Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-dal Plant os yw'ch plentyn yn byw gyda rhywun arall

Os bydd eich plentyn yn mynd i fyw gyda rhywun arall, mae’n bosib y gallwch ddal i gael Budd-dal Plant am hyd at wyth wythnos. Os byddwch yn dal i gyfrannu at gostau cynhaliaeth eich plentyn mae’n bosib y gallech gael y Budd-dal am fwy o amser.

Yr wyth wythnos gyntaf ar ôl i blentyn adael cartref

Os bydd eich plentyn yn gadael cartref i fynd i fyw gyda ffrind neu berthynas, fel arfer bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn dal i dalu Budd-dal Plant i chi am yr wyth wythnos gyntaf.

Efallai y bydd yn gyfnod llai na hyn os bydd y sawl y mae’ch plentyn wedi mynd i fyw gydag ef hefyd yn gwneud hawliad am Fudd-dal Plant ar gyfer eich plentyn.

Ar ôl wyth wythnos

Byddwch yn dal i gael Budd-dal Plant am fwy nag wyth wythnos:

  • os ydych yn cyfrannu at gostau cynhaliaeth a llety eich plentyn
  • os ydych yn cyfrannu swm sydd o leiaf gyfwerth â’r Budd-dal Plant yr ydych yn ei gael ar gyfer eich plentyn
  • os nad yw’r sawl y mae’ch plentyn yn byw gydag ef wedi gwneud hawliad

Rhaid i bob un o’r rhain fod yn berthnasol.

Mathau o gyfraniadau sy’n cyfri

Does dim rhaid i’ch cyfraniad olygu cyfraniad ariannol. Gall gynnwys:

  • dillad
  • anrhegion pen-blwydd a Nadolig
  • bwyd
  • arian poced

Efallai y gallech hefyd gyfrannu drwy ddarparu rhywle i’ch plentyn fyw, er enghraifft:

  • gallech drosglwyddo’r tŷ i’ch partner - gallai’r trosglwyddo gyfri fel taliadau cynhaliaeth wythnosol, ond rhaid i chi a’r Swyddfa Budd-dal Plant gytuno ar hyn
  • gallech gyfrannu swm rheolaidd i dalu am eich cyfran chi o’r llog ar y tŷ lle mae’ch plentyn yn byw

Amlder a swm y taliadau neu'r cyfraniadau

Rhaid i chi gyfrannu swm sydd o leiaf gyfwerth â’r Budd-dal Plant yr ydych yn ei gael ar gyfer eich plentyn.

Pa mor aml y mae’n rhaid i chi gyfrannu?

Gallwch gyfrannu bob wythnos, bob mis neu wneud taliad unswm i dalu am gyfnod penodol. Os byddwch yn methu taliad neu ddau dros gyfnod hir, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn dal i ystyried eich bod wedi cyfrannu ar gyfer y cyfnod cyfan.

Mwy nag un plentyn

Os ydych yn cyfrannu tuag at fwy nag un o’ch plant, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhannu’r cyfraniadau yn gyfartal rhwng eich plant, oni bai eich bod yn gofyn iddynt wneud yn wahanol.

Os oes dau neu fwy o bobl yn cyfrannu ar gyfer yr un plentyn

Os ydych chi a rhywun arall, fel eich partner, yn cyfrannu tuag at gostau cynhaliaeth eich plentyn, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn cyfri’r cyfraniadau gyda’i gilydd wrth bennu a allwch ddal i gael Budd-dal Plant.

Byddai’n rhaid i’r cyfanswm fod o leiaf gyfwerth â’r Budd-dal Plant yr ydych chi’n ei gael.

Dim ond un unigolyn all gael Budd-dal Plant, felly byddai’n well i chi benderfynu rhwng eich gilydd pwy ddylai gael y Budd-dal.

Taliadau yn unol â chytundeb neu orchymyn llys

Ceir rheolau arbennig os ydych yn gwneud taliadau cynhaliaeth yn unol â gorchymyn llys, gweithred neu gytundeb rhwymo.

Mae’r Swyddfa Budd-dal Plant yn ymdrin â’r taliadau hyn fel incwm y sawl sy’n gofalu am eich plentyn, yn hytrach nag fel cyfraniad tuag at eich plentyn.

Os ydych yn talu tuag at gostau cynhaliaeth eich plentyn ond nad yw’ch plentyn yn byw gyda’r sawl rydych chi’n gwneud taliadau cynhaliaeth iddo, gall y Swyddfa Budd-dal Plant ystyried eich bod yn dal i gyfrannu tuag at eich plentyn.

Byddant yn gwneud hyn os oes un o’r amodau canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n trefnu i’r taliadau fynd i’r unigolyn, neu’r cartref, sy’n gofalu am eich plentyn
  • rydych chi’n talu arian yn uniongyrchol i’r sawl sy’n gofalu am eich plentyn

Cysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant i ddweud eich bod wedi rhoi’r gorau i gyfrannu

Os byddwch yn rhoi’r gorau i gyfrannu tuag at gostau cynhaliaeth eich plentyn, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant.

Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod neu gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant drwy ffonio 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith niwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0845 302 1489, neu os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.

Byddan nhw’n ymchwilio i weld a ddylech chi ddal i gael Budd-dal Plant.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU