Os ydych yn credu bod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'ch Budd-dal Plant, mae digon o gymorth a chyngor ar gael i helpu i weld beth sydd wedi digwydd ac i ddatrys unrhyw broblemau.
Os oedd gennych ffurflen hawlio Budd-dal Plant ond nad ydych yn gallu dod o hyd iddi bydd angen i chi gael un arall a'i hanfon at Gyllid a Thollau EM.
Y ffordd hawsaf o gael ffurflen hawlio Budd-dal Plant newydd yw ar y we. Gallwch wneud y canlynol:
Pa bynnag ffordd y byddwch yn ei dewis, cwblhewch hi'n ofalus ac yna ei phostio i'r Swyddfa Budd-dal Plant. Mae’r cyfeiriad wedi'i nodi ar y ffurflen.
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth geisio cael y ffurflen hawlio gallwch gysylltu â Llinell Gymorth y Swyddfa Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu'r ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinellau ar agor o 8.00 am tan 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ffonio ar 0845 302 1489 ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch + 44 161 210 3086.
Weithiau efallai na gewch daliad Budd-dal Plant er eich bod yn disgwyl un. Neu efallai y cewch lai na'r oeddech yn ei ddisgwyl heb rybudd.
Er enghraifft, efallai eich bod:
Os yw Cyllid a Thollau EM fel arfer yn gwneud taliadau'n uniongyrchol i'ch cyfrif, efallai nad ydynt wedi dangos yno eto. Neu efallai nad oes ganddynt fanylion cywir am eich cyfrif.
Efallai nad ydych yn siŵr pryd mae eich taliad Budd-dal Plant yn ddyledus. Os nad ydych yn siŵr, gallwch edrych ar ddyddiad y taliad ar-lein.
Os ydych yn credu bod y swm yr ydym yn ei dalu i chi yn anghywir
Mae faint o Fudd-dal Plant a gewch chi'n dibynnu ar:
Nid ydych yn cael yr un faint am bob plentyn. Byddwch yn cael mwy o arian am eich plentyn hynaf neu eich unig blentyn nag am unrhyw un o'ch plant eraill.
Os ydych wedi edrych ar y cyfraddau presennol a'ch bod yn credu eich bod yn cael y swm anghywir o hyd, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosib. Gallwch gysylltu â hwy ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.
Neu gallwch ffonio Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os byddai'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ffonio ar 0845 302 1489 ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch + 44 161 210 3086.
Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM pam eich bod yn credu bod y swm yn anghywir, er enghraifft, efallai bod eich amgylchiadau wedi newid. Bydd Cyllid a Thollau EM yn edrych ar eich manylion ac yn sicrhau y cewch y swm cywir cyn gynted â phosibl.
Os bydd Cyllid a Thollau EM wedi edrych ar eich cais neu'ch manylion ac wedi dod i benderfyniad nad ydych yn cytuno ag ef, cysylltwch â hwy o fewn mis i ddyddiad y llythyr a anfonwyd atoch ynglŷn â'r penderfyniad. Gallwch ofyn iddynt:
Mae gennych hawl i gael eglurhad priodol am benderfyniad ar Fudd-dal Plant.
Os edrychir ar eich cais eto, bydd Cyllid a Thollau EM naill ai'n newid y penderfyniad os oedd yn anghywir, neu'n cadw at y penderfyniad gwreiddiol.
Os nad ydych yn hapus o hyd, gallwch apelio yn erbyn eu penderfyniad. Os byddwch yn bwrw ymlaen â'r apêl, byddant yn ei throsglwyddo at gorff annibynnol, y Gwasanaeth Apeliadau, i'w hystyried.
Os ydych yn anfodlon gyda'r ffordd y deliodd Cyllid a Thollau EM gyda'ch cais am Fudd-dal Plant, gallwch gwyno. Gallwch gwyno wrthynt dros y ffôn neu'n ysgrifenedig. Byddant yn gwneud eu gorau i ddelio â'ch cwyn cyn gynted â phosibl