Deall eich Hysbysiad Dyfarniad Budd-dal Plant
Pan fydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn penderfynu eich bod am gael Budd-dal Plant, byddant yn anfon llythyr atoch sy'n egluro faint sy'n ddyledus i chi. Gelwir hwn yn Hysbysiad Dyfarniad Budd-dal Plant. Mae'n syniad da taro golwg dros yr Hysbysiad Dyfarniad ac yna'i gadw mewn rhywle diogel er mwyn sicrhau eich bod wastad yn cael faint sy'n ddyledus i chi.
Mae sawl adran i'ch Hysbysiad Dyfarniad. Mae'n dangos:
Mae'r hysbysiad dyfarniad yn cynnwys dalen ymateb y gallwch ei defnyddio i ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.
Mae'r wybodaeth ganlynol hefyd ar eich Hysbysiad Dyfarniad:
Os hoffech gysylltu â nhw, gwnewch yn siŵr bod gennych eich cyfeirnod Budd-dal Plant a'ch rhif Yswiriant Gwladol wrth law.
Mae dwy gyfradd wahanol o Fudd-dal Plant:
Mae'r Swyddfa Budd-dal Plant yn cyfrifo'ch dyfarniad ar sail faint o blant yr ydych chi'n hawlio drostynt. Mae Lwfans Gwarcheidwad ychwanegol ar gael hefyd, os ydych chi'n gofalu am blentyn a gollodd ei rieni.
Fel arfer, gallwch gael Budd-dal Plant nes bod eich plentyn yn 16 oed.
Weithiau, gallwch ddal i'w gael hyd 31 Awst sy'n dilyn eu pen-blwydd yn 16, ac am lawer hirach os yw'ch plentyn yn dal ati gyda'r addysg neu'r hyfforddiant perthnasol.
All y Swyddfa Budd-dal Plant ddim ôl-ddyddio Budd-dal Plant am fwy na thri mis. Felly mae'n bwysig hawlio cyn gynted â phosib ar ôl i'ch plentyn gael ei eni, neu ar ôl i blentyn sydd dan eich cyfrifoldeb ddod i fyw gyda chi.
Er enghraifft, pe byddech chi'n gwneud cais am Fudd-dal Plant ddeufis ar ôl i'ch plentyn gael ei eni, gallai'r Swyddfa Budd-dal Plant ôl-ddyddio'ch dyfarniad hyd ddyddiad eu geni.
Ond os na wnewch chi gais tan y pedwerydd mis ar ôl y geni, dim ond am dri mis y gallant ôl-ddyddio'r dyfarniad, sef mis ar ôl dyddiad eu geni.
Gwnewch yn siŵr fod y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu'ch Budd-dal Plant i'r cyfrif banc cywir - yr un a nodwyd gennych chi i'w ddefnyddio.
Os ydych chi'n dymuno newid y cyfrif hwn, bydd angen i chi roi gwybod iddynt cyn gynted â phosib.
Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich taliadau.
Gallai’r rhain gynnwys:
Mae'n syniad cadw'ch Hysbysiad Dyfarniad mewn rhywle diogel.
Efallai y bydd ei angen arnoch os byddwch yn gwneud cais am gymorth ariannol a bod angen i chi:
Gallwch ofyn iddynt egluro sut daethant i benderfyniad ynghylch eich Budd-dal Plant.
Bydd angen i chi wneud hyn o fewn mis i'r dyddiad sydd ar eich Hysbysiad Dyfarniad.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs