Fel arfer bydd taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben pan fydd eich plentyn yn 16 oed. Gall Cyllid a Thollau EM barhau i'w talu os yw eich plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol. Efallai y gallwch hawlio estyniad i'ch Budd-dal Plant hefyd os yw eich plentyn o dan 18 oed ac wedi cofrestru ar gyfer gwaith, addysg neu hyfforddiant.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn cysylltu â chi rhwng mis Ionawr a mis Mehefin yn ystod y flwyddyn ysgol y bydd eich plentyn yn troi'n 16 oed. Os ydych yn byw yn yr Alban, byddant yn cysylltu â chi naill ai ganol mis Mehefin neu ganol mis Tachwedd. Gofynnir i chi os yw eich plentyn yn bwriadu mynd ymlaen i addysg neu hyfforddiant perthnasol ac, os ydyw, beth fydd yn ei wneud a phryd y bydd yn gadael.
Gallwch roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am y wybodaeth sydd ei hangen arnynt drwy:
Unwaith y byddwch wedi rhoi'r manylion hyn i Gyllid a Thollau EM, byddant yn rhoi gwybod i chi a allwch barhau i gael Budd-dal Plant ai peidio. Oni fyddwch yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM, byddant yn atal eich taliadau.
Unwaith y bydd eich plentyn yn troi'n 16 oed gall Cyllid a Thollau EM barhau i dalu Budd-dal Plant i chi ar yr amod ei fod yn cael ei ystyried fel 'person ifanc cymwys'. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael Budd-dal Plant iddo tan 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed, ac ar ôl y dyddiad hwnnw ni fydd y taliadau'n parhau oni fydd un o'r canlynol yn berthnasol:
Pan fydd eich plentyn yn 16 oed ac yn gadael yr ysgol, bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn atal eich taliadau ar ei gyfer ar y dydd Llun cyntaf ym mis Medi.
Os bydd eich plentyn yn gadael yr ysgol neu'r addysg neu hyfforddiant perthnasol ar ôl 31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 16 oed, ceir dyddiadau gwahanol ar gyfer atal taliadau Budd-dal Plant. Bydd y rhain fel arfer yn parhau o'r dyddiad y bydd eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol tan yr wythnos sy'n cynnwys y dyddiad cyntaf o'r dyddiadau hyn:
Bydd y taliadau fel arfer yn dod i ben ar y dydd Llun canlynol.
Weithiau, bydd taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben yn gynt, er enghraifft os yw eich plentyn yn 16 oed neu'n hŷn ac yn dechrau gweithio 24 awr neu fwy yr wythnos neu'n dechrau cael budd-daliadau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y sefyllfaoedd hyn isod
Gall Cyllid a Thollau EM barhau i dalu Budd-dal Plant nes bydd eich plentyn yn 20 oed os bydd yn mynd i addysg neu hyfforddiant perthnasol. Bydd angen i'ch plentyn fod wedi'i dderbyn, wedi cofrestru neu wedi dechrau ar y cwrs cyn iddynt fod yn 19 oed.
Ni allwch gael Budd-dal Plant os yw eich plentyn yn gwneud:
Efallai fod eich plentyn wedi penderfynu ei fod am barhau mewn addysg neu hyfforddiant ond yna wedi newid ei feddwl. Er enghraifft efallai nad oedd canlyniadau ei arholiadau ddigon da i wneud y cwrs o'i ddewis. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os yw eich plentyn wedi newid ei feddwl.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn trin y dyddiad y gwnaeth eich plentyn newid ei feddwl fel y dyddiad y gadawodd addysg neu hyfforddiant. Gallant fel arfer barhau i dalu Budd-dal Plant at y dyddiadau cynharaf a ddangoswyd uchod.
Os yw eich plentyn o dan 18 oed, efallai gallwch hefyd ymestyn eich Budd-dal Plant am hyd at 20 wythnos
Weithiau gallwch ymestyn eich Budd-dal Plant am hyd at 20 wythnos os yw eich plentyn:
Mae amodau eraill y mae'n rhaid i chi eu bodloni er mwyn cael yr estyniad.
Os yw eich plentyn yn dechrau gweithio ar ôl iddo droi'n 16 oed, a'i fod yn gweithio 24 awr yr wythnos neu fwy, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi'r gorau i dalu Budd-dal Plant o'r dydd Llun ar ôl iddynt ddechrau gweithio. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd hyn yn digwydd. Ond gall eich taliadau barhau os, yn ogystal â gweithio, bydd eich plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant perthnasol hefyd. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddo fod wedi gwneud cais neu fod wedi dechrau'r cwrs cyn iddo droi'n 19 oed. Os felly gallwch gael Budd-dal Plant nes bydd yn gadael neu'n troi yn 20 oed, pa bynnag un sy'n digwydd gyntaf. Nid oes gwahaniaeth faint o oriau y bydd yn ei weithio.
Os bydd eich plentyn yn dechrau mewn addysg berthnasol a ddarperir drwy ei waith neu hyfforddiant perthnasol drwy gontract swydd, yna bydd y Budd-dal Plant yn dod
Ni fyddwch yn cael Budd-dal Plant os bydd eich plentyn yn cael:
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd eich plentyn yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn. Mae hyn yn wahanol i'r budd-daliadau yr ydych chi'n eu cael. Bydd eich Budd-dal Plant yn dod i ben ar y diwrnod o'r wythnos y dechreuodd eich plentyn gael ei fudd-daliadau ei hun. Er enghraifft, os dechreuodd eich plentyn gael budd-daliadau:
Mae'r budd-daliadau y gall eich plentyn eu hawlio ond na fyddant yn effeithio ar eich taliadau fel a ganlyn:
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd eich plentyn yn priodi neu'n byw gyda phartner. Fel arfer gallwch barhau i gael Budd-dal Plant i'ch plentyn os yw un o'r canlynol yn berthnasol:
Gallwch gael Budd-dal Plant o hyd os yw eich plentyn yn gadael yr ysgol neu goleg ond ei fod wedi'i gofrestru i sefyll arholiadau y tymor nesaf. Unwaith y bydd wedi gorffen ei arholiad olaf, bydd Cyllid a Thollau EM yn parhau i dalu Budd-dal Plant o ddyddiad yr arholiad diwethaf tan yr wythnos sy'n cynnwys y dyddiad cynharaf o'r canlynol:
Efallai na fydd ailsefyll arholiadau'n cyfrif.
Bydd eich Budd-dal Plant yn dod i ben os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol rhwng yr amser y mae eich plentyn yn gadael yr ysgol ac yn sefyll ei arholiadau:
Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant drwy sawl ffordd.
Gallwch ffonio Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0845 302 1444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os yw'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ein ffonio ar 0845 302 1489, ac os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU ffoniwch + 44 161 210 3086.
Neu gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM yn:
Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle-upon-Tyne
NE88 1AA.
Gallwch hefyd roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw newidiadau neu gofynnwch am gyngor ar-lein drwy ddefnyddio'r dolenni perthnasol isod.