Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ydy'ch taliadau Budd-dal Plant wedi lleihau neu wedi dod i ben?

Gallai’ch taliadau Budd-dal Plant fod wedi dod i ben am amryw o resymau. Yn syml iawn, efallai fod eich amgylchiadau wedi newid ac nad yw’ch Swyddfa Budd-dal Plant yn gwybod am hynny.

Pam mae eich Budd-dal Plant wedi dod i ben?

Gallai’ch taliadau Budd-dal Plant fod wedi dod i ben am amryw o resymau, er enghraifft:

  • mae’r Swyddfa Budd-dal Plant wedi ysgrifennu atoch ond nid ydych wedi ateb eu hymholiad
  • mae’ch plentyn wedi cyrraedd 16 oed ac nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant a yw am aros mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol
  • mae manylion eich cyfrif banc wedi newid ac nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant
  • rydych wedi newid eich cyfeiriad yn ddiweddar ac nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant
  • mae’ch plentyn wedi’i roi mewn gofal
  • mae’ch plentyn yn byw gyda rhywun arall bellach

Os nad ydych wedi ateb y Swyddfa Budd-dal Plant

Os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant wedi ysgrifennu atoch a chithau heb ateb eu hymholiad neu eu negeseuon atgoffa, byddant yn dod â’ch taliadau Budd-dal Plant i ben oherwydd nad ydynt yn siŵr ble rydych chi’n byw.

Os yw’ch plentyn wedi cyrraedd 16 oed

Yn ystod y flwyddyn ysgol pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 16 oed, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn cysylltu â chi i ganfod a yw’ch plentyn yn bwriadu aros mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol.

Os yw’ch plentyn yn bwriadu gwneud hynny, byddant hefyd yn gofyn am y dyddiad yr ydych yn disgwyl iddynt adael addysg neu hyfforddiant perthnasol. Ar ôl i chi ateb, byddant yn dweud wrthych a allwn barhau i dalu Budd-dal Plant i chi.

Byddant yn dod â’ch taliadau i ben ddydd Llun cyntaf mis Medi:

  • os na fyddwch yn ateb y Swyddfa Budd-dal Plant
  • os byddwch yn dweud wrthynt nad yw’ch plentyn yn bwriadu aros mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol

Os yw’ch taliadau wedi dod i ben ond eich bod chi’n dal i gredu bod eich plentyn yn gymwys i gael Budd-dal Plant, cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith.

Os yw manylion eich cyfrif banc wedi newid

Os ydych wedi newid manylion y cyfrif y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu’ch Budd-dal Plant iddo yn ddiweddar a heb ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant, bydd eich taliad wedi cael ei anfon i’ch hen gyfrif.

Mae angen i chi rhoi’ch manylion newydd iddynt ar unwaith er mwyn iddynt allu trefnu i anfon taliadau i’r cyfrif cywir yn y dyfodol.

Os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar

Os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar a heb ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant beth yw eich cyfeiriad newydd, mae’n bosib y byddant yn dod â’ch taliadau Budd-dal Plant i ben oherwydd eu bod yn methu cysylltu â chi.

Gallwch atal hyn rhag digwydd drwy roi gwybod iddynt mewn da bryd os byddwch yn newid eich cyfeiriad.

Os yw’ch plentyn wedi’i roi mewn gofal

Efallai fod eich plentyn wedi’i roi yng ngofal:

  • awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon

Mae’n bosib y gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant am yr wyth wythnos gyntaf y bydd eich plentyn mewn gofal. Ar ôl hynny, efallai y daw’ch taliadau i ben oni bai eich bod yn dal yn gymwys i gael Budd-dal Plant.

Os yw’ch plentyn yn byw gyda rhywun arall bellach

Os yw’ch plentyn yn byw gyda rhywun arall, mae’n bosib y bydd yr unigolyn hwnnw hefyd yn penderfynu gwneud hawliad am Fudd-dal Plant.

Weithiau bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn cael hawliad gan rywun arall, ac ni fyddwch yn gwybod am hyn nes bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ysgrifennu atoch i ddweud hynny. Ond, ni allant ddweud wrthych pwy sydd wedi gwneud yr hawliad.

Mae’n bosib y caiff eich taliadau eu hatal nes bydd yn amlwg pwy ddylai gael yr arian.

Beth i’w wneud os nad ydych wedi cael eich taliad

Os nad ydych wedi cael eich taliad er nad yw’ch amgylchiadau wedi newid ac nad yw’ch plentyn yn 16 oed neu’n hŷn, mae’n werth holi eich banc, eich cymdeithas adeiladu neu Swyddfa’r Post ® i weld a oes eglurhad syml.

Cysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant

Os bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant, gallwch anfon eich ymholiad atynt ar-lein.

Neu, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith niwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Os byddai’n well gennych siarad Cymraeg gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.

Os byddai’n well gennych, gallwch ysgrifennu atynt:

Y Swyddfa Budd-dal Plant/Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle-upon-Tyne
NE88 1AA

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU