Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cyfrifydd credydau treth - cael gwybod faint y gallwch ei gael
Mae'r cyfrifydd hwn yn dweud wrthych yn fras faint o gredydau treth y gallech eu cael. Mae'n amcangyfrif y cyfanswm y gallech ei gael - mewn cyfandaliad - o ddyddiad heddiw i ddiwedd y flwyddyn dreth hon. Mae'r cyfrifydd yn defnyddio cyfraddau cyfredol (ni all gyfrifo credydau treth ar gyfer blynyddoedd i ddod). Caiff ei ddiweddaru o 6 Ebrill 2013. Dylai gymryd rhwng 10 a 15 munud i'w gwblhau.
Mae'n bwysig cofio mai dim ond amcangyfrif o'r hyn y gallech ei gael, yn seiliedig ar yr ymatebion a rowch, y gall y cyfrifydd ei roi.
Dylech sicrhau eich bod yn ateb y cwestiynau'n gywir, oherwydd gall hyn wneud gwahaniaeth i'r canlyniad a gewch. Mae hefyd rhai camau ychwanegol y gallai fod angen i chi eu cymryd cyn i chi ateb rhai o'r cwestiynau. Caiff y rhain eu hesbonio yn yr adrannau isod.
I gael syniad mwy cywir o'r hyn y gallech ei gael, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.
Cyn i chi ddechrau, mae'n syniad da bod gennych y wybodaeth ganlynol wrth law:
Os yw eich incwm yn debygol o ostwng eleni
Mae'r cyfrifydd yn gofyn am eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf Ond os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o fod yn is, efallai y bydd angen i chi nodi swm gwahanol.
Dilynwch y canllawiau sy'n berthnasol i chi isod i'ch helpu i gael gwybod pa swm i'w nodi. Bydd hyn yn eich helpu i gael syniad gwell o faint o gredydau treth y gallech eu cael.
Mae'r flwyddyn dreth eleni rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013.
Gostyngiad mewn incwm blynyddol o fwy na £2,500
Cam un. Cymerwch eich incwm is.
Cam dau. Ychwanegwch £2,500 ato. Mae hyn am fod y Swyddfa Credyd Treth yn anwybyddu’r £2,500 cyntaf o ostyngiad mewn incwm wrth weithio allan eich taliadau, ond ni all y cyfrifydd wneud hynny.
Cam tri. Nodwch eich ateb yn y cyfrifydd.
Er enghraifft, roedd eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf yn £30,000. Ond rydych yn amcangyfrif y bydd eich incwm yn gostwng i £20,000 ar gyfer y flwyddyn dreth hon (rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013). Mae angen i chi nodi £22,500 yn y cyfrifydd. Cyfrifir hyn fel a ganlyn:
£20,000 + £2,500 = £22,500.
Gostyngiad mewn incwm blynyddol o £2,500 neu lai
Nodwch incwm y llynedd yn y cyfrifydd.
Er enghraifft, roedd eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf yn £23,000. Rydych yn amcangyfrif y bydd eich incwm yn gostwng i £21,000 ar gyfer y flwyddyn dreth hon (rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013). Dylech nodi eich incwm o £23,000 yn y cyfrifydd, am fod y gostyngiad yn eich incwm yn llai na £2,500.
Pan fyddwch yn gwneud eich cais
Mae'n bwysig gwybod pan fyddwch yn gwneud eich cais gwirioneddol, mae'n rhaid i chi nodi incwm y llynedd ar y ffurflen. Mae eich dyfarniad credydau treth cyntaf bob amser yn seiliedig ar eich incwm y flwyddyn flaenorol.
Unwaith y byddwch wedi cael eich hysbysiad dyfarnu, rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os bydd eich incwm yn is. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Gallai eich incwm is olygu bod eich taliadau'n codi - ond mae'n dibynnu ar faint y mae eich incwm yn gostwng.
Os yw eich costau gofal plant yn amrywio o wythnos i wythnos, peidiwch â defnyddio'r daflen waith a ddarperir gyda'r cyfrifydd. Gallwch gael help yn gweithio allan eich costau wythnosol ar gyfartaledd yn lle hynny drwy:
Bydd y cyfrifydd yn gofyn a oes un ohonoch yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy, ac os yw’r person arall yn analluog, yn yr ysbyty neu yn y carchar.
Dylech ateb bod un ohonoch yn analluog, yn yr ysbyty neu’r carchar os ydy’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
Bydd y cyfrifydd hwn yn rhoi syniad i chi o faint y gallech ei gael, yn seiliedig ar yr ymatebion a rowch.
Y ffigur a welwch fydd y cyfanswm y gallech ei gael rhwng dyddiad heddiw a 5 Ebrill 2013. Caiff ei gyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfraddau credyd treth cyfredol.
Er y byddwch yn gweld eich canlyniad fel cyfandaliad, caiff hwn fel arfer ei dalu mewn rhandaliadau bob pedair wythnos.
Dim ond drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth y gallwch archebu pecyn cais. Ni allwch wneud cais ar-lein.
Unwaith y byddwch wedi llenwi'r ffurflen gais, os byddwch yn gymwys, cewch hysbysiad dyfarnu yn nodi faint fydd eich taliadau.
Cipolwg ar hawliadau
Gallwch hefyd gael syniad o'r credydau treth y gallech eu cael drwy ddefnyddio rhai tablau hawliadau 'cipolwg'. Mae'r tabl yn dangos yn fras y cyfanswm y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth lawn sy'n dod i ben ar 5 Ebrill 2013.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs