Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dod o hyd i'ch rhif Budd-dal Plant neu brofi eich bod yn gymwys

O bryd i'w gilydd efallai y bydd rhywun yn gofyn am eich rhif Budd-dal Plant neu brawf eich bod yn cael Budd-dal Plant. Felly mae'n syniad da i chi gadw eich holl waith papur am y Budd-dal Plant gyda'i gilydd mewn lle diogel rhag ofn y bydd ei angen arnoch yn nes ymlaen.

Pam y bydd efallai angen eich rhif Budd-dal Plant arnoch

Os ydych wedi cael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn yn y gorffennol a'ch bod bellach yn gwneud cais newydd ar eu cyfer, mae'n help os gallwch ddarparu'r rhif Budd-dal Plant oedd gennych ar y pryd. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i'r Swyddfa Budd-dal Plant ddod o hyd i'ch cofnodion, ac ni fydd yn rhaid i chi anfon tystysgrif geni neu fabwysiadu eich plentyn eto.

Bydd angen i chi hefyd gael eich rhif Budd-dal Plant os bydd yn rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am newid a allai effeithio ar eich Budd-dal Plant.

Os ydych yn gwneud cais ar wahân am gredydau treth, mae'n help os gallwch ddarparu eich rhif Budd-dal Plant ar y ffurflen hawlio. Dylai hyn olygu na fydd yn rhaid i chi anfon tystysgrif geni neu fabwysiadu eich plentyn gyda'ch ffurflen hawlio credydau treth.

Pam efallai y bydd angen prawf arnoch eich bod yn cael Budd-dal Plant

Weithiau bydd faint o Fudd-dal Plant y byddwch yn ei gael yn cael ei ystyried os ydych yn hawlio rhai mathau eraill o fudd-daliadau. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd brofi lle mae eich plentyn yn byw neu eich bod chi'n gyfrifol amdanynt.

Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi ddangos prawf eich bod yn cael Budd-dal Plant os ydych am hawlio budd-daliadau fel:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Gostyngiad Treth Gyngor
  • rhai budd-daliadau cyngor lleol penodol - er enghraifft grant dillad, neu ginio ysgol am ddim

Efallai y bydd angen y wybodaeth hon arnoch hefyd os ydych yn gwneud cais am fenthyciad neu os ydych am ddangos eich bod mewn ardaloedd dalgylch ysgolion

Pa brawf efallai y bydd angen i chi ei ddarparu

Efallai y bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen os ydych yn mynd i hawlio unrhyw fudd-daliadau neu grantiau eraill. Gofynnwch i'r sefydliad yr ydych yn gwneud cais iddo am help gyda'r hyn y mae angen i chi ei ddarparu. Er enghraifft, efallai y byddant eisiau:

  • eich Hysbysiad o Ddyfarniad Budd-dal Plant
  • eich rhif Budd-dal Plant
  • prawf eich bod yn dal i gael Budd-dal Plant
  • cadarnhad o faint o Fudd-dal Plant yr ydych yn ei gael

Lle gallwch gael eich rhif Budd-dal Plant neu'r prawf eich bod yn gymwys

Gallwch gael eich rhif neu'r math o dystiolaeth fydd ei hangen arnoch o'ch gwaith papur Budd-dal Plant:

  • Mae eich Hysbysiad o Ddyfarniad yn rhoi gwybod i chi eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant, mae hefyd yn nodi pa blant yr ydych yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer a faint am bob plentyn.
  • unrhyw lythyr o'r Swyddfa Budd-dal Plant sy'n dangos eich rhif Budd-dal Plant
  • byddwch yn cael llythyr bob blwyddyn yn rhoi gwybod i chi am y cynnydd mewn Budd-dal Plant y byddwch yn ei gael - mae hyn yn dystiolaeth eich bod yn cael Budd-dal Plant a hefyd yn dangos faint rydych yn ei gael
  • mae eich cyfriflen banc yn dangos eich taliad Budd-dal Plant yn mynd i'ch cyfrif - efallai y bydd hefyd yn dangos eich rhif Budd-dal Plant

Am ba hyd y dylwn gadw’r gwaith papur?

Chi sydd i benderfynu am ba hyd yr ydych am gadw'r gwaith papur ond byddai'n ddefnyddiol cadw'r Hysbysiad o Ddyfarniad ac unrhyw lythyrau pwysig eraill nes byddwch wedi rhoi'r gorau i gael Budd-dal Plant.

Os na allwch ddod o hyd i'ch gwaith papur

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant os na allwch ddod o hyd i unrhyw waith papur y mae ei angen arnoch neu os ydych am gael eich rhif Budd-dal Plant. Gallwch wneud hyn drwy anfon ymholiad at Gyllid a Thollau EM ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen isod neu gallwch ffonio Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu'r ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ffonio ar 0845 302 1489 ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch + 44 161 210 3086.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU