sifil. Os ydych yn cael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, gallant barhau i etifeddu rhywfaint o hwn - oddeutu hanner fel arfer.

Dan y rheolau cyfredol, a fydd yn newid yn 2010, mae dynion a merched yn cael eu trin yn wahanol:

  • gall merch gael budd o Bensiwn y Wladwriaeth ei diweddar bartner priod neu bartner sifil a oedd wedi gohirio gwneud cais amdano pan fydd hi'n cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth (60 ar hyn o bryd) ar yr amod nad yw wedi ailbriodi neu gofrestru eto fel partner sifil
  • nid yw'n bosibl i ddyn gael Pensiwn y wladwriaeth ei ddiweddar wraig neu bartner sifil yr oedd wedi gohirio gwneud cais amdano onid yw ef ei hun dros oed Pensiwn y Wladwriaeth pan fydd hi'n marw

Os byddwch yn marw ar ôl dechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yr oeddech wedi gohirio gwneud cais amdano

Bydd taliadau Pensiwn y Wladwriaeth eich gweddw neu bartner sifil yn cael eu cynyddu. Ar gyfer unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gohirioch wneud cais amdano, bydd gan eich gweddw neu bartner sifil hawl i'r un swm ag y byddech chi wedi'i gael. Bydd ganddynt hawl hefyd i rywfaint o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth (hanner fel arfer), os oeddech yn ei gael.

Os ydych yn dewis taliad unswm yn hytrach na Phensiwn y Wladwriaeth ychwanegol, bydd unrhyw swm sydd gennych ar ôl o hyd yn ffurfio rhan o'ch ystâd. Ni fydd taliadau Pensiwn y Wladwriaeth eich gweddw neu bartner sifil yn cael eu cynyddu.

Hawliau i Bensiwn y Wladwriaeth os nad oes gennych bartner priod na phartner sifil

Os nad oes gennych ur, na gwraig na phartner sifil pan fyddwch yn marw, mae Pensiwn y Wladwriaeth yr ydych wedi gohirio gwneud cais amdano yn dod yn rhan o'ch ystâd. Gall eich perthynas agosaf hawlio swm sy'n gyfwerth â thri mis cyntaf taliadau ychwanegol Pensiwn y Wladwriaeth.

Cael cyngor

I gael cymorth a gwybodaeth am bensiynau, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn. Mewn argyfwng ariannol gallwch ffonio eu llinell gymorth argyfwng ar 020 8902 8769 (rhwng 8.00 am a 10.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00 am a 10.00 pm ar ddydd Sadwrn a rhwng hanner dydd a 8.00 pm ar ddydd Sul).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU