Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-dal Plant os yw eich plentyn mewn gofal

Os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn a'i fod yn cael ei roi mewn gofal neu bod awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus arall yn gofalu amdano, mae'n bosib na fydd eich taliad budd-dal yn dod i ben yn syth.

Beth y mae angen i chi ei wneud os bydd eich plentyn yn cael ei roi mewn gofal

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted ag y caiff eich plentyn ei roi mewn gofal. Yna, byddant yn edrych i weld a allwch ddal i gael eich talu. Gallwch wneud hyn drwy anfon ffurflen atynt ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Neu, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r Llinell Gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith niwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Os yw'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn byw y tu allan i'r DU gallwch ffonio +44 161 210 3086.

Yr wyth wythnos gyntaf mewn gofal

Fel arfer, gallwch barhau i gael Budd-dal Plant am yr wyth wythnos gyntaf ar ôl i'ch plentyn gael ei roi mewn gofal.

Os bydd eich plentyn mewn gofal ar ôl wyth wythnos

Oni bai fod eich plentyn mewn gofal oherwydd salwch neu anabledd, mae Budd-daliadau Plant fel arfer yn dod i ben ar ôl wyth wythnos os bydd yr awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus arall yn talu am gostau gofal a llety eich plentyn.

Fodd bynnag, gallwch wneud hawliad arall am Fudd-dal Plant ar ôl wyth wythnos hyd yn oed os oes rhywun arall yn talu’r costau gofal a llety, os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch plentyn yn treulio saith niwrnod neu ragor yn olynol gartref ac yna'n dychwelyd i ofal. Os hynny, gallwch hawlio Budd-dal Plant am yr wythnosau pan fyddant adref
  • mae’ch plentyn yn treulio o leiaf 24 awr gartref bob wythnos. Os hynny mae gennych hawl i Fudd-dal Plant cyhyd ag y bydd hynny'n parhau
  • rydych yn cyfrannu tuag at ofal eich plentyn os ydynt yn cael eu maethu gan berthynas neu gan rywun arall, cyn belled nad yw'r sawl sy'n gofalu yn cael eu talu gan awdurdod lleol, ac nad ydynt yn cael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn

Mae eich plentyn mewn gofal oherwydd salwch neu anabledd

Efallai fod eich plentyn mewn llety preswyl, neu mewn ysgol breswyl, oherwydd salwch neu anabledd.

Yr hyn a olygir wrth preswyl, yn ôl y Swyddfa Budd-dal Plant, yw llety neu ysgol a ddarperir gan awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus arall. Os mai dyma'r unig reswm pam eu bod oddi cartref, byddwch yn dal i gael Budd-dal Plant os ydych yn gwario arian yn rheolaidd arnynt. Byddai hyn yn cynnwys arian ar gyfer dillad, llyfrau, teganau ac ati, neu gostau teithio wrth ymweld â nhw.

Os bydd eich plentyn i ffwrdd am fwy na 12 wythnos (84 diwrnod), ac nad ydych yn gwario arian arnynt yn rheolaidd, rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU