Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw’r oedran cynharaf y gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. Ar hyn o bryd, mae’n 65 i ddynion a 60 i fenywod. Fodd bynnag, mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn newid, a bydd yn cynyddu rhwng 2010 a 2046.

Beth yw'r newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth?

Ar hyn o bryd, oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw 65 i ddynion a aned cyn 6 Ebrill 1959. I fenywod a aned ar 5 Ebrill 1950 neu cyn hynny, oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw 60.

Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a aned ar 6 Ebrill 1950 neu wedi hynny’n codi’n raddol i 65 rhwng 2010 a 2020.

O 6 Ebrill 2020 ymlaen, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn 65 i ddynion a menywod.

Newidiadau o 2024 ymlaen

Rhwng 2024 a 2046, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu i ddynion a menywod. Bydd yn cynyddu’n raddol, ac yn digwydd dros ddwy flynedd bob degawd. Bydd y newidiadau’n golygu’r canlynol:

  • bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a menywod yn cynyddu o 65 i 66 rhwng Ebrill 2024 ac Ebrill 2026
  • bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a menywod yn cynyddu o 66 i 67 rhwng Ebrill 2034 ac Ebrill 2036
  • bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a menywod yn cynyddu o 67 i 68 rhwng Ebrill 2044 ac Ebrill 2046

Bydd yr oed pan allwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar pryd y cawsoch eich geni.

Gallwch weld pryd yn union y cewch eich pensiwn drwy ddefnyddio cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn.

Eich dewisiadau ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddal ati i weithio os dymunwch.

Gallwch wneud y canlynol:

  • rhoi’r gorau i weithio a chael Pensiwn y Wladwriaeth
  • dal ati i weithio a chael eich Pensiwn hefyd
  • dal ati i weithio a gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y byddwch yn cael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn ei hawlio.

Os ydych yn dal ati i weithio ar ôl oed Pensiwn y Wladwriaeth, ni fydd yn rhaid ichi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth

Nawr, gallwch ddewis peidio â hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn syth am gyn hired ag y dymunwch. Pan fyddwch yn dechrau hawlio, gallwch ddewis naill ai gael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth am weddill eich oes, neu dderbyn taliad unswm trethadwy (a fydd gyfwerth â swm y pensiwn yr ydych wedi'i ohirio a llog arno) yn ogystal â’ch Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol arferol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU