Taliad di-dreth yw'r Lwfans Gwarcheidwad ar gyfer pobl sy'n magu plant y mae eu rhieni (rhieni biolegol neu rieni a oedd wedi mabwysiadu'r plentyn) wedi marw. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Lwfans Gwarcheidwad pan mai dim ond un rhiant sydd wedi marw.
Mae'n bosibl y gallwch chi gael Lwfans Gwarcheidwad os ydych chi'n magu plentyn neu blant a bod naill ai'r ddau riant neu un ohonynt wedi marw a bod un o'r canlynol yn berthnasol:
Does dim rhaid i chi fod yn warcheidwad cyfreithlon i'r plentyn i gael Lwfans Gwarcheidwad, ond mae'n rhaid eich bod yn cael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn.
£13.45 yr wythnos ar gyfer pob plentyn.
Os ydych chi'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, ni chaiff y Lwfans Gwarcheidwad ei drin fel incwm ac fe'i telir ar ben y budd-daliadau hyn.
Ni chaiff y Lwfans Gwarcheidwad ei ystyried yn incwm wrth i chi gael eich asesu ar gyfer Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant. Bydd yn cael ei dalu ar ben unrhyw gredydau treth rydych chi'n gymwys i'w derbyn.
Gallwch gael pecyn hawlio drwy ffonio'r Uned Lwfans Gwarcheidwad ar 0845 302 1464, ffôn testun 0845 601 80 39 rhwng 8.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar benwythnosau.
Neu fe allwch chi lwytho ffurflen hawlio (BG1) ar fformat PDF oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Telir y Lwfans Gwarcheidwad gyda'ch taliadau Budd-dal Plant.
Caiff ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Fel arfer, telir y Lwfans Gwarcheidwad bob pedair wythnos ond os ydych chi'n rhiant unigol, neu os ydych chi neu'ch partner neu bartner sifil yn derbyn naill ai'r Cymhorthdal Incwm neu'r Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, cewch ddewis cael eich arian bob wythnos.
Fel arfer, byddwch yn dal i allu cael y Lwfans Gwarcheidwad cyn belled â'ch bod yn dal i fod â'r hawl i gael Budd-dal Plant.
Os byddwch chi'n mynd dramor, dylech gysylltu â'r Uned Lwfans Gwarcheidwad ymhell cyn i chi adael er mwyn iddyn nhw benderfynu a fydd gennych hawl i gael Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwad pan fyddwch dramor.
Gallwch gysylltu â'r Uned Lwfans Gwarcheidwad drwy ffonio'u llinell gymorth ar 0845 302 1464, ffôn testun 0845 302 1474 (rhwng 8.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus). Neu gallwch roi gwybod iddynt ar-lein fod eich amgylchiadau wedi newid.