Sut y gall hawlio Budd-dal Plant ddiogelu'ch Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych chi gartref yn gofalu am eich plant, neu'n rhiant sy'n gweithio ond ddim yn ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG), mae cynllun ar gael i ddiogelu'ch Pensiwn y Wladwriaeth. Gall y cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (DCC) amddiffyn eich hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth os ydych chi'n hawlio Budd-dal Plant.
Nid budd-dal yw'r cynllun DCC, ond modd o sicrhau faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar faint o 'flynyddoedd cymhwyso' y byddwch chi'n eu cronni yn ystod eich bywyd gwaith. Ystyr blwyddyn gymhwyso yw pan fyddwch chi'n ennill digon mewn blwyddyn i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol. Felly os nad ydych chi'n gweithio neu ddim yn ennill digon i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol, gallai'ch pensiwn ddioddef o'r herwydd.
Mae'r cynllun DCC yn gofalu na fyddwch ar eich colled os ydych chi'n gofalu am blant. Gwna hyn drwy leihau nifer y blynyddoedd cymhwyso mae eu hangen arnoch i gael Pensiwn y Wladwriaeth.
Bydd pob blwyddyn dreth lawn pan gewch chi Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 16 oed yn lleihau nifer y blynyddoedd cymhwyso y mae eu hangen arnoch. Ond ar gyfer Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, ni all y cynllun DCC leihau nifer y blynyddoedd cymhwyso i lai nag 20.
Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref - enghraifft
Fel arfer, bydd angen 39 blwyddyn gymhwyso arnoch er mwyn cael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth. Ond os treulioch chi bum mlynedd gartref yn gofalu am eich plentyn, ac y cawsoch Fudd-dal Plant ar gyfer pum blwyddyn dreth lawn, dim ond 34 blwyddyn gymhwyso fyddai eu hangen arnoch.
Newidiadau ar ôl 6 Ebrill 2010
O 6 Ebrill 2010 ymlaen, bydd credydau wythnosol i rieni a gofalwyr yn disodli'r cynllun DCC. Bydd unrhyw flynyddoedd dan y cynllun DCC cyn y dyddiad hwn yn cael eu cyfnewid am flynyddoedd cymhwyso, os byddwch chi'n cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth unrhyw bryd ar ôl 5 Ebrill 2010.
Os ydych chi'n cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 12 oed, bydd y credydau'n cyfri tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Ar hyn o bryd, dim ond y person sy'n hawlio ac yn cael Budd-dal Plant sy'n gymwys ar gyfer y cynllun DCC.
Felly, os ydych chi'n briod, mewn partneriaeth sifil neu'n byw gyda'ch partner, mae'n bwysig eich bod yn penderfynu gyda'ch gilydd pensiwn pwy y mae mwyaf angen ei ddiogelu. Y person hwnnw ddylai hawlio Budd-dal Plant. Mae'n debygol mai'r person hwn sy'n aros gartref i ofalu am y plant.
Os yw'ch partner wedi bod yn cael Budd-dal Plant ond nad yw'ch pensiwn chi wedi'i ddiogelu
Os cyrhaeddwch chi oed Pensiwn y Wladwriaeth unrhyw bryd ar ôl 6 Ebrill 2008, a'ch bod yn canfod nad oeddech chi'n gymwys o dan y cynllun DCC oherwydd bod eich partner yn cael Budd-dal Plant er mai chi a arhosodd gartref i ofalu am y plant, gallwch wneud cais i drosglwyddo'r cynllun DCC i'ch enw chi.
Chewch chi ddim gwneud hyn oni bai nad oes angen i'ch partner fod o dan y cynllun DCC oherwydd:
Fodd bynnag, ar gyfer y flwyddyn neu'r blynyddoedd yr hoffech fod o dan y cynllun DCC, bydd angen i chi ddangos:
Os ydych chi eisiau cael ôl-daliad dan y cynllun DCC ac nad ydych wedi bod yn cael Budd-dal Plant, bydd angen i chi hawlio ar wahân gan ddefnyddio ffurflen CF411, Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (DCC).
Gallwch gael ffurflen CF411 a nodiadau canllaw gan unrhyw un o'r canlynol:
Dylech fod yn gymwys yn awtomatig ar gyfer y cynllun DCC os yw'r ddau amod canlynol yn berthnasol:
Gallwch fanteisio ar y cynllun DCC ar gyfer blynyddoedd treth llawn pan fyddwch yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 16 oed. Os byddwch chi'n cael Budd-dal Plant am ran o flwyddyn dreth yn unig, fydd y flwyddyn honno ddim yn gymwys.
Bydd blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill ac yn gorffen ar 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Os oes gennych fwy nag un plentyn dan 16 oed, efallai y byddai'n werth i'r ddau riant hawlio Budd-dal Plant ar gyfer gwahanol blant. O wneud hyn, gallech ddiogelu pensiynau'r ddau ohonoch.
Mae'n werth gwneud hyn dim ond os nad yw'r un ohonoch yn cronni blynyddoedd cymhwyso drwy'ch gwaith neu gredydau Yswiriant Gwladol.
Os ydych chi'n cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan chwech oed, gallwch gronni'ch hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn awtomatig. Byddwch yn cael hwn yn ychwanegol at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Os ydych chi'n cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sy'n chwech oed neu'n hŷn a bod ganddo anabledd neu salwch hirdymor, gallwch gronni'ch hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth fel hyn hefyd. Ond bydd angen i chi ei hawlio ar wahân drwy ddefnyddio ffurflen CF411.
Gallwch gael ffurflen CF411 a nodiadau canllaw gan unrhyw un o'r canlynol:
Os ydych chi'n hawlio Budd-dal Plant a bod eich amgylchiadau'n newid, efallai y byddai'n fwy buddiol petai eich partner yn dechrau hawlio yn eich lle. Gallai hyn fod o fudd os gallai fanteisio ar y cynllun DCC.
Rhaid i'ch partner, neu'ch cyn bartner, fodloni'r amodau cymhwyso ar gyfer Budd-dal Plant.
Cynlluniwch y newid yn ofalus. Dim ond ar gyfer blynyddoedd treth llawn, ac nid rhannau o flwyddyn, y gallwch fanteisio ar y cynllun DCC.
Enghraifft - trosglwyddo Budd-dal Plant i'ch partner pan fydd amgylchiadau'n newid
Petaech chi a'ch partner ill dau'n gweithio ac yn cael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn, efallai na fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth pwy fyddai'n hawlio'r Budd-dal Plant. Ond petai eich partner yn rhoi'r gorau i weithio, neu eu bod yn ennill llai fel na allent dalu digon o Yswiriant Gwladol, gallai wneud synnwyr iddyn nhw hawlio Budd-dal Plant yn eich lle.
Tra byddech chi'n dal i weithio ac yn cronni'ch hawl i gael pensiwn, gallai'ch partner ddiogelu ei bensiwn ef drwy'r cynllun DCC.
Os hoffech chi drosglwyddo'r Budd-dal Plant, gallwch roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant mewn sawl ffordd.
Gallwch gysylltu â nhw ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod. Neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinell ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith niwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.
Bydd angen i'ch partner lenwi ffurflen hawlio Budd-dal Plant hefyd.
Pryd gewch chi drosglwyddo Budd-dal Plant
Os byddwch am drosglwyddo'ch Budd-dal Plant i'ch partner, gallwch roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant ar unrhyw adeg. Ond os ydych am i'ch partner allu diogelu ei bensiwn, bydd angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant rhwng 7 Ebrill a 30 Mehefin fan hwyraf.
Os byddwch chi'n dweud wrthyn nhw ar ôl hynny, fyddan nhw ddim yn gallu diogelu eu pensiwn am y flwyddyn honno.
Bydd angen i'ch partner hefyd anfon y ffurflen hawlio Budd-dal Plant i'r Swyddfa Budd-dal Plant, a hynny erbyn 30 Mehefin, os ydynt yn dymuno diogelu eu pensiwn am flwyddyn.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs