Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-dal Plant os yw eich plentyn mewn addysg bellach neu hyfforddiant

Mae'n dal yn bosib i chi gael Budd-dal Plant ar ôl i'ch plentyn gael ei ben-blwydd yn 16 oed os yw mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol. Fel arfer, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn parhau i dalu'r budd-dal nes bydd y plentyn yn 20 oed, ar yr amod eu bod wedi'u cofrestru neu eu derbyn ar y cwrs cyn eu pen-blwydd yn 19 oed. Os bydd eich plentyn yn gadael yr addysg neu'r hyfforddiant perthnasol cyn iddynt fod yn 20 oed, fel arfer bydd y taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben.

Beth sy'n cael ei ystyried yn addysg 'berthnasol' ar gyfer Budd-dal Plant?

Bydd angen i'ch plentyn fod mewn addysg amser llawn nad yw'n addysg uwch. Bydd angen iddynt fod wedi'u cofrestru neu eu derbyn ar y cwrs cyn eu pen-blwydd yn 19 oed.

Yn ôl y Swyddfa Budd-dal Plant, mae 'amser llawn' yn golygu treulio mwy na 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tymor ar y canlynol:

  • gwersi
  • gwaith ymarferol
  • astudio dan oruchwyliaeth
  • sefyll arholiadau

Nid yw'n cynnwys seibiant ar gyfer prydau bwyd a gwaith cartref.

Mae addysg 'nad yw'n addysg uwch' yn cynnwys y canlynol:

  • TGAU
  • Safon Uwch
  • NVQ/SVQ lefel 1, 2 neu 3
  • Diploma 1af, Tystysgrif Genedlaethol a Diploma Genedlaethol BTEC
  • gradd uwch neu debyg mewn SCE

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Os nad ydych yn siŵr a yw eich plentyn mewn addysg berthnasol, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant i gael rhagor o gyngor.

Cyrsiau nad ydynt yn cyfri ar gyfer Budd-dal Plant

Ni all y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant os yw eich plentyn yn dilyn cwrs addysg 'uwch'.

Dyma enghreifftiau o rai cyrsiau addysg uwch:

  • gradd
  • Diploma Addysg Uwch
  • NVQ lefel 4 neu uwch
  • Tystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC (HNC) neu Ddiploma Genedlaethol Uwch (HND)
  • hyfforddiant i athrawon

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Os nad ydych yn siŵr a yw eich plentyn yn dilyn cwrs addysg uwch, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant i gael rhagor o gyngor.

Cwrs drwy'r post

Fel rheol, ni fydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu Budd-dal Plant os yw'ch plentyn yn dilyn cwrs drwy'r post. Y rheswm dros hyn yw oherwydd ei bod yn anhebygol y byddant yn gwneud mwy na 12 awr yr wythnos o astudio dan oruchwyliaeth.

Cyrsiau brechdan

Ceir dau fath o gwrs brechdan:

  • cyrsiau yn y coleg – pan fydd eich plentyn yn treulio cyfnodau i ffwrdd o'r coleg yn dilyn hyfforddiant ymarferol gyda'i gyflogwr
  • cyrsiau yn y gwaith – pan gaiff eich plentyn ei gyflogi fel prentis neu hyfforddai ac y bydd yn dilyn cwrs amser llawn mewn ysgol neu goleg

Mae'n bosib y byddai'r Swyddfa Budd-dal Plant yn talu Budd-dal Plant os yw'ch plentyn yn dilyn cwrs yn y coleg, ond byddai angen iddo fod yn gwrs amser llawn nad yw'n gwrs addysg uwch. Ond os yw eich plentyn yn dilyn cwrs yn y gwaith, ni fyddant yn talu'r Budd-dal.

Astudio dramor

Fel rheol, dim ond am y 12 wythnos gyntaf y bydd eich plentyn dramor y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu'r Budd-dal Plant.

Ond byddant yn parhau i'w dalu os yw'ch plentyn naill ai:

  • mewn addysg berthnasol mewn gwlad sy'n rhan o Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir
  • ar daith gyfnewid neu ymweliad addysgol, ar yr amod bod gan eich plentyn ganiatâd ysgrifenedig ei ysgol neu ei goleg

Beth sy'n cael ei ystyried yn hyfforddiant 'perthnasol' ar gyfer Budd-dal Plant?

Os yw'ch plentyn yn hŷn nag 16 oed ac yn dilyn cwrs hyfforddiant 'cymeradwy', bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu Budd-dal Plant i chi.

Bydd angen i'ch plentyn fod wedi'i gofrestru neu ei dderbyn ar y cwrs cyn ei ben-blwydd yn 19 oed.

Dyma rai cyrsiau cymeradwy:

  • Lloegr – Entry to Employment a Phrentisiaethau dan arweiniad Rhaglen
  • Cymru – Adeiladu Sgiliau, Adeiladu Sgiliau+ a Phrentisiaethau Modern Sylfaenol
  • yr Alban – Get Ready for Work, Skillseekers a Phrentisiaethau Modern
  • Gogledd Iwerddon – Training for success (hyfforddiant proffesiynol a thechnegol)

Nid yw cwrs a ddarperir gan gyflogwr fel rhan o gytundeb swydd yn cael ei ystyried yn hyfforddiant cymeradwy.

Os bydd eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol

Os yw'ch plentyn yn iau na 18 oed ac yn gadael addysg neu hyfforddiant gan gofrestru ar gyfer gwaith, hyfforddiant neu addysg gyda chorff perthnasol, fel arfer gallwch ymestyn eich Budd-dal Plant am hyd at 20 wythnos.

Toriad yn addysg neu hyfforddiant eich plentyn

Os bydd toriad yn addysg neu hyfforddiant eich plentyn, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant er mwyn iddynt allu canfod a yw'n dal yn bosib i chi gael Budd-dal Plant.

Fel arfer byddant yn gallu parhau i dalu Budd-dal Plant am hyd at chwe mis os oes rheswm da dros y toriad, er enghraifft:

  • mae eich plentyn yn sâl
  • mae'r coleg ar gau dros dro
  • mae'ch plentyn yn symud i goleg arall
  • os oes rhywun sy'n annwyl i'ch plentyn yn sâl neu wedi marw
  • mae'ch plentyn yn feichiog

Os yw'ch plentyn wedi cymryd toriad gwirfoddol o'i addysg neu hyfforddiant, er enghraifft i deithio dramor am resymau personol, fel arfer ni fydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu'r Budd-dal Plant.

Os na fydd eich plentyn yn ailafael yn ei addysg neu ei hyfforddiant perthnasol, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint o'r Budd-dal Plant a gawsoch yn ystod y toriad. Bydd y swm hwn yn dibynnu ar bryd y penderfynodd eich plentyn beidio ag ailafael yn ei addysg neu ei hyfforddiant.

Yn aml, gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant am hwy na chwe mis os yw'ch plentyn yn yr ysbyty, mewn gofal preswyl neu'n cael triniaeth feddygol dramor a'ch bod yn dal i wario arian arnynt.

Mae eich plentyn yn ailafael yn ei addysg neu hyfforddiant perthnasol

Os bydd eich plentyn yn ailafael mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol, er enghraifft ar ôl cyfnod o fod yn ddi-waith, gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant i chi.

Os oeddech chi'n arfer cael Budd-dal Plant ond iddo ddod i ben am nad oeddech yn gymwys ar ei gyfer mwyach, gallwch wneud hawliad arall.

Bydd angen i'ch plentyn fod wedi'i gofrestru neu ei dderbyn ar y cwrs cyn ei ben-blwydd yn 19 oed er mwyn i chi fod yn gymwys.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Budd-dal Plant

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newidiadau yn addysg neu hyfforddiant eich plentyn cyn gynted â phosib. Os na wnewch chi hynny, mae'n bosib y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben neu efallai y byddant yn talu gormod i chi.

Mae'n rhaid i chi roi gwybod iddynt os bydd eich plentyn:

  • yn dechrau neu'n gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol yn gynharach neu'n hwyrach na'r hyn a ddywedasoch
  • yn rhoi'r gorau i un cwrs ac yn dechrau un arall
  • yn mynd i astudio dramor am hwy na 12 wythnos
  • yn lleihau eu hamser astudio dan oruchwyliaeth i 12 awr neu lai'r wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tymor
  • yn dechrau cwrs addysg uwch
  • yn cofrestru neu'n cael ei dderbyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant perthnasol ar ôl ei ben-blwydd yn 19 oed

Cysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant

Os bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant, gallwch anfon ymholiad atynt ar-lein.

Neu, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith niwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Os yw'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.

Os byddai'n well gennych chi ysgrifennu llythyr, y cyfeiriad yw:

Y Swyddfa Budd-dal Plant/Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle-upon-Tyne
NE88 1AA

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU