Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-dal Plant - a ydych yn gymwys?

Fel arfer rydych yn gymwys i gael Budd-dal Plant os oes gennych blant o dan 16 oed (neu o dan 20 oed os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol) a'ch bod yn byw yn y DU.

Pwy sy’n gymwys?

Efallai y gallwch gael Budd-dal Plant os yw eich plentyn:

  • dan 16 oed
  • rhwng 16 ac 19 oed (hyd at 20 mewn rhai achosion) ac mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol
  • yn 16 neu'n 17 oed ac wedi gadael addysg a hyfforddiant perthnasol yn ddiweddar - fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt fod wedi cofrestru i weithio neu gael hyfforddiant gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd neu Connexions, y Weinyddiaeth Amddiffyn, yr Adran Cyflogaeth a Dysgu (yng Ngogledd Iwerddon) neu Fwrdd Addysg a Llyfrgelloedd (yng Ngogledd Iwerddon).

Maethu a mabwysiadu?

Os ydych yn mabwysiadu neu'n maethu efallai y gallwch hawlio Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn. Os ydych yn y broses o fabwysiadu mae angen i chi wneud cais cyn gynted â phosibl - nid oes rhaid i chi aros nes bydd y broses wedi'i chwblhau.

Beth os nad yw eich plentyn yn byw gyda chi neu os yw wedi symud oddi cartref?

Fel arfer, mae'n rhaid i'ch plentyn fyw gyda chi os ydych yn hawlio Budd-dal Plant. Fodd bynnag, efallai y gallwch fod yn gymwys hyd yn oed os yw eich plentyn yn byw gyda rhywun arall, mewn gofal neu yn yr ysbyty gan gynnwys os yw'n cael triniaeth feddygol dramor.

Beth os ydych yn byw neu'n gweithio dramor?

Os ydych yn byw neu'n gweithio dramor, efallai y gallwch gael Budd-dal Plant y DU o hyd, neu efallai y gallwch gael lwfans plant y wlad yr ydych yn byw neu'n gweithio ynddi.

Rydych newydd symud i'r DU

Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Plant os ydych newydd ddod i'r DU, ond os ydych yn gaeth i 'reolau mewnfudo' efallai na fyddwch yn gymwys.

Os yw eich plentyn wedi marw

Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Plant am hyd at wyth wythnos ar ôl i'ch plentyn farw.

Os ydych yn gofalu am blentyn sydd wedi colli rhiant

Os ydych yn gyfrifol am blentyn sydd wedi colli un rhiant neu'r ddau, efallai y gallwch hawlio Lwfans Gwarcheidwad yn ogystal â'r Budd-dal Plant.

Dal yn ansicr?

Os nad ydych yn siŵr p'un a ydych yn gymwys ai peidio, mae'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar agor rhwng 8.00am ac 8.00pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. Os ydych yn ffonio o'r DU, gallwch gysylltu â'r llinell gymorth drwy ffonio 0845 302 1444 neu ar y ffôn testun 0845 302 1474.

Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ein ffonio ar 0845 302 1489 ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch + 44 161 210 3086.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU