Budd-dal Plant a phobl sydd newydd gyrraedd y DU
Os ydych wedi dod i fyw i'r DU o wlad arall mae'n bosib y cewch Fudd-dal Plant ar gyfer eich plentyn. Ond i fod yn gymwys i’w gael bydd yn rhaid i chi fodloni ambell reol sy’n ymwneud â ‘phreswylio’.
Er mwyn cael Budd-dal Plant, fel arfer bydd gofyn i chi fodloni'r amodau canlynol:
Er mwyn cael Budd-dal Plant rhaid i chi a’ch plentyn fod yn y DU.
Ond gallwch ddal i’w gael os ydych allan o’r wlad am gyfnodau byr, dros dro - pan fyddwch ar wyliau, er enghraifft.
Er mwyn cael Budd-dal Plant rhaid i chi, ond nid eich plentyn, fod yn preswylio fel arfer yn y DU. Byddwch fel rheol yn ‘preswylio fel arfer’:
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn penderfynu a ydych yn preswylio fel arfer ai peidio drwy edrych ar eich holl amgylchiadau - gallai'r enghreifftiau canlynol fod yn help i ddangos a ydych chi'n cyfri ai peidio.
Mae Anisha a’i phlant yn dod o India ac maent yn aros gyda theulu ei chwaer ger Llundain. Nid ystyrir eu bod yn preswylio fel arfer yn y DU felly ni chânt hawlio budd-dal plant.
Mae Aleksy, ei wraig a’i fab wedi symud i’r DU yn barhaol o wlad Pwyl. Mae Aleksy’n gweithio fel datblygwr eiddo hunangyflogedig ac mae ei fab ar gofrestr yr ysgol leol.
Gan fod prif gartref teulu Aleksy yn y DU a’u bod wedi dewis byw a setlo yma, ystyrir eu bod yn preswylio fel arfer yn y DU ac felly fe gânt wneud hawliad ar gyfer Budd-dal Plant.
Mae gennych hawl i breswylio yn y DU os ydych:
Os ydych chi’n dod o AEE neu’r Swistir ac nad ydych yn gweithio nac yn chwilio am waith mae’n bosib nad oes gennych hawl i breswylio yn y DU – oni allwch eich cynnal eich hun.
Mae gwledydd Ardal Economaidd Ewrop fel a ganlyn: yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.
Ceir hefyd rai rheolau arbennig am yr hawl i breswylio os ydych chi’n dod o wlad sydd wedi ymuno â’r Undeb Ewropeaidd er 2004.
Os ydych chi’n dod o Estonia, Gwlad Pwyl, Hwngari, Latfia, Lithwania, Slofacia, Slofenia neu’r Weriniaeth Tsiec mae gennych hawl i breswylio os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
Os ydych yn dod o Fwlgaria neu o Romania, mae gennych hawl i breswylio os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
Efallai na fydd gan bobl o AEE nad ydynt yn chwilio am waith hawl i breswylio yn y DU, oni bai y gallant eu cynnal eu hunain.
Ceir hefyd rai rheolau arbennig am yr hawl i breswylio os ydych chi’n dod o wlad sydd wedi ymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar. Er enghraifft, os ydych chi’n dod o un o’r canlynol:
Mae’n bosib na fyddwch yn gallu cael Budd-dal Plant os ydych chi'n ddarostyngedig i ‘reolau mewnfudo’. Mae rheolau mewnfudo’n golygu un o’r canlynol:
Weithiau, os ydych yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo, efallai y gallech ddal i hawlio Budd-dal Plant, er enghraifft os ydych yn dod o wlad y mae gan y DU gytundeb â hi sy’n cynnwys Budd-dal Plant.
Nid ydych yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
Os ydych chi’n dod o un o wledydd y Gymanwlad a’ch bod yn gwasanaethu yn Lluoedd Prydain yn y DU, nid ydych yn ddarostyngedig i reolau mewnfudo. Golyga hyn y gallech gael Budd-dal Plant fel arfer.
Efallai y byddwch yn gwasanaethau yn Lluoedd Prydain yn y DU ac yna’n cael eich symud dramor drachefn. Fel arfer, gallwch ddal i gael Budd-dal Plant hyd yn oed os ydych y tu allan i’r DU.
Mae yna wahanol drefniadau ar gyfer Budd-dal Plant gan ddibynnu ar a ydych yn gweithio ai peidio ac a ydych wedi dod o wlad yn AEE ai peidio. Fodd bynnag, bydd gofyn i chi ddal i fod â chyfrifoldeb dros eich plentyn.
Os ydych chi wedi dod i'r DU o wlad sydd y tu allan i AEE neu'r Swistir fyddwch chi ddim ond yn gymwys i gael Budd-dal Plant pan fydd eich plentyn yn cyrraedd y DU.
Fodd bynnag, os ydych wedi cyrraedd o wlad yn AEE neu o’r Swistir, fel arfer gallwch gael Budd-dal Plant hyd yn oed os nad yw'ch plentyn yn dod i’r DU.
Os oes arnoch angen cyngor, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun ar 0845 302 1474.
Mae'r Llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, bob dydd o'r wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant drwy ffonio 0845 302 1489, neu os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs