Telir Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, neu Ail Bensiwn y Wladwriaeth, ar ben Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Tan Ebrill 2002, yr enw ar Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar gyfer gweithwyr oedd y Cynllun Pensiwn ar sail Enillion (SERPS). Roedd maint eich pensiwn SERPS yn seiliedig ar gyfuniad o gyfanswm eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, a faint yr oeddech yn ei ennill.
Ym mis Ebrill 2002, diwygiwyd SERPS ac yn awr fe'i gelwir yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Mae’n rhoi Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth mwy hael i bobl sy'n ennill cyflogau isel neu ganolig, a rhai gofalwyr penodol a phobl gydag anabledd neu salwch tymor hir.
Erbyn tua 2030 neu’n fuan ar ôl hynny, bydd Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn dod yn syml, taliadau ychwanegol cyfraddau gwastad wythnosol i Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol.
Mae unrhyw hawl sydd gennych o dan SERPS wedi'i ddiogelu - ac felly os oeddech wedi cronni hawl i ail bensiwn cyn Ebrill 2002 byddwch yn ei gadw, pa un a ydych wedi cyrraedd oed ymddeol neu beidio yn barod.
Dim ond uchafswm o 50 y cant o Ail Bensiwn y Wladwriaeth partner priod neu bartner sifil y gall gweddw neu bartner sifil sydd wedi goroesi ei etifeddu.
Os ydych wedi cyfrannu at SERPS mae canran uchaf eich pensiwn SERPS y gallai eich gweddw neu bartner sifil sydd wedi'ch goroesi ei etifeddu ar raddfa symudol, yn dibynnu ar pryd y cawsoch eich geni a'ch oed ymddeol.
Mae'r canrannau'n amrywio o 50 y cant ar gyfer dynion a aned ar neu ar ôl 6 Hydref 1945 neu ferched a aned ar neu ar ôl 6 Gorffennaf 1950, hyd at 100 y cant ar gyfer dynion a aned ar neu cyn 5 Hydref 1937 neu ferched a aned ar neu cyn 5 Hydref 1942.
Gallwch weld uchafswm canrannau pensiynau SERPS ar gyfer gweddwon neu bartneriaid sifil sydd wedi goroesi yn llyfryn y Gwasanaeth Pensiwn 'Inheritance of SERPS'.
Os ydych yn ofalwr, ar incwm isel neu gydag anableddau hirdymor, gallwch yn awr fanteisio ar Bensiwn-ychwanegol-y-Wladwriaeth gwell.
Os nad ydych yn gweithio neu os ydych yn ennill llai na'r terfyn enillion isaf blynyddol ar gyfer Yswiriant Gwladol (£4,680 yn 2008-2009), gallwch barhau i gronni hawl i'r pensiwn hwn os ydych:
Cyfrifir eich hawl i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (naill ai drwy SERPS neu Ail Bensiwn y Wladwriaeth) pan fyddwch yn hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Fel arfer bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn anfon y ffurflenni perthnasol atoch ac yn eich gwahodd i wneud cais oddeutu bedwar mis cyn ichi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. 65 yw'r oed i ddynion a 60 yw’r oed ar gyfer merched a anwyd ar neu cyn 5 Ebrill 1950. Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950 yn cynyddu o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. Bydd oed Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu i ddynion a merched o 65 i 68 oed rhwng 2024 a 2046.
Os na dderbyniwch lythyr yn eich gwahodd i hawlio'ch pensiwn, ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 300 1084. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (heb gynnwys gwyliau banc) a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.
Wrth gontractio allan, rydych yn dewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol llai oherwydd eich bod wedi ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol. O ganlyniad, ni fydd gennych hawl fel arfer i Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn llawn oherwydd daw eich pensiwn ychwanegol o gynllun eich cyflogwr. Ond fel arfer bydd gennych hawl i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth llai.
Os oes gennych bensiwn cyfranddeiliaid neu bensiwn personol gallwch barhau i gontractio allan os dymunwch, ond yn hytrach na thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol llai, bydd Cyllid a Thollau EM yn talu ad-daliad blynyddol i chi ar eich cyfraniadau yn syth i'ch pensiwn personol. Os dewiswch beidio â chontractio allan, ni fyddwch yn derbyn yr ad-daliad hwn, ond byddwch yn parhau i gronni eich hawl i Ail Bensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch ysgrifennu at y Gwasanaeth Pensiwn yn:
Blwch Post 1005
Newcastle upon Tyne
NE98 1WZ
Ffôn: 0845 606 0265
Ffacs: 0191 218 6061
Mae'r swyddfeydd ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.