Mae'r Swyddfa Budd-dal Plant yn ceisio rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais, a'ch talu, o fewn saith i wyth wythnos ar ôl cael eich ffurflen hawlio. Yn aml, fe gewch eich taliad cyntaf o fewn pythefnos.
Pan fydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn cael eich cais am Fudd-dal Plant, byddant yn edrych i weld a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Plant.
Ar ôl iddynt benderfynu ar hyn, byddant yn anfon 'Hysbysiad Dyfarniad' atoch, sy'n dweud wrthych faint gewch chi a phryd gewch eich talu. Mae'n bosib y cewch eich taliad cyntaf cyn i'r Hysbysiad Dyfarniad gyrraedd.
Os na allan nhw benderfynu'n syth a ydych yn gymwys ai peidio, fe gysylltan nhw â chi i gael rhagor o wybodaeth.
Ceir rheolau arbennig ar gyfer talu Budd-dal Plant i bobl sydd newydd gyrraedd y DU. Er mwyn cael Budd-dal Plant, rhaid i chi fod yn 'preswylio fel arfer' yn y DU.
Mae angen i'r Swyddfa Budd-dal Plant edrych ar bethau fel lle bwriedwch fyw, a sicrhau bod gennych 'hawl i breswylio' yn y DU. Felly mae'n bosib y cymerant rywfaint o amser er mwyn gallu gweld a ydych yn gymwys ai peidio.
Os yw hyn yn berthnasol i chi, efallai y bydd rhaid i chi aros dipyn hirach cyn i chi gael eich taliad Budd-dal Plant cyntaf.
Os ydych chi'n credu bod y taliad cyntaf yn hwyrach nag y dylai fod, gallwch weld lle mae'ch cais arni drwy gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant.
Gallwch wneud hyn drwy anfon eich ymholiad atynt ar-lein.
Neu, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r Llinell Gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os yw'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn byw y tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.
Gallwch ysgrifennu atynt hefyd os hoffech weld lle mae'ch cais arni:
Y Swyddfa Budd-dal Plant/Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle upon Tyne
NE88 1AA
Gallant ateb mewn fformat arbennig, fel Braille, tâp sain neu brint bras, os gofynnwch iddynt.