Help gyda'r ffurflen hawlio Budd-dal Plant
I hawlio Budd-dal Plant, bydd angen i chi lenwi ffurflen hawlio mor fanwl ac mor gywir ag y gallwch. Er mwyn osgoi oedi gyda'ch hawliad, dylech anfon y ffurflen yn ôl cyn gynted â phosib – hyd yn oed os bu'n rhaid i chi adael rhai darnau heb eu llenwi – gan mai dim ond hyd at dri mis y gall y Swyddfa Budd-dal Plant ôl-ddyddio'ch hawliad.
Rhaid i chi benderfynu pwy ddylai lenwi’r ffurflen. Fel arfer, y sawl a fydd yn cael y taliadau sy'n llenwi'r ffurflen. Ond mae'n bosib y gallwch hawlio ar ran rhywun arall os na allant hawlio drostynt eu hunain.
Os ydych yn gwpl, fel arfer mae'n well i'r sawl sy'n gofalu fwyaf am y plentyn wneud yr hawliad. Ond os nad yw'r partner arall yn ennill digon i dalu Yswiriant Gwladol neu os nad yw'n gweithio, efallai y byddai'n well iddo ef hawlio, fel y gallai ddiogelu ei Bensiwn y Wladwriaeth.
Cael popeth wrth law
Bydd angen y canlynol arnoch:
Bydd angen i chi lenwi rhywfaint o fanylion amdanoch eich hun.
Eich rhif Yswiriant Gwladol
Bydd hwn i'w weld ar eich cerdyn rhif Yswiriant Gwladol, neu ar bethau fel:
Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol – neu os na allwch ddod o hyd iddo – anfonwch y ffurflen beth bynnag i osgoi oedi.
Enw olaf neu enw teuluol
Rhowch eich enw cyfredol. Os byddwch yn newid eich enw, rhowch wybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosib.
Ydych chi’n gaeth i reolau mewnfudo?
Os ydych yn gaeth i reolau mewnfudo, ni fydd yn bosib fel rheol i chi hawlio Budd-dal Plant.
Gallai hyn olygu:
Ydych chi’n byw yn y DU fel arfer?
Os dim ond am gyfnodau byr y byddwch yn mynd dramor, megis ar wyliau neu deithiau busnes, ticiwch y blwch 'Ydw'.
Os nad ydych yn byw yn y DU fel arfer, mae'n bosib y byddwch yn dal yn gymwys i gael Budd-dal Plant.
Yn ôl y Swyddfa Budd-dal Plant, ystyr 'partner' yw:
Bydd angen rhif Yswiriant Gwladol eich partner arnoch, ac unrhyw gyfeirnod Budd-dal Plant blaenorol os yw'ch partner wedi hawlio o'r blaen.
Mae ei rif Yswiriant Gwladol i'w weld ar bethau fel slipiau cyflog a llythyrau gan Gyllid a Thollau EM. A bydd unrhyw gyfeirnod Budd-dal Plant blaenorol i'w weld ar lythyrau gan y Swyddfa Budd-dal Plant.
Os nad oes ganddo'r manylion hyn – neu os na all ddod o hyd iddynt – anfonwch y ffurflen beth bynnag i osgoi oedi.
Nodwch enwau'r plant yr ydych yn hawlio ar eu cyfer. Os oes mwy na phedwar o blant, rhestrwch y gweddill yn Rhan 6 y ffurflen hawlio. Peidiwch â chynnwys y plant yr ydych eisoes yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer.
Dechreuwch gyda'ch plentyn hynaf, yna'r ail hynaf ac ati.
Os yw eich plentyn wedi marw
Efallai y bydd yn dal yn bosib i chi hawlio Budd-dal Plant. Byddai angen i chi wneud eich hawliad cyn pen tri mis i'r dyddiad y bu farw'ch plentyn.
Y rheswm dros hyn yw mai dim ond hyd at dri mis o'r dyddiad y caiff y Swyddfa Budd-dal Plant eich ffurflen hawlio y gallant ôl-ddyddio eich Budd-dal Plant.
Nodwch y dyddiad y bu farw'ch plentyn yn Rhan 6 y ffurflen.
Tystysgrif geni neu fabwysiadu
Os nad ydych wedi hawlio Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn neu'ch plant o'r blaen, bydd angen i chi ddarparu eu tystysgrif geni neu fabwysiadu.
Os nad yw'r dystysgrif gennych, eglurwch pam yn Rhan 6 y ffurflen ac anfon y ffurflen beth bynnag er mwyn osgoi oedi
Cwestiwn: a yw unrhyw rai o'r plant y mae arnoch eisiau hawlio ar eu cyfer yn byw mewn cyfeiriad gwahanol i chi?
Os yw'r plentyn yr ydych yn hawlio ar ei gyfer yn byw mewn cyfeiriad gwahanol, efallai y bydd yn dal yn bosib i chi hawlio Budd-dal Plant ar ei gyfer:
Os ydych chi'n gyfrifol am blentyn, gallwch hawlio Budd-dal Plant hyd yn oed os nad ydych yn rhiant i'r plentyn.
Ond os oes mwy nag un person yn hawlio ar gyfer yr un plentyn, dim ond un person all gael y Budd-dal.
Os oes un neu fwy o rieni'r plentyn wedi marw, mae'n bosib y gallech gael Lwfans Gwarcheidwad hefyd.
Mabwysiadu neu faethu plentyn
Os ydych yn mabwysiadu plentyn, gallwch hawlio Budd-dal Plant pan fyddwch chi'n dod yn gyfrifol amdano.
Ond, nid yw rhieni maeth yn gymwys fel arfer.
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu'r Budd-dal Plant yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa'r Post®.
Dyma’r ffordd fwyaf diogel o’ch talu. Os nad oes gennych gyfrif addas, gallech ofyn i unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu agor un i chi. Neu gallech drefnu i rywun arall gael y taliadau ar eich rhan.
Adran cymdeithas adeiladu
Er mwyn osgoi unrhyw oedi, gwnewch yn siŵr eich bod wedi nodi:
Pa mor aml y gellir eich talu
Fel arfer, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu'r Budd-dal Plant bob pedair wythnos.
Ond os ydych yn magu'ch plant ar eich pen eich hun, neu'n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, gallwch ddewis cael eich talu'n wythnosol.
Ticiwch y blwch perthnasol.
Gallwch ddefnyddio'r adran hon er mwyn nodi unrhyw beth arall y mae angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant amdano – megis manylion plant ychwanegol, neu os ydych yn cael trafferth cael hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol neu dystysgrif geni.
Cyn llofnodi’r datganiad ar y ffurflen, gwnewch yn siŵr:
Mae'r Swyddfa Budd-dal Plant yn defnyddio'r ffurflen i benderfynu a allwch gael Budd-dal Plant. Chi sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn gywir ac mor gyflawn â phosib.
Os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir iddyn nhw, gallech gael y taliad anghywir ac mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu'r arian yn ôl.
Dilynwch gamau un i bedwar ar y ffurflen hawlio, ond gallwch anwybyddu cam pedwar os ydych wedi llwytho'r ffurflen hawlio oddi ar y rhyngrwyd.
Yna anfonwch y ffurflen a'r dystysgrif geni neu fabwysiadu i'r:
Swyddfa Budd-dal Plant/Child Benefit Office (Washington)
Rhadbost
NEA 10463
PO Box 133
Washington
NE38 7BR
Os bydd angen unrhyw gymorth pellach arnoch
Os bydd angen mwy o gymorth arnoch gyda'r ffurflen hawlio, gallwch gysylltu â'r Llinell gymorth Budd-dal Plant drwy ffonio 0845 302 1444 neu ar y ffôn testun 0845 302 1474.
Mae'r Llinell Gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, bob dydd o'r wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid
Os bydd eich amgylchiadau yn newid ar ôl i chi gyflwyno'ch hawliad, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs