Budd-dal Plant – budd-daliadau eraill y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer
Os ydych yn rhiant ac yn cael Budd-dal Plant neu os ydych yn feichiog, mae'n bosib y gallwch gael cymorth ariannol a budd-daliadau eraill.
Taliadau gan y llywodraeth yw credydau treth i'ch helpu gyda'ch costau bob dydd.
Mae faint o gredyd treth a gewch yn dibynnu ar bethau fel:
Mae eich taliadau yn dibynnu ar eich incwm hefyd. Os bydd eich incwm yn isel, byddwch yn cael mwy o gredyd treth.
Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i fod yn gymwys i gael credydau treth
Cyfrif cynilion di-dreth ar gyfer plant yw'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Pan fyddwch yn hawlio Budd-dal Plant neu'n dechrau ei hawlio ar gyfer eich plentyn, fel rheol cewch daleb sydd werth swm penodol o arian i'w fuddsoddi yng nghyfrif eich plentyn.
Nid yw'r daleb yn seiliedig ar eich incwm, ond gallech gael mwy os ydych ar incwm isel.
Os ydych yn ddarpar fam sy'n feichiog ers 25 wythnos o leiaf, mae’n bosib y gallwch gael un taliad di-dreth o £190. Enw’r taliad yw'r 'Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd', a phwrpas yr arian yw eich helpu i fod yn iach a'ch helpu i dalu am y costau ychwanegol yn nes ymlaen yn eich beichiogrwydd.
Gallech fod yn gymwys i gael:
Gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth os ydych wedi bod yn ennill £30 neu ragor yr wythnos ar gyfartaledd a bod un o’r amodau canlynol yn berthnasol:
Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i fod yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth.
Efallai y gallech gael help gyda’ch costau iechyd os ydych yn cael Budd-dal Plant, os yw'ch incwm yn £16,040 neu lai a'ch bod hefyd yn cael credydau treth neu fudd-dal arall ar sail incwm ar gyfer eich plant, er enghraifft Cymhorthdal Incwm.
Mae costau iechyd yn cynnwys:
Os byddwch yn gymwys, fe anfonir Tystysgrif Eithrio Credydau Treth y GIG atoch drwy'r post.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y Tystysgrifau Eithrio Credydau Treth gan Swyddfa Eithrio Credydau Treth y GIG drwy ffonio 0845 609 9299.
Os na allwch chi weithio’n amser llawn ac nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno, er enghraifft oherwydd eich bod yn unig riant, efallai y gallech gael Cymhorthdal Incwm.
Mae eich hawl i Gymhorthdal Incwm – a faint y gallwch ei gael – yn dibynnu ar bethau fel eich amgylchiadau, eich incwm a’ch cynilion.
Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i fod yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm.
Mae’r cynllun Cychwyn Iach yn darparu talebau wythnosol a fitaminau am ddim. Os byddwch yn cael talebau, gallwch eu gwario ar y canlynol:
Fe allech fod yn gymwys ar gyfer Cychwyn Iach os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych blentyn iau na phedair oed a’ch bod yn cael un o’r canlynol:
Os ydych chi’n feichiog ac yn iau na 18 oed, byddwch yn gymwys yn awtomatig.
Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Taliad un-tro yw’r Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn, a’i fwriad yw helpu pobl ar incwm isel i dalu am y costau sy’n gysylltiedig â babi newydd.
Fe’i rhoddir yn bennaf i rieni newydd neu ddarpar rieni sy'n cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm megis Cymhorthdal Incwm a chredydau treth penodol. Bydd angen i chi ei hawlio yn ystod y cyfnod rhwng 11 wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i’r babi gael ei eni a thri mis ar ôl ei eni.
Nid oes rhaid i chi gael Budd-dal Plant i fod yn gymwys ar gyfer y grant.
Gallech fod yn gymwys i gael y Lwfans Rhiant Gweddw os ydych yn magu plentyn neu berson ifanc a bod eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil wedi marw. Os ydych yn gymwys, gallwch gael y taliad wythnosol hwn waeth faint o incwm sydd gennych.
Ond gallai effeithio ar rai budd-daliadau eraill yr ydych yn eu cael.
Os bydd dau riant plentyn yn marw (neu ddim ond un mewn rhai achosion), mae'n bosib y bydd modd i'w gwarcheidwad gael y Lwfans Gwarcheidwad. Mae'n daliad wythnosol di-dreth i helpu gyda chostau magu plentyn.
Does dim angen i chi fod yn warcheidwad cyfreithlon i'r plentyn, ond mae'n rhaid eich bod yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs