Pan fyddwch chi'n anfon eich cais am Fudd-dal Plant i'r Swyddfa Budd-dal Plant, bydd angen i chi hefyd anfon tystysgrif geni neu fabwysiadu gwreiddiol eich plentyn. Os na fyddwch chi'n anfon y dystysgrif wreiddiol iddynt, efallai y bydd oedi cyn y cewch eich taliad cyntaf.
Mae ar y Swyddfa Budd-dal Plant angen y dystysgrif geni neu fabwysiadu er mwyn iddynt allu cadarnhau dros bwy'r ydych yn hawlio.
Ar ôl gwneud hynny, fe allan nhw dalu'ch Budd-dal Plant i chi.
Dylech anfon fersiwn wreiddiol un o'r canlynol i'r Swyddfa Budd-dal Plant:
Does dim ots p'un ai'r dystysgrif geni hir ynteu'r un fer a anfonwch i'r Swyddfa Budd-dal Plant.
Er enghraifft, os ydych chi wedi anfon y dystysgrif hir er mwyn gwneud cais am basbort, gallwch anfon yr un fer iddynt.
Chewch chi ddim anfon dogfennau dros e-bost. Dim ond y dogfennau gwreiddiol y gall y Swyddfa Budd-dal Plant eu derbyn.
Os bu'r Swyddfa Budd-dal Plant yn talu Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn yn y gorffennol, does dim angen i chi anfon y dystysgrif geni neu fabwysiadu iddynt - oni bai eich bod newydd fabwysiadu'r plentyn.
Cysylltwch â'r Swyddfa Budd-dal Plant os nad ydych yn gwybod a ydynt wedi talu Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn yn y gorffennol.
Os nad oes gennych chi'r dystysgrif, dylech ddal anfon eich ffurflen hawlio yn ddi-oed. Fel arfer, ni all y Swyddfa Budd-dal Plant ôl-ddyddio eich Budd-dal Plant fwy na thri mis ar ôl iddynt gael eich ffurflen. Felly os byddwch chi'n oedi, efallai na chewch chi rai taliadau.
Dylech anfon y dystysgrif iddynt yn syth ar ôl ei chael.
Os ydych chi wedi colli'r dystysgrif, gallwch wneud cais am un arall gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn eich atgoffa os byddwch yn anghofio ei hanfon atynt.
Os ydych yn mabwysiadu plentyn, efallai y byddwch yn ei chael yn anodd cael gafael ar dystysgrif mabwysiadu'ch plentyn. Os felly, cysylltwch â'r Swyddfa Budd-dal Plant ac efallai y gallant eich helpu.
Bydd arnynt angen gwybod:
Gallwch anfon eich tystysgrif gyda'r post arferol. Does dim angen i chi ddefnyddio gwasanaeth post wedi'i gofrestru neu wedi'i gofnodi.
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn dychwelyd eich tystysgrif atoch gan ddefnyddio'r un gwasanaeth ag a wnaethoch chi.
Er enghraifft, os gwnaethoch chi ddefnyddio gwasanaeth post wedi'i gofrestru, byddant hwythau'n defnyddio gwasanaeth post wedi'i gofrestru wrth ddychwelyd y dystysgrif.
Dylech anfon y dystysgrif i'r:
Swyddfa Budd-dal Plant/Child Benefit Office (Washington)
Rhadbost
NEA 10463
PO Box 133
Washington
NE38 7BR
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn dychwelyd eich tystysgrif o fewn pedair wythnos.
Os na fyddwch wedi ei chael erbyn hynny, dylech gysylltu â nhw:
Os byddwch chi angen cysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant ynghylch tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth ymholiadau ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod. Neu os oes arnoch angen siarad â rhywun, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun ar 0845 302 1474.
Mae'r Llinell Gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, bob dydd o'r wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg gallwch ffonio 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch +44 161 210 3086.
Gallwch ysgrifennu atynt hefyd:
Y Swyddfa Budd-dal Plant/Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle upon Tyne
NE88 1AA