Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

A yw Budd-dal Plant yn effeithio ar fudd-daliadau eraill?

Ni fydd y Budd-dal Plant yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch chi. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd rhai budd-daliadau'n ystyried eich Budd-dal Plant. Mae'n bwysig rhoi gwybod i swyddfeydd eraill sy'n talu eich budd-dal os ydych yn cael Budd-dal Plant - fel na fyddant yn talu gormod i chi.

Pa fudd-daliadau eraill y gellir effeithio arnynt

Nid yw'r Budd-dal Plant yn seiliedig ar 'brawf modd' - ni fydd y swm y byddwch yn ei gael yn cael ei effeithio gan:

  • faint o arian sydd gennych yn dod i mewn - eich incwm
  • faint o gynilion sydd gennych

Ond mae rhai budd-daliadau eraill yn seiliedig ar brawf modd a chaiff y taliadau Budd-dal Plant y byddwch yn eu cael eu hystyried fel rhan o'ch incwm.

Mae'r budd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd hyn yn cynnwys:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (yn cynnwys pob Lwfans Hyfforddi/Bargen Newydd a delir gydag ef)
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal y Dreth Gyngor

Os ydych yn hawlio unrhyw un o'r budd-daliadau hyn mae'n bwysig eich bod yn gadael i'r swyddfa sy'n talu'r budd-dal wybod eich bod yn cael Budd-dal Plant hefyd. Drwy wneud hynny byddwch yn cael y swm cywir o fudd-daliad ganddynt. Fel arall efallai y cewch ormod a bydd angen i chi dalu rhywfaint yn ôl.

A yw Budd-dal Plant yn effeithio ar eich credydau treth?

Nid yw Budd-dal Plant yn cael ei ystyried fel incwm os ydych yn gwneud cais am gredydau treth.

Os ydych yn cael Credyd Treth Plant i'ch plant a Chymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm eich hun, nid yw eich Budd-dal Plant yn cael ei ystyried fel incwm bellach pan gyfrifir eich Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau eraill yn ymwneud ag incwm

Pan fyddwch yn gwneud cais am unrhyw un o'r budd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd uchod bydd yn rhaid i chi roi gwybod i'r swyddfa sy'n eu talu am eich taliadau Budd-dal Plant. Fel arfer bydd angen i chi gwblhau ffurflen hawlio i wneud cais am y budd-dal - bydd hon yn gofyn i chi nodi'r plant rydych yn gofalu amdanynt ac yr ydych yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer.

Os byddwch yn dechrau cael Budd-dal Plant

Os ydych eisoes yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau a restrir uchod bydd yn rhaid i chi roi gwybod i'r swyddfa sy'n eich talu eich bod yn dechrau cael Budd-dal Plant hefyd. Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael eich babi cyntaf. Cofiwch roi gwybod i'r swyddfa fudd-daliadau hefyd os ydych yn dechrau cael mwy o Fudd-dal Plant na'r hyn roeddech wedi dweud i ddechrau - er enghraifft os byddwch yn cael plentyn arall.

Bydd angen i chi gysylltu â'r holl swyddfeydd perthnasol os ydych yn cael budd-daliadau'n seiliedig ar brawf modd ac yna eich bod yn dechrau cael Budd-dal Plant.

Os byddwch yn rhoi'r gorau i gael Budd-dal Plant

Os ydych wedi bod yn cael Budd-dal Plant ond y daw i ben, bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfeydd sy'n talu eich budd-daliadau eraill. Byddant yn cyfrifo eto faint o fudd-dal y dylech fod yn ei gael. Efallai y bydd eich budd-daliadau'n wahanol oherwydd bydd eich incwm wedi gostwng.

Mae'n syniad da cysylltu â hwy ar unwaith os na fyddwch yn cael Budd-dal Plant. Os byddwch yn oedi ac na ellir ôl-ddyddio'r budd-dal byddwch yn colli unrhyw arian ychwanegol a allai fod yn ddyledus i chi.

Bydd angen i chi gysylltu â'r holl swyddfeydd perthnasol os ydych yn cael budd-daliadau'n seiliedig ar brawf modd ac yna bod eich Budd-dal Plant yn dod i ben.

Manylion cyswllt er mwyn rhoi gwybod am newidiadau

Os ydych yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban

Dylech gysylltu â'r swyddfeydd canlynol:

  • y Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith
  • eich cyngor lleol ar gyfer Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor

Os ydych chi'n gweithio yng Ngogledd Iwerddon

Dylech gysylltu â'r swyddfeydd canlynol:

  • eich Swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu'r Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau leol ar gyfer Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith
  • Gweithrediaeth Dai Gogledd Iwerddon ar gyfer Budd-dal Tai i denantiaid
  • y Gwasanaethau Tir ac Eiddo ar gyfer Budd-dal Tai i berchen-feddiannwyr

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU