Cewch Fudd-dal Plant cyfradd uwch ar gyfer eich plentyn hynaf neu'ch unig blentyn, a chyfradd is ar gyfer unrhyw blant ychwanegol. Mae Lwfans Gwarcheidwad yn swm ychwanegol y gall rhai pobl ei gael ar ben y Budd-dal Plant.
Bwdd swm eich Budd-dal Plant yn dibynnu ar faint o blant y mae gennych yr hawl i gael Budd-dal Plant ar eu cyfer, a chyfraddau presennol y Budd-dal Plant.
Mae'r cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009 fel a ganlyn:
|
Ar gyfer pwy mae’r lwfans |
Swm wythnosol |
|---|---|
|
Y plentyn hynaf neu'r unig blentyn |
£18.80 |
|
Plant ychwanegol - fesul plentyn |
£12.55 |
|
Gwarcheidwad - fesul plentyn |
£13.45 |
Pan fyddwch yn dechrau cael Budd-dal Plant byddwch yn cael eich talu ar sail y cyfraddau ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Bydd faint y byddwch yn ei gael fel arfer yn cynyddu ym mis Ebrill bob blwyddyn. Os bydd y cyfraddau yn newid, fel arfer byddwch yn cael llythyr rywbryd rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth yn rhoi gwybod i chi faint y dylech ddisgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth nesaf.
Dim ond un plentyn yn eich teulu, neu'ch teulu estynedig, sy'n gymwys ar gyfer y Budd-dal Plant cyfradd uwch. Os bydd dau deulu yn uno gyda'i gilydd, eich plentyn hynaf sy'n gymwys i gael y gyfradd uwch. Os oes gennych yr hawl i gael Budd-dal Plant ar gyfer unrhyw un o'r plant eraill yn y teulu newydd byddwch yn cael cyfradd is ar gyfer pob un ohonynt.
Os bydd teulu'n chwalu gallwch gael cyfradd uwch ar gyfer eich plentyn hynaf, ar yr amod eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant ar ei gyfer.
Os ydych yn credu bod faint o Fudd-dal Plant yr ydych yn ei gael yn anghywir, naill ai yn ormod neu nad yw'n ddigon, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM ar unwaith. Gallwch wneud hyn ar-lein.
Fel arall, gallwch ffonio Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 08453 021 444 neu ffôn testun 0845 302 1474. Mae'r Llinell Gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os yw'n well gennych siarad Cymraeg, gallwch ein ffonio ar 0845 302 1489, ac os ydych yn byw y tu allan i'r DU ffoniwch + 44 161 210 3086.
Gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM hefyd yn:
Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle-upon-Tyne
NE88 1AA
.
Gall Cyllid a Thollau EM ateb mewn fformat arbennig, fel Braille, tâp sain neu brint bras, os gofynnwch iddynt
Os na fydd Cyllid a Thollau EM wedi talu digon i'ch cyfrif, byddant yn rhoi taliad arall i chi neu'n ychwanegu'r arian sy'n ddyledus i chi at eich taliad nesaf. Y naill ffordd neu'r llall, bydd Cyllid a Thollau EM yn cysylltu â chi i adael i chi wybod beth maent yn mynd i'w wneud.
Os bydd Cyllid a Thollau EM wedi talu gormod i chi am unrhyw reswm, er enghraifft gan na wnaethoch roi gwybod iddynt am newid yn eich amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r arian ychwanegol yn ôl.