Budd-dal plant os yw eich plentyn wedi marw
Os yw eich plentyn wedi marw, mae'n werth gwybod y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn parhau am ychydig eto. Gallent helpu gyda'r costau ychwanegol sy'n eich wynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Bydd angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted ag y gallwch os yw'ch plentyn neu blentyn yr oeddech chi'n gyfrifol amdano wedi marw. Dywedwch wrthynt beth oedd union ddyddiad y farwolaeth hefyd. Byddant angen yr wybodaeth hon ar gyfer eu cofnodion.
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant hefyd yn anfon y manylion hyn at unrhyw adran arall o Gyllid a Thollau EM sydd angen gwybod. O wneud hynny, dim ond unwaith y bydd rhaid i chi gysylltu â nhw.
Fel arfer, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn parhau i dalu'ch Budd-dal Plant am wyth wythnos o'r dyddiad y bu'ch plentyn farw.
Os na ddywedwch chi wrth y Swyddfa Budd-dal Plant cyn pen yr wyth wythnos bod eich plentyn wedi marw, efallai y byddan nhw'n talu gormod i chi.
Os ydych chi'n gymwys i gael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn, gallech gael taliad gan y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant hefyd.
Os byddai'ch plentyn wedi troi'n 20 oed yn ystod y cyfnod o wyth wythnos
Os byddai'ch plentyn wedi cael ei ben-blwydd yn 20 oed cyn diwedd yr wyth wythnos, mae ffordd wahanol o gyfrifo am faint y cewch chi Fudd-dal Plant.
Dim ond hyd at y dydd Llun ar ôl yr wythnos pan fyddai'ch plentyn wedi cael ei ben-blwydd yn 20 y gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant . Os byddai pen-blwydd eich plentyn ar ddydd Llun, byddan nhw'n talu hyd at y dyddiad hwnnw.
Os bydd eich plentyn yn marw cyn diwedd yr wythnos pan gafodd ei eni
Os bydd eich plentyn yn marw cyn diwedd yr wythnos pan gafodd ei eni, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu Budd-dal Plant am wyth wythnos. Byddan nhw'n dechrau'r wyth wythnos ar y dydd Llun ar ôl i'ch plentyn farw. Daw'r taliadau i ben ar ôl yr wyth wythnos.
Os bu'ch plentyn farw cyn i chi allu hawlio Budd-dal Plant ar ei gyfer, gallwch wneud cais o hyd. Mae'r Swyddfa Budd-dal Plant yn talu Budd-dal Plant am wyth wythnos ar ôl y dyddiad pan fu'ch plentyn farw.
Pan fyddwch chi'n anfon eich cais am Fudd-dal Plant, rhowch ddyddiad y farwolaeth yn y bwlch pwrpasol yn Adran 6 y ffurflen hawlio. Bydd angen i chi anfon tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu'ch plentyn at y Swyddfa Budd-dal Plant, ond ni fydd angen anfon y dystysgrif marwolaeth hefyd.
Efallai y byddwch chi'n gymwys i gael taliad o'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant hefyd.
A all eich hawliad gael ei ôl-ddyddio?
Ceir cyfyngiadau amser ar gyfer hawlio Budd-dal Plant.
Dim ond am dri mis y gall y Swyddfa Budd-dal Plant ôl-ddyddio taliadau. Felly bydd angen i chi wneud eich cais o fewn tri mis i'r dyddiad pan fu farw eich plentyn os ydych chi eisiau cael Budd-dal Plant am y cyfnod llawn o wyth wythnos.
Os byddwch chi'n hawlio ar ôl tri mis, cewch rai o'r taliadau o hyd, cyn belled â'ch bod yn hawlio o fewn tri mis i wythnos olaf y cyfnod o wyth wythnos ar ôl i'ch plentyn farw.
Os gadewch hi'n hwyrach na hyn, ni all y Swyddfa Budd-dal Plant wneud unrhyw daliadau. Gallai hyn olygu hefyd na chewch chi daliad gan y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, oherwydd er mwyn cael hwnnw, rhaid i chi fod yn gymwys i gael Budd-dal Plant. Os oes angen help arnoch er mwyn gweld a allwch chi hawlio mewn pryd, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth y Swyddfa Budd-dal Plant.
Os caiff eich plentyn ei eni yn farw-anedig
Os cafodd eich plentyn ei eni yn farw-anedig, ni fydd modd i chi hawlio Budd-dal Plant Mae hyn oherwydd mai dim ond pan fydd y plentyn yn fyw pan y’i ganwyd y gellir talu Budd-dal Plant. Os ganwyd eich plentyn yn farw-anedig, bydd y meddyg neu'r fydwraig wedi rhoi tystysgrif feddygol y farw-enedigaeth i chi.
Os oes arnoch angen cysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant, gallwch wneud hynny ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.
Gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ar ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r Llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os byddai’n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.
Os byddai'n well gennych chi ysgrifennu llythyr, y cyfeiriad yw:
Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle-upon-Tyne
NE88 1AA
Darparwyd gan HM Revenue and Customs