Nid ydych wedi cael eich taliad Budd-dal Plant arferol
Os nad yw'ch taliad Budd-dal Plant arferol wedi cyrraedd neu heb gael ei dalu i'ch cyfrif pan ddisgwylir ef, mae sawl peth y gallwch ei wneud i weld beth sydd wedi digwydd iddo.
Mae'n bosib na chawsoch eich taliad Budd-dal Plant oherwydd:
Os yw'ch taliad yn ddyledus ar ŵyl y banc, cewch y taliad ychydig yn gynt na'r arfer, gan amlaf y diwrnod gwaith olaf cyn gŵyl y banc.
Mae'n werth edrych i weld a yw'r taliad wedi'i dalu i'ch cyfrif eisoes.
Mae'n bosib fod eglurhad syml pam nad ydych wedi cael eich taliad. Dylech edrych eto i weld a yw’r taliad bellach yn eich cyfrif. Efallai ei fod yn hwyr oherwydd nad yw’r system bancio electronig yn cael ei diweddaru’n syth.
Os nad yw'r taliad yn eich cyfrif, bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant i weld a yw'r taliad wedi'i wneud a bod ganddynt y manylion cyfrif cywir ar eich cyfer. Os nad ydynt wedi talu, byddant yn rhoi'r rheswm dros hynny i chi ac yn datrys y mater cyn gynted â phosib.
Os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant wedi anfon siec a chithau heb ei chael, byddant yn cymryd bod y taliad ar goll, wedi'i ddwyn neu heb ei dderbyn. Bydd angen iddynt gadarnhau eich cyfeiriad hefyd.
Gallwch olrhain eich taliad drwy gysylltu â nhw ar-lein, gan ddilyn y ddolen isod.
Neu, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth y Swyddfa Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r Llinell Gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith niwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.
Os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant wedi atal eich taliadau
Mae’n bosib bod y Swyddfa Budd-dal Plant wedi atal eich taliadau.
Gallai hyn, er enghraifft, fod oherwydd na allan nhw gysylltu â chi, neu nad ydych chi wedi dweud wrthynt bod eich plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant sy'n gymwys ar gyfer Budd-dal Plant.
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn dweud wrthych os ydynt wedi gwneud camgymeriad a byddant yn unioni'r sefyllfa.
Os byddant yn penderfynu gwneud y taliad eto, byddant yn gwneud un o’r canlynol:
Os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant wedi gwneud taliad ond nad ydyw wedi mynd i'ch cyfrif, dim ond os bydd y taliad gwreiddiol wedi cael ei ddychwelyd y gallwch gael un arall yn ei le.
Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newidiadau ym manylion eich cyfrif neu'ch cyfeiriad cyn gynted â phosib.
Os na wnewch chi hynny, mae'n bosib y bydd oedi cyn i chi gael eich taliadau Budd-dal Plant neu y dônt i ben yn gyfan gwbl.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs