Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut gall newidiadau effeithio ar eich taliadau Budd-dal Plant

Os ydych chi'n cael Budd-dal Plant, gallai'ch taliadau newid, dod i ben neu gael eu gohirio os bydd newid yn eich amgylchiadau chi neu'ch plentyn. Mae'n werth gwybod sut gall newidiadau yn eich bywyd effeithio ar eich taliadau Budd-dal Plant.

Newidiadau a allai atal taliadau

Newidiadau sy'n effeithio arnoch chi

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhoi'r gorau i roi Budd-dal Plant i chi:

  • os byddwch yn gadael cartref eich teulu ac yn rhoi'r gorau i dalu arian ar gyfer eich plentyn
  • os byddwch yn gadael y DU yn barhaol
  • os byddwch yn gadael y DU dros dro am fwy nag wyth wythnos - neu fwy na 12 wythnos oherwydd eich bod chi neu aelod o'ch teulu yn sâl, neu wedi marw
  • os byddwch yn rhoi'r gorau i gyfrannu - o leiaf yr un swm â'r Budd-dal Plant cyfredol - ar gyfer plentyn nad yw'n byw gyda chi
  • os byddwch yn dechrau cael eich talu gan awdurdod lleol - neu yng Ngogledd Iwerddon gan Fwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - ar gyfer plentyn yr ydych yn gofalu amdano
  • os bydd y Swyddfa Gartref yn newid eich statws mewnfudo
  • neu os bydd eich partner yn dechrau talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol i wlad y tu allan i'r DU

Newidiadau sy'n effeithio'ch plentyn - pan fydd eich plentyn yn 16 neu'n hŷn

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhoi'r gorau i roi Budd-dal Plant i chi:

  • os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant sy’n eu gwneud yn gymwys i gael Budd-dal Plant
  • os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant sy’n eu gwneud yn gymwys i gael Budd-dal Plant ac yn dechrau gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos, a'u bod yn cael cyflog neu'n disgwyl cael cyflog
  • os yw’ch plentyn yn dechrau mewn addysg sy'n cael ei ddarparu drwy waith neu hyfforddiant a ddarperir gan gontract cyflogaeth
  • os yw’ch plentyn yn dechrau ar gwrs hyfforddiant nad yw wedi'i ‘gymeradwyo’
  • os yw’ch plentyn yn dechrau ar gwrs addysg uwch sy'n arwain at gymhwyster fel gradd
  • os yw’ch plentyn yn cyrraedd 20 mlwydd oed - mae Budd-dal Plant yn dod i ben yn gyfan gwbl pan fydd eich plentyn yn 20 oed

Nid ydych yn gyfrifol am eich plentyn mwyach

Mae'n bosib hefyd y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhoi'r gorau i roi Budd-dal Plant i chi:

  • os nad yw eich plentyn wedi bod yn byw gyda chi am dros wyth wythnos
  • os yw eich plentyn yn gadael y DU yn barhaol neu am fwy na 52 wythnos
  • os yw eich plentyn yn gadael y DU dros dro am fwy na 12 wythnos
  • os yw’ch plentyn yn dechrau cael eu budd-daliadau eu hunain – bydd hyn yn dod â’ch taliadau i ben

Newidiadau sy'n golygu y cewch fwy o Fudd-dal Plant

Gallech gael rhagor o Fudd-dal Plant, er enghraifft os cewch fabi newydd neu os bydd plentyn arall yn dod i fyw gyda chi.

Newidiadau a allai olygu oedi cyn i chi gael eich taliadau

Mae taliadau Budd-dal Plant yn mynd yn syth i'ch cyfrif banc, eich cyfrif cymdeithas adeiladu neu’ch cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post®.

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os byddwch yn newid eich cyfrif, neu bydd eich taliadau’n mynd i’r lle anghywir. Bydd oedi hyd nes y byddwch wedi dweud wrthynt am eich cyfrif newydd.

Bydd angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant os byddwch yn symud tŷ hefyd. Os na allan nhw gysylltu â chi, efallai y daw’ch taliadau i ben hyd nes eu bod yn gwybod lle’r ydych yn byw.

Newidiadau a allai effeithio ar ba mor aml y cewch eich talu

Fel arfer, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu'r Budd-dal Plant bob pedair wythnos. Ond gallwch ddewis iddo gael ei dalu'n wythnosol:

  • os ydych yn magu'ch plant ar eich pen eich hun
  • os ydych chi neu'ch partner yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • os ydych chi'n ei gweld hi'n anodd dygymod neu gadw dau ben llinyn ynghyd

Newid o daliadau wythnosol i daliadau bob pedair wythnos

Gallwch newid i gael Budd-dal Plant bob pedair wythnos ar unrhyw adeg. Os bydd eich rheswm dros gael taliadau wythnosol yn newid, rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant. Er enghraifft, efallai nad ydych chi neu'ch partner yn cael Cymhorthdal Incwm mwyach.

Os na fyddwch wedi rhoi gwybod am newid - beth fydd yn digwydd?

Rhaid i chi gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted ag y bydd newid yn eich bywyd chi neu’ch plentyn.

Os ydych wedi anghofio dweud wrthynt, mae'n well gwneud yn syth. Fel hyn, fe gewch y swm cywir o Fudd-dal Plant ac ni fydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian nad oes gennych hawl iddo.

Beth fydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ei wneud nesaf?

Y Swyddfa Budd-dal Plant sy’n penderfynu a yw newidiadau yn eich amgylchiadau’n cael effaith ar eich Budd-dal Plant

Os bydd y newid yn golygu bod eich Budd-dal Plant yn dod i ben, byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych.

Bydd y llythyr yn dweud wrthych pryd y daw’ch taliadau i ben. Mae hefyd yn gadael i chi wybod beth allwch ei wneud os nad ydych chi’n fodlon â’u penderfyniad.

Os ydych wedi cael gordaliad

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhoi gwybod i chi os bydd y newid yn eich amgylchiadau yn golygu eu bod wedi talu gormod o Fudd-dal Plant i chi. Er enghraifft, efallai i'ch plentyn adael cartref a'u bod nhw wedi parhau i roi taliadau i chi gan na wyddent hyn.

Mae'n bosib y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ôl-ddyddio'r gordaliad hyd at yr adeg y digwyddodd y newid.

Yn gyffredinol, byddant yn cael yr arian sy'n ddyledus gennych drwy leihau neu atal eich Budd-dal Plant rheolaidd hyd nes y byddant wedi cael yr holl arian a ordalwyd yn ôl.

Cysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant

Os oes arnoch angen cysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant, gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod neu gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant drwy ffonio 0845 302 1444 neu drwy ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith niwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Os yw'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ein ffonio ar 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch + 44 161 210 3086.

Os byddai’n well gennych, gallwch ysgrifennu atynt:

Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle-upon-Tyne
NE88 1AA

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU