Budd-dal Plant os byddwch yn mabwysiadu neu'n maethu plentyn
Mae'n bosib y gallwch hawlio Budd-dal Plant os ydych yn byw yn y DU ac yn mabwysiadu neu'n maethu plentyn. Os ydych yn cael taliadau tuag at gostau llety neu gostau cynnal a chadw sylfaenol eich plentyn gan eich awdurdod lleol, ni fyddwch yn gallu hawlio Budd-dal Plant fel arfer.
Os ydych yn y broses o fabwysiadu plentyn, mae'n bwysig gwneud cais am Fudd-dal Plant cyn gynted â phosib.
Nid oes rhaid i chi aros nes bod y broses fabwysiadu wedi'i chwblhau, ac mewn rhai amgylchiadau gallech fod yn gymwys i hawlio Budd-dal Plant am gyfnod cyn y mabwysiadu.
Nid yw cenedligrwydd eich plentyn yn effeithio ar eich hawl i gael Budd-dal Plant.
Os ydych yn maethu plentyn, gallech fod yn gymwys i hawlio Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn, cyhyd nad oes unrhyw un arall yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer.
Os ydych chi, fel rhiant maeth neu fabwysiadol, yn cael taliadau gan eich awdurdod lleol i helpu gyda chostau llety neu gostau cynnal a chadw eich plentyn, ni fyddwch yn gymwys i hawlio Budd-dal Plant ar yr un pryd.
Os oes gennych drefniant anffurfiol i faethu plentyn rhywun arall, gallwch hawlio Budd-dal Plant ar yr amod nad yw'ch awdurdod lleol yn talu unrhyw beth i helpu gyda chostau byw neu gynnal a chadw'r plentyn.
Os ydych yn dymuno hawlio, mae angen i chi gytuno gyda'r sawl sy'n cael y Budd-dal Plant ar hyn o bryd (ee y rhiant) eich bod chi'n gallu hawlio yn eu lle. Cofiwch na all dau berson gael Budd-dal Plant ar gyfer yr un plentyn.
Os ydych yn gyfrifol am blentyn sydd wedi colli un rhiant neu'r ddau, efallai y gallwch fod yn gymwys i hawlio Lwfans Gwarcheidwad hefyd.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs