Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-dal Plant ar gyfer rhai dan 18 oed sy'n gadael addysg neu hyfforddiant

Os yw'ch plentyn wedi gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol a'i fod yn dal yn iau na 18 oed, yn aml, gall y Swyddfa Budd-dal Plant ymestyn eich Budd-dal Plant am hyd at 20 wythnos. Bydd angen i chi roi gwybod iddynt bod arnoch eisiau ymestyn eich budd-dal. Os na wnewch chi hynny, mae'n bosib na chewch chi rai taliadau.

Pwy sy’n gymwys i gael yr estyniad?

Gallwch gael estyniad ar eich Budd-dal Plant os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae eich plentyn wedi gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol
  • mae eich plentyn yn iau na 18 oed
  • mae eich plentyn yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos
  • roedd gennych hawl i gael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn yn union cyn dechrau cyfnod yr estyniad
  • rydych wedi gwneud cais am yr estyniad o fewn tri mis i ddiwedd yr addysg neu'r hyfforddiant perthnasol
  • mae eich plentyn wedi'i gofrestru ar gyfer gwaith, addysg neu hyfforddiant gyda chorff cymeradwy, ond bydd angen iddo wneud hyn cyn pen 20 wythnos o adael yr addysg neu'r hyfforddiant perthnasol

Cyrff cymeradwy y mae angen i'ch plentyn gofrestru â nhw

I fod yn gymwys i gael estyniad Budd-dal Plant, mae angen i'ch plentyn fod yn iau na 18 oed a'i fod wedi gwneud un o'r canlynol:

  • mae wedi cofrestru ar gyfer gwaith, addysg neu hyfforddiant gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd neu'r Gwasanaeth Connexions, yr Adran Cyflogaeth a Dysgu neu gyda Bwrdd Llyfrgell ac Addysg yng Ngogledd Iwerddon, neu unrhyw sefydliad tebyg mewn gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd
  • mae wedi gwneud cais i ymuno â lluoedd Ei Mawrhydi ac yn aros i gael ei leoli gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn

Gall hefyd fod wedi cofrestru gyda sefydliad tebyg mewn unrhyw wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd.

Am faint mae'r estyniad yn para?

Fel rheol, mae'r estyniad yn para hyd at 20 wythnos ac yn dechrau ar y dydd Llun cyntaf ar ôl i'ch plentyn roi'r gorau i'r addysg neu'r hyfforddiant perthnasol. Byddai'r cyfnod o 20 wythnos hefyd yn gorgyffwrdd ag unrhyw gyfnod pan oedd gennych hawl i Fudd-dal Plant ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 16 oed.

Rhesymau pam y gallai estyniad ddod i ben yn gynnar

Bydd yr estyniad yn dod i ben os bydd eich plentyn yn gwneud unrhyw un o'r canlynol:

  • yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed
  • yn dechrau gweithio 24 awr neu fwy'r wythnos am dâl
  • yn dechrau hyfforddiant nad yw'n hyfforddiant 'perthnasol' o ran bod yn gymwys ar gyfer Budd-dal Plant
  • yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu gredydau treth ei hun
  • yn dechrau addysg uwch

Sut i wneud cais am estyniad

I wneud cais am yr estyniad hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen CH299.

Er mwyn cael yr estyniad, bydd angen i chi anfon y ffurflen i'r Swyddfa Budd-dal Plant o fewn tri mis i'r dyddiad y gwnaeth eich plentyn roi'r gorau i'r addysg neu'r hyfforddiant perthnasol.

Os bydd eich plentyn yn rhoi'r gorau i weithio neu gael budd-daliadau

Mae'n bosib bod y Swyddfa Budd-dal Plant eisoes wedi rhoi'r gorau i dalu Budd-dal Plant i chi oherwydd bod eich plentyn:

  • wedi dechrau gweithio amser llawn
  • yn cael budd-daliadau ei hun

Efallai fod eich plentyn wedi newid ei feddwl wedyn, gan benderfynu ei fod am roi'r gorau i weithio neu gael budd-daliadau. Os digwyddodd hyn cyn diwedd cyfnod yr estyniad o 20 wythnos, cofiwch roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant, oherwydd efallai y gallech ad-hawlio Budd-dal Plant hyd at ddiwedd cyfnod yr estyniad.

Os bydd eich plentyn yn ailafael yn ei addysg neu hyfforddiant perthnasol

Os yw'ch plentyn yn iau na 19 oed ac yn ailafael yn ei addysg neu hyfforddiant perthnasol, bydd yn bosib i chi wneud hawliad arall am Fudd-dal Plant.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Budd-dal Plant

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newidiadau yn amgylchiadau eich plentyn cyn gynted â phosib. Os na wnewch chi hynny, mae'n bosib y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben neu efallai y byddant yn talu gormod i chi.

Mae'n rhaid i chi roi gwybod iddynt os bydd eich plentyn yn dechrau:

  • gweithio 24 awr neu fwy'r wythnos am dâl
  • cwrs hyfforddi sydd heb ei gymeradwyo neu a ddarperir dan gytundeb swydd
  • cwrs addysg uwch
  • addysg berthnasol a ddarperir gan gyflogwr neu fel rhan o unrhyw swydd sydd ganddynt
  • cael budd-daliadau ei hun

Cysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant mewn sawl ffordd. Gallwch ddweud wrthynt am unrhyw newidiadau neu ofyn am gyngor drwy gysylltu â hwy ar-lein gan ddefnyddio'r dolenni perthnasol isod.

Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ar ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r Llinell Gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Os yw'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.

Gallwch ysgrifennu atynt hefyd:

Y Swyddfa Budd-dal Plant/Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle-upon-Tyne
NE88 1AA.

Allweddumynediad llywodraeth y DU