Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer Prydeinwyr sy'n byw dramor

Os ydych yn ystyried byw dramor pan fyddwch yn ymddeol, byddwch yn gallu hawlio Pensiwn y Wladwriaeth o hyd. Os ydych yn gweithio ac yn setlo mewn gwlad arall cyn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch chithau hefyd yn gallu hawlio a chael Pensiwn y Wladwriaeth wrth ymddeol.

Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth a chithau’n byw dramor

Gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn byw y tu allan i'r DU. Fodd bynnag, dim ond os ydych yn byw yn Ardal Economaidd Ewrop, yn y Swistir neu mewn gwlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol â'r DU, a'r cytundeb hwnnw'n cynnwys pensiynau’r wladwriaeth, y cewch y codiadau blynyddol sy’n gysylltiedig-â-chwyddiant.

Os ydych yn byw y tu allan i'r ardaloedd hynny, ni fydd gennych hawl i'r codiadau blynyddol sy’n gysylltiedig-â-chwyddiant. Fodd bynnag, os dychwelwch i’r DU i fyw, cynyddir y Pensiwn a gewch gan y Wladwriaeth i'r lefelau presennol.

Sut y telir Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn byw dramor

Gellir talu Pensiwn y Wladwriaeth yn syth i gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu. Gallwch ddefnyddio banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU, neu fanc yn y wlad yr ydych yn byw ynddi. Yn y rhan fwyaf o wledydd, bydd yr arian yn cael ei drosi’n awtomatig i’r arian lleol.

Os nad oes gan y wlad y cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer bancio uniongyrchol, gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth ar ffurf siec yn arian y DU. Gellir anfon hwn bob pedair neu 13 wythnos naill ai’n uniongyrchol i’r banc neu i’ch cartref. Ar gyfer pensiynau bach, dan £5 yr wythnos, efallai y gwneir taliadau blynyddol, fel arfer yn ystod y Nadolig.

Os dim ond rhan o’r flwyddyn y byddwch yn ei dreulio dramor

Os ydych yn rhannu'ch amser rhwng y DU a thramor, bydd yn rhaid i chi ddewis ym mha wlad yr ydych am gael Pensiwn y Wladwriaeth. Nid oes modd talu'r pensiwn mewn un wlad am ran o'r flwyddyn, ac mewn gwlad arall am weddill y flwyddyn.

Os penderfynwch ddychwelyd i fyw i'r DU

Yn yr achos hwn, gallwch ofyn i Bensiwn y Wladwriaeth gael ei dalu i gyfrif banc yn y DU.

Talu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth

Bydd eich sefyllfa dreth yn dibynnu ar y canlynol:

  • a ydych yn cael eich ystyried yn berson 'nad yw'n preswylio yn y DU' at ddibenion treth
  • y wlad yr ydych yn byw ynddi

Os ydych yn treulio rhan o'ch amser yn y DU a rhan dramor, mae'n debyg y byddwch yn cael eich ystyried yn breswylydd yn y DU. Os byddwch yn symud i fyw dramor yn barhaol, mae'n debyg y cewch eich ystyried yn berson nad yw'n preswylio yn y DU.

Os nad ydych yn preswylio yn y DU, bydd eich sefyllfa dreth yn dibynnu ar a ydych yn byw mewn gwlad gyda 'chytundeb trethiant dwbl' gyda'r DU ai peidio. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar Bensiwn y Wladwriaeth, ond bydd yn drethadwy yn y wlad yr ydych yn byw ynddi.

Os ydych yn byw mewn gwlad heb ‘gytundeb trethiant dwbl' bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ac efallai y cewch eich trethu eto dramor.

Mae'n syniad da cael cyngor am dalu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth os ydych yn byw dramor. Gallwch gysylltu â Chanolfan Cyllid a Thollau EM i bobl Ddibreswyl.

Gwneud cyfraniadau Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn gweithio dramor

Os ydych yn gweithio dramor, efallai y gallwch dalu i gynllun Pensiwn y Wladwriaeth y wlad yr ydych yn gweithio ynddi. Gallwch wneud hyn yng ngwledydd Ardal Economaidd Ewrop ac mewn rhai gwledydd eraill, megis Canada a Seland Newydd, lle ceir trefniadau arbennig.

Yn dibynnu ar eich cyfnod yn gweithio dramor, gellir trefnu bod eich cyfraniadau'n cael eu credydu i'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn y DU neu gallech dderbyn dau bensiwn – un o'r DU ac un o'r wlad lle buoch yn gweithio ac yn byw. Penderfynir ar hyn pan gyrhaeddwch oed Pensiwn y Wladwriaeth, gan roi ystyriaeth i ble rydych yn byw.

Gyda phwy y dylech gysylltu cyn symud dramor

Os ydych yn symud dramor i fyw, bydd angen i chi ddweud wrth y canlynol:

  • Y Gwasanaeth Pensiwn
  • Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyllid a Thollau EM
  • eich Swyddfa Dreth

Bydd gofyn hefyd i chi roi eich cyfeiriad newydd iddynt.

Fel arfer, bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn anfon ffurflen atoch ryw bedwar mis cyn i chi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd y ffurflen hon yn gofyn am unrhyw yswiriant sydd gennych mewn gwledydd eraill ac am eich sefyllfa o ran preswylio mewn gwledydd eraill. Os byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth mewn llai na thri mis ac nad ydych wedi cael y ffurflen hon, dylech gysylltu â'r Ganolfan Bensiynau Ryngwladol.

Os ydych yn byw yn unrhyw un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop dylech hawlio fel a ganlyn:

  • os ydych wedi gweithio yn y wlad yr ydych bellach yn byw ynddi, dylech hawlio Pensiwn y Wladwriaeth y DU drwy sefydliad pensiynau’r wlad honno
  • os nad ydych wedi gweithio yn y wlad yr ydych yn awr yn byw ynddi, dylech hawlio Pensiwn y Wladwriaeth y DU yn uniongyrchol gan y Ganolfan Bensiynau Ryngwladol, oni bai i chi weithio yn un o wledydd eraill Ardal Economaidd Ewrop ers gadael y DU – yn yr achos hwnnw, dylech hawlio drwy'r sefydliad diwethaf i chi gael eich yswirio ag ef

Allweddumynediad llywodraeth y DU