Budd-dal Plant os ydych yn byw neu'n gweithio dramor
Os ydych chi’n mynd dramor i fyw neu i weithio efallai y gallech ddal i gael Budd-dal Plant. Os mai dim ond am wyth wythnos neu lai y byddwch chi’n mynd dramor, gallwch ddal i gael Budd-dal Plant heb wneud unrhyw beth arall.
Os ydych chi’n disgwyl bod i ffwrdd o’r DU am lai na 52 wythnos, gelwir hyn yn ‘absenoldeb dros dro’.
Os ydych chi dramor dros dro gallwch ddal i gael Budd-dal Plant:
Mae rhai eithriadau i hyn:
Mae gwledydd Ardal Economaidd Ewrop fel a ganlyn: yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.
Ymdrinnir â’r eithriadau yn yr adrannau isod.
Fel arfer, dim ond os ydych chi’n byw yn y DU y gallwch gael Budd-dal Plant y DU, ond efallai y gallech ei gael hefyd os ydych chi’n byw yn un o wledydd AEE neu yn y Swistir.
Mewn rhai achosion, fodd bynnag, efallai y gallech hawlio lwfans plant gan y wlad lle’r ydych yn gweithio. Er enghraifft, efallai’ch bod yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac yn gweithio yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Os ydych chi’n byw yn y DU ond yn gweithio yn un o wledydd eraill AEE
Os ydych chi'n byw yn y DU ond eich bod yn gweithio mewn gwlad arall yn AEE neu yn y Swistir, efallai y gallech wneud cyfraniadau i gynllun nawdd cymdeithasol y wlad arall.
Os yw’r rhain yn hafal i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU, gallwch hawlio lwfans plant gan y wlad honno.
Os yw’r swm a gewch yn llai na chyfradd y DU o Fudd-dal Plant, gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu’r gwahaniaeth.
Os ydych chi’n byw yn un o wledydd eraill AEE ond yn gweithio yn y DU
Efallai y gallech ddal i gael Budd-dal Plant os ydych yn byw yn un o wledydd eraill AEE ac yn gweithio yn y DU. Does dim ots a ydych chi'n gyflogedig ynteu'n hunangyflogedig.
Os ydych chi’n cael lwfans plant gan y wlad lle’r ydych yn byw a bod y swm yn llai na chyfradd y DU o Fudd-dal Plant, gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu'r gwahaniaeth.
Os byddwch yn mynd dramor yn barhaol, neu’ch bod yn disgwyl bod i ffwrdd am fwy na 52 wythnos, ni fyddwch yn gymwys i gael Budd-dal Plant oni bai eich bod yn bodloni'r ddau amod isod:
Mae gwledydd Ardal Economaidd Ewrop fel a ganlyn: yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.
Bydd eich hawl i Fudd-dal Plant yn dod i ben ar y dydd Sul cyntaf ar ôl i chi adael y DU, neu ar y diwrnod ei hun os mai dydd Sul yw hwnnw.
Os yw’ch plentyn yn aros yn y DU a bod rhywun arall yn gofalu amdano, efallai y bydd y person hwnnw’n dymuno hawlio Budd-dal Plant.
Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant os ydych chi'n bwriadu symud i fyw'n barhaol dramor neu os ydych yn debygol o fod i ffwrdd am fwy na blwyddyn.
Fel arfer, gallwch gael Budd-dal Plant os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:
Os ydych chi’n cael lwfans plant gan y wlad lle’r ydych yn byw a bod y swm yn llai na chyfradd y DU o Fudd-dal Plant, gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu'r gwahaniaeth.
Mae rheolau arbennig yn berthnasol i Weision y Goron – gweision sifil neu aelodau o’r lluoedd arfog sydd wedi’u lleoli ac yn gweithio dramor ar ran y llywodraeth.
Gallwch gael Budd-dal Plant tra byddwch yn gweithio dramor cyn belled â’ch bod yn bodloni un o’r amodau canlynol yn union cyn cael eich lleoli dramor:
Does dim ots a yw’ch plentyn yn mynd dramor gyda chi ynteu'n aros yn y DU.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs