Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gordaliadau Budd-dal Plant

Os telir gormod o Fudd-dal Plant i chi, gelwir hyn yn 'ordaliad'. Rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw ordaliad cyn gynted ag y gwyddoch amdano. Dylech hefyd roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau cyn gynted â phosib, er mwyn helpu i atal gordaliad rhag cronni. Dylech ateb unrhyw lythyrau a gewch ynghylch gordaliad cyn gynted ag y bo modd.

Pam y gall gordaliadau ddigwydd

Fel arfer bydd gordaliadau'n digwydd pan na fydd eich taliadau Budd-dal Plant wedi'u haddasu i gyd-fynd â'ch amgylchiadau newydd.

Dyma enghreifftiau o'r newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt yn syth:

  • os bydd eich plentyn, sy’n hŷn nag 16 oed, yn gadael addysg neu hyfforddiant sy’n gymwys ar gyfer Budd-dal Plant
  • os byddwch yn gadael y DU am fwy nag wyth wythnos
  • os bydd eich plentyn yn gadael cartref

Sut y byddwch yn gwybod os talwyd gormod i chi?

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn anfon llythyr atoch i ddweud y talwyd gormod i chi. Bydd y llythyr yn dweud:

  • faint yn ormod yr ydych chi wedi'i gael
  • pam y digwyddodd y gordaliad
  • a oes rhaid i chi dalu'r arian yn ôl
  • beth y gallwch ei wneud os hoffech gael mwy o wybodaeth am y penderfyniad, neu os ydych yn credu iddynt wneud y penderfyniad anghywir
  • y cewch lythyr arall a fydd yn egluro sut y gallwch dalu’r arian yn ôl

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael gordaliad, peidiwch ag aros i’r Swyddfa Budd-dal Plant gysylltu â chi – cysylltwch â nhw ar unwaith i egluro’r sefyllfa.

Gallant ddweud wrthych a ydych chi’n cael y swm cywir.

Os ydych chi’n gwybod eich bod wedi cael gordaliad ond na fyddwch yn datgan hynny

Os ydych chi'n gwybod eich bod wedi cael gordaliad ond na fyddwch yn gwneud dim byd am y peth, gellid eich amau o gyflawni twyll budd-dal. Mae hyn yr un fath â pheidio'n fwriadol â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau personol.

Os cewch eich erlyn am dwyll budd-dal, yn ogystal â gorfod ad-dalu'r arian a ordalwyd i chi, gallech wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar.

Oes rhaid i chi dalu'r arian yn ôl?

Os mai chi sydd ar fai am y gordaliad – efallai drwy beidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau neu y gwnaethoch roi gwybodaeth anghywir – mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu'r arian yn ôl.

Os mai camgymeriad gweinyddol a achosodd y gordaliad, efallai y bydd dal yn rhaid i chi dalu’r gordaliad ôl, yn enwedig os gellid disgwyl yn rhesymol i chi sylweddoli eich bod wedi cael gordaliad.

Sut mae talu'r gordaliadau yn ôl

Fel rheol, mae’n rhaid i chi dalu’r gordaliad yn ôl mewn taliad unswm.

Mae’r slip talu a gewch gyda’r llythyr a fydd yn gofyn i chi ad-dalu’r arian yn egluro'r ffyrdd gwahanol y gallwch dalu’r arian yn ôl.

Fodd bynnag, os ydych yn dal i gael Budd-dal Plant gallwch hefyd wneud y canlynol:

  • gofyn iddynt atal eich taliadau Budd-dal Plant nes byddwch wedi talu’r gordaliad i gyd yn ôl
  • gofyn iddynt ddidynnu swm o’ch taliadau Budd-dal Plant nes byddwch wedi talu’r gordaliad yn ôl

Os hoffech siarad â rhywun ynghylch talu’r arian yn ôl, gallwch ffonio’r rhif ffôn a welir ar eich llythyr.

Os hoffech apelio

Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Budd-dal Plant eich bod wedi cael gordaliad.

Ble i gael help a chyngor

Gallwch gael rhagor o help gydag unrhyw gwestiynau ynghylch gordaliadau gan y Swyddfa Budd-dal Plant. Gallwch wneud hyn drwy anfon eich ymholiad atynt ar-lein.

Neu, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r Llinell Gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith niwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Os byddai’n well gennych siarad Cymraeg gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn byw y tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.

Os byddai’n well gennych, gallwch hefyd ysgrifennu atynt:

Y Swyddfa Budd-dal Plant/Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle-upon-Tyne
NE88 1AA

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU