Taliad di-dreth yw'r Lwfans Gwarcheidwad ar gyfer pobl sy'n magu plant y mae eu rhieni wedi marw. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Lwfans Gwarcheidwad pan mai dim ond un rhiant sydd wedi marw.
Gallwch fel arfer gael Lwfans Gwarcheidwad ar yr amod:
Mae gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd fel a ganlyn - yr Almaen, Awstria, Denmarc, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Cyprus, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.
Os byddwch yn mabwysiadu plentyn gallwch gael Lwfans Gwarcheidwad o hyd ar yr amod eich bod yn ei gael cyn i chi fabwysiadu'r plentyn.
Os oes un rhiant wedi marw
Weithiau gallwch gael Lwfans Gwarcheidwad os mai dim ond un rhiant sydd wedi marw, er enghraifft os:
Mae'r Lwfans Gwarcheidwad yn £13.45 yr wythnos am bob plentyn yn ychwanegol i'r hyn a gewch gyda'r Budd-dal Plant.
Caiff y Lwfans Gwarcheidwad ei dalu gyda'ch taliadau Budd-dal Plant, ac fel arfer caiff ei dalu bob pedair wythnos yn uniongyrchol i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Nid yw'r Lwfans Gwarcheidwad yn cael ei ystyried fel incwm os ydych yn hawlio credydau treth, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm. Telir hwn ar ben y budd-daliadau hyn.
Fel arfer gall Cyllid a Thollau EM ôl-ddyddio'r Lwfans Gwarcheidwad hyd at dri mis o'r dyddiad y byddant yn cael eich cais. Ond gweithiau gallant ei ôl-ddyddio at yr adeg pan wnaethoch ddechrau cael Budd-dal Plant. Fodd bynnag byddai'n well gwneud eich cais ar unwaith er mwyn osgoi colli arian. Dylech hawlio Lwfans Gwarcheidwad cyn gynted ag y bydd y plentyn dan sylw yn dod i fyw gyda chi.
Ceisiwch hawlio'r Lwfans Gwarcheidwad a'r Budd-dal Plant yr un adeg fel y gallant ddelio â'r ddau gais gyda'i gilydd. Os na allwch wneud cais am y Lwfans Gwarcheidwad ar unwaith, sicrhewch eich bod yn gwneud cais am y Budd-dal Plant.
Pan fyddwch yn gwneud cais bydd angen i chi ddarparu:
Ni all Cyllid a Thollau EM dderbyn llungopïau.
Lle i gael ffurflen hawlio
Gallwch wneud y canlynol:
Cyn i chi gwblhau'r ffurflen hawlio, darllenwch y nodiadau sy'n cyd-fynd â hi.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich ffurflen, dychwelwch hi at yr Uned Lwfans Gwarcheidwad i'r cyfeiriad a ddangosir uchod.
Mae llawer o newidiadau a all effeithio ar eich hawl i gael Lwfans Gwarcheidwad a Budd-dal Plant.
Os ydych yn cael Lwfans Gwarcheidwad oherwydd bod un rhiant wedi marw a bod y rhiant arall mewn carchar neu ysbyty, mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd y rhiant hwnnw:
Mae newidiadau eraill hefyd a all effeithio ar eich hawl i gael Lwfans Gwarcheidwad a Budd-dal Plant. Er enghraifft, mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os:
Gall newidiadau eraill hefyd oedi eich taliadau. Mae'n bwysig iawn rhoi gwybod am newidiadau os:
Os ydynt wedi ystyried eich cais am Lwfans Gwarcheidwad neu eich manylion ac wedi dod i benderfyniad nad ydych yn cytuno ag ef, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM o fewn mis i ddyddiad y penderfyniad. Gallwch ofyn iddynt:
Mae gennych hawl i gael esboniad llawn am benderfyniad ar Lwfans Gwarcheidwad.
Os edrychir ar eich cais eto, byddant naill ai yn newid eu penderfyniad os bydd yn anghywir, neu'n cadw at y penderfyniad gwreiddiol.
Os nad ydych yn hapus o hyd, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Os byddwch yn bwrw ymlaen â'r apêl, bydd Cyllid a Thollau EM yn ei throsglwyddo at gorff annibynnol, y Gwasanaeth Apeliadau, i'w hystyried. Mae'r broses apeliadau ar gyfer y Lwfans Gwarcheidwad yr un fath â'r broses ar gyfer y Budd-dal Plant.
Gallwch gysylltu â'r Uned Lwfans Gwarcheidwad mewn sawl ffordd. Gallwch anfon eich ymholiad ar-lein, neu ffonio'r Uned ar 0845 302 1464 neu'r ffôn testun 0845 302 1474 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30 am a 5.00 pm (ac eithrio Gwyliau Banc).
Fel arall gallwch ysgrifennu at:
The Guardian's Allowance Unit
Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle upon Tyne
NE88 1AA.